View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Dulliau iaith a chyfathrebu

Dulliau iaith a chyfathrebu

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+7
mis

Mae dulliau iaith a chyfathrebu yn golygu gweithredu’n fwriadol i ddatblygu dealltwriaeth plant ifanc o iaith a’u gallu a’u hyder i ddefnyddio iaith, a strategaethau eraill, i gyfathrebu’n effeithiol. Maent yn seiliedig ar y syniad bod datblygiad iaith plant yn elwa o ddulliau sy’n cefnogi cyfathrebu trwy siarad a mynegiant dieiriau.

Gellir grwpio dulliau iaith a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar ac maent yn cynnwys:

  • Dulliau sy’n cefnogi agweddau ieithyddol ar gyfathrebu, fel addysgu a modelu geirfa ac iaith
  • Dulliau sydd ar yr un pryd yn cefnogi agweddau gwybyddol ac ieithyddol ar gyfathrebu, fel darllen rhyngweithiol neu sgwrsio cydweithredol
  • Dulliau sy’n cefnogi agweddau corfforol ar gyfathrebu fel addysgu a modelu sgiliau cyfathrebu cymdeithasol

Mae dulliau fel arfer yn cynnwys gweithiwr blynyddoedd cynnar proffesiynol, sydd wedi’i hyfforddi yn y dull gweithredu, yn gweithio gyda grŵp bach o blant neu yn unigol i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu.

Mae Storfa Dystiolaeth Blynyddoedd Cynnar yr EEF (Early Years Evidence Store) yn cynnwys mwy o fanylion am yr arferion penodol yn y crynodeb tystiolaeth hwn.

  • Mae dulliau iaith a chyfathrebu fel arfer yn cael effaith sylweddol iawn ac yn arwain at gynnydd o saith mis yn nysgu plant ifanc.

  • Mae effeithiau cadarnhaol wedi’u nodi ar sgiliau iaith a llythrennedd cynnar. Wrth ddewis strategaethau, mae’n bwysig ystyried deilliannau.

  • Mae staff yn debygol iawn o elwa o hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol i ddefnyddio rhaglenni a dulliau gweithredu’n llwyddiannus.

  • Mae llawer o ddulliau iaith a chyfathrebu. Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn debygol o gynnwys nifer o strategaethau ar draws geirfa, iaith, siarad a sgiliau cyfathrebu cymdeithasol.

Yn gyffredinol, mae astudiaethau o ddulliau iaith a chyfathrebu yn dangos manteision cadarnhaol yn gyson i ddysgu plant ifanc, gan gynnwys eu sgiliau iaith lafar, eu geirfa fynegiannol a’u sgiliau darllen cynnar. Ar gyfartaledd, mae plant sy’n ymwneud â dulliau iaith a chyfathrebu yn gwneud cynnydd ychwanegol o saith mis dros gyfnod o flwyddyn. Mae’n ymddangos bod pob plentyn yn elwa o ddulliau o’r fath, ond mae rhai astudiaethau’n dangos effeithiau ychydig yn fwy i blant o gefndiroedd difreintiedig.

Mae rhai mathau o ddulliau iaith a chyfathrebu yn ymddangos, ar gyfartaledd, i fod yn fwy effeithiol nag eraill. Mae tystiolaeth gyson bod darllen i blant ifanc, a’u hannog i ateb cwestiynau a siarad am y stori gydag oedolyn hyfforddedig, yn ddull effeithiol. Mae nifer o astudiaethau’n dangos manteision rhaglenni lle mae cynorthwywyr addysgu hyfforddedig wedi cefnogi sgiliau iaith lafar a sgiliau darllen cynnar.

Mae nifer o astudiaethau yn cynnig sylwadau ar bwysigrwydd hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, a chefnogi gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol i weithredu gwahanol ddulliau.

Mae’r sylfaen dystiolaeth yn cynnwys nifer o astudiaethau o ansawdd uchel o’r DU. Canfu hap-dreial rheoledig yn 2016 effaith gadarnhaol sef cynnydd ychwanegol o bedwar mis ar gyfer Ymyrraeth Iaith Gynnar Nuffield – rhaglen a gynlluniwyd i wella gallu iaith lafar plant yn ystod y cyfnod pontio o’r meithrin i’r ysgol gynradd.

Mae’r dystiolaeth yn gymharol gyson, sy’n awgrymu y gall dulliau iaith a chyfathrebu fod yn llwyddiannus mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Mae llai yn hysbys am effaith hirdymor dulliau iaith a chyfathrebu, felly byddai tystiolaeth ychwanegol ynghylch a yw’r manteision yn cael eu cynnal unwaith y bydd plant yn dechrau yn yr ysgol, a sut i sicrhau hynny, yn werthfawr.

  • Mae bron pob astudiaeth yn ymchwilio i’r effeithiau ar ddeilliannau iaith neu ddarllen cynnar.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn lleoliadau meithrin a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd ac maent yn dangos effeithiau cadarnhaol sylweddol ar draws y ddau fath o leoliad.

  • Er bod astudiaethau wedi digwydd mewn wyth gwlad, mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau yn dod o UDA, ac mae’r rhain yn dangos effaith ychydig yn fwy ar gynnydd plant nag astudiaethau o wledydd eraill. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod angen rhywfaint o ofal wrth fabwysiadu dulliau o wahanol gyd-destunau.

Ychydig iawn o astudiaethau sy’n mesur effaith dulliau iaith a chyfathrebu ar blant o gefndiroedd difreintiedig, sy’n golygu nad yw’n bosibl mesur yr effaith yn gywir. Fodd bynnag, roedd y nifer fach o astudiaethau sydd wedi digwydd mewn lleoliadau sydd â chyfran uwch o blant sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn tueddu i gael effeithiau uwch na’r cyfartaledd sy’n awgrymu bod hyn yn debygol o fod yn ddull buddiol i’r grŵp hwn.

Mae tystiolaeth o fylchau iaith ar gyfer disgyblion difreintiedig ar ddechrau’r ysgol, felly gall cymorth cyfathrebu wedi’i dargedu fod yn ddull addawol o leihau’r anghydraddoldebau hyn.

Mae dulliau iaith a chyfathrebu yn rhan hanfodol o’r ddarpariaeth yn y blynyddoedd cynnar. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r effaith gyfartalog addawol, mae gweithredu’n bwysig. Yn benodol:

  • Paru dulliau yn ofalus ag anghenion plant – er enghraifft gwneud diagnosis a fyddai’n nodi a yw plentyn yn cael trafferth gyda geirfa neu gyda chyfathrebu cymdeithasol
  • Cysylltu iaith lafar plant â datblygiad eu sgiliau darllen ac ysgrifennu
  • Sicrhau bod plant yn dod i gysylltiad ag ystod o strategaethau drwy gyfuno dulliau iaith a chyfathrebu gwahanol, gan fod hyn yn debygol o fod yn fwy effeithiol na defnyddio un dull
  • Sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi i gyflwyno gwahanol ddulliau

Lle nad yw gweithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol yn siŵr o’r ffordd orau o gefnogi plentyn neu’n amau nad yw plentyn yn bodloni normau datblygiadol, efallai y byddai’n well gofyn am gymorth gan therapydd lleferydd ac iaith.

Mae’r Storfa Dystiolaeth Blynyddoedd Cynnar yn cynnig rhai syniadau ychwanegol ar sut y gellid gweithredu dulliau iaith a chyfathrebu mewn gwahanol gyd-destunau, ynghyd â deunyddiau enghreifftiol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y costau’n isel iawn. Ychydig iawn o gostau ariannol uniongyrchol, os o gwbl, sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu. Efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol fel llyfrau i’w trafod. Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol yn isel iawn, mae’r opsiwn i ddarparu adnoddau ychwanegol fel llyfrau i’w trafod, a datblygiad proffesiynol i staff yn golygu y gall costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Mewn gwerthusiad diweddar yn y DU, amcangyfrifwyd bod cost adnoddau ychwanegol rhwng £10 ac £20 y disgybl. Mae datblygiad proffesiynol neu hyfforddiant hefyd yn debygol o wella’r buddiannau o ran dysgu. Roedd un rhaglen gyfathrebu ddwys a werthuswyd gan EEF yn costio tua £80 y plentyn am ymyriad 30 wythnos, a hynny’n cynnwys datblygiad proffesiynol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ar gyfer dulliau iaith a chyfathrebu yn cael ei ystyried yn gymedrol. Roedd 66 astudiaeth yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap ychwanegol oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau66
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023