View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Dulliau llythrennedd cynnar

Dulliau llythrennedd cynnar

Effaith gymedrol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Nod dulliau llythrennedd cynnar yw gwella sgiliau, gwybodaeth neu ddealltwriaeth plant ifanc mewn cysylltiad â darllen neu ysgrifennu. Mae dulliau cyffredin yn cynnwys:

  • adrodd straeon a darllen grŵp;
  • gweithgareddau sy’n ceisio datblygu gwybodaeth am lythrennau, gwybodaeth am synau a ffoneg gynnar; a
  • cyflwyniadau i wahanol fathau o ysgrifennu.

Gall strategaethau llythrennedd cynnar fod yn rhannu’r un elfennau â dulliau iaith a chyfathrebu a gallant hefyd gynnwys ymgysylltiad rhieni.

  • Mae dulliau llythrennedd cynnar fel arfer yn cynyddu dysgu plant o ryw bedwar mis. Gall dulliau sy’n datblygu sgiliau llythrennedd a gwybodaeth gael effaith bwysig ar ddarllen cynnar. Mae’r dystiolaeth ar gyfer effaith gadarnhaol dulliau llythrennedd cynnar yn helaeth.

  • Mae’n ymddangos bod ymyriadau llythrennedd cynnar yn cael effeithiau sy’n trosglwyddo i feysydd eraill o’r cwricwlwm fel mathemateg, lle mae’r effaith ar gyfartaledd yn + dau fis o gynnydd.

  • Gall ymyriadau grwpiau bach wedi’u targedu fod yn arbennig o effeithiol, yn enwedig i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

  • Mae monitro cynnydd mewn darllen yn ofalus yn arbennig o bwysig er mwyn targedu dulliau gweithredu’n effeithiol. Er enghraifft, symud o wybodaeth am enwau a seiniau llythrennau i ffoneg gynnar.

Canfuwyd yn gyson bod dulliau llythrennedd cynnar yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgu cynnar. Arweiniodd y dulliau llythrennedd cynnar a gynhwyswyd yn y pecyn cymorth hwn at effaith gyfartalog o bedwar mis o gynnydd ychwanegol, a chanfu rhai astudiaethau fod dysgu wedi’i wella gymaint â chwe mis.

Fodd bynnag, ni ddylid ystyried dulliau llythrennedd cynnar fel ateb i bob dim. Er bod effeithiau cadarnhaol hirdymor wedi’u canfod mewn rhai astudiaethau, ar gyfer mwyafrif o strategaethau mae’n ymddangos bod y buddion hyn yn pylu dros amser. Mae hyn yn awgrymu nad yw un ymyriad yn debygol o fod yn ddigon i gau’r bwlch cyrhaeddiad a bod angen i ymyriadau fod yn briodol i oedran plentyn ac ystyried eu cynnydd yn ofalus.

Mae tystiolaeth y gallai cyfuno nifer o ddulliau llythrennedd cynnar fod yn fwy effeithiol nag unrhyw ddull unigol. Y rheswm am hyn yw nad yw gwelliannau mewn un maes penodol, fel gwybodaeth am enwau llythrennau a synau, bob amser yn arwain at welliannau mewn meysydd eraill hefyd. Felly gall fod yn fuddiol rhoi ystod o ddulliau ar waith i dargedu sgiliau gwahanol. Gall cyfuno hyn gydag asesiadau rheolaidd o sgiliau llythrennedd plant eich helpu i ddewis y dulliau cywir ar gyfer oedran a chyfnod datblygiadol y plant, a thargedu unrhyw feysydd gwan.

Am grynodeb o dystiolaeth hirach ffoneg, gallwch ddarllen y cofnod yn y Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu. Mae’r astudiaethau a grynhoir yn cynnwys ymchwil sy’n canolbwyntio ar ffoneg ar gyfer plant pedair a phum mlwydd oed.

Mae astudiaethau’n dangos y gall cynnwys rhieni wrth weithredu strategaethau llythrennedd cynnar fod yn fuddiol. Un enghraifft yw dulliau darllen a rennir. Mae rhai o’r dulliau hyn yn croesi drosodd gyda’r rhai a grynhoir yn y cofnod Pecyn Cymorth ar ymgysylltiad rhieni.

  • Mae astudiaethau wedi digwydd mewn ysgolion meithrin a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd, ac mae’r effeithiau’n gyson, gan awgrymu y gallai’r dulliau hyn weithio yn y ddau fath o leoliad.

  • Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau’n canolbwyntio ar ddeilliannau darllen o fewn llythrennedd. Mae llawer llai o dystiolaeth am ysgrifennu cynnar.

  • Er bod llawer llai o astudiaethau sy’n mesur deilliannau y tu allan i lythrennedd, mae tystiolaeth o effaith gadarnhaol yn trosglwyddo i ddeilliannau mathemateg (+ dau fis).

  • Roedd y dulliau mwyaf llwyddiannus yn cael eu cynnal hyd at bum gwaith yr wythnos. Mae’n bwysig cydbwyso’r ddarpariaeth llythrennedd ag agweddau eraill ar addysg plentyndod cynnar, fel dulliau rhifedd cynnar.

Mae’n ymddangos bod pob plentyn yn elwa o ddulliau llythrennedd cynnar, ond mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai rhai strategaethau, yn enwedig y rhai sy’n cynnwys rhyngweithio grwpiau bach wedi’i dargedu, gael effeithiau arbennig o gadarnhaol ar blant o gefndiroedd difreintiedig.

Mae gan ddulliau llythrennedd cynnar y potensial i baratoi plant ar gyfer darllen ac ysgrifennu. Er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r strategaethau hyn lwyddo, gallech ystyried:

  • Sicrhau bod eich strategaeth llythrennedd cynnar yn gytbwys, ac yn cyfuno dulliau a fydd yn cefnogi datblygiad sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth.
  • Defnyddio asesiadau i nodi lefel bresennol datblygiad plant, a monitro cynnydd mewn dysgu.
  • Defnyddio cymorth grŵp bach wedi’i dargedu i fynd i’r afael â meysydd heriol i blant difreintiedig.

Mae ymchwil yn dangos bod gwybodaeth am ddatblygiad a dealltwriaeth gyfredol plant yn gam pwysig tuag at roi strategaeth llythrennedd cynnar ar waith. Mae defnyddio datblygiad proffesiynol i gefnogi cyflwyno ymyriadau llythrennedd cynnar newydd yn gysylltiedig â mwy o ddysgu.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Amcangyfrifir bod cost ganolrifol ymyriadau llythrennedd cynnar yn isel iawn. Mae’r costau’n cynnwys adnoddau fel llyfrau a deunyddiau print eraill. Mae costau’n cynyddu wrth i gostau datblygiad proffesiynol gael eu hychwanegu neu ar gyfer cymorth grŵp bach mwy dwys.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch dulliau llythrennedd cynnar yn cael ei ystyried yn helaeth. Nodwyd 73 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth.

Un her gyda’r sylfaen dystiolaeth yw mai dim ond un rhan yn unig o ymyriadau aml-gydran neu gwricwla yw dulliau llythrennedd cynnar. Gall hynny ei gwneud hi’n anodd priodoli newidiadau i’r dull llythrennedd cynnar, neu nodi pa agweddau ar y dull hwnnw sydd bwysicaf.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau73
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023