:Defnyddio’r Pecynnau Cymorth

Defnyddio’r Pecynnau Cymorth

Canllaw i ddefnyddio ein Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu a’i gydymaith Blynyddoedd Cynnar

Mae’r Pecynnau Cymorth wedi’u dylunio i gefnogi athrawon ac arweinwyr ysgolion sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch sut i wella deilliannau dysgu.

Mae’r Pecynnau Cymorth yn seiliedig ar ddata bywyd go iawn am yr hyn sydd wedi digwydd pan ddefnyddiwyd dulliau penodol mewn ysgolion o’r blaen.

Nid yw’r Pecynnau Cymorth yn gwneud honiadau pendant ynghylch yr hyn a fydd yn gweithio i wella deilliannau mewn ysgol benodol. Yn hytrach, maent yn darparu gwybodaeth o ansawdd uchel am yr hyn sy’n debygol o fod yn fuddiol ar sail tystiolaeth bresennol – y dewisiadau gorau’ ar gyfer yr hyn a allai weithio yn eich cyd-destun eich hun.

Gan nad yw’r Pecynnau Cymorth yn darparu atebion pendant, ni ddylid eu defnyddio ar eu pen eu hunain. Mae angen eich barn broffesiynol a’ch arbenigedd hefyd i symud o’r wybodaeth yn y Pecyn Cymorth i benderfyniad wedi’i seilio ar dystiolaeth am yr hyn a fydd yn gweithio orau yn eich ysgol.

Pecyn Cymorth Addysgu a Dysgu

Lawrlwythwch y canllaw isod am gyngor ynghylch cael y budd mwyaf o’r Pecynnau Cymorth.