Mae ymestyn amser ysgol yn golygu cynyddu amser dysgu a ddyrannwyd yn yr ysgol ar gyfer rhai neu bob disgybl. Gellir ymestyn amser ysgol mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- Rhaglenni wedi’u targedu cyn ac ar ôl ysgol (gan gynnwys hyfforddiant grŵp bach neu un-i-un);
- Ymestyn y diwrnod ysgol;
- Darparu addysg dros y penwythnos; a
- Chynyddu nifer y dyddiau yn y flwyddyn ysgol neu ddarparu addysg drwy gydol y flwyddyn.
Er y gallai gweithgareddau cyfoethogi fod yn fuddiol er eu mwyn eu hunain, mae’r astudiaethau yn y llinyn hwn yn canolbwyntio ar ymestyn amser ysgol gyda gweithgareddau dysgu. Weithiau mae’r gweithgareddau academaidd yn y sylfaen dystiolaeth hon yn cael eu cyfuno â gweithgareddau anacademaidd eraill.
Gallai ymestyn amser ysgol arwain at well cyrhaeddiad trwy oriau dysgu ychwanegol gan roi mwy o amlygiad i ddisgyblion i addysgu, mwy o amser i ymgysylltu â chynnwys, a mwy o ddysgu yn gyffredinol.
Mae dulliau eraill o gynyddu amser dysgu wedi’u cynnwys mewn llinynnau eraill o’r Pecyn Cymorth, fel gwaith cartref, ac ysgolion haf.Nid yw clybiau brecwast neu gyfleoedd dysgu estynedig untro (fel teithiau ysgol) wedi’u cynnwys yn y llinyn hwn.
1. Mae rhaglenni sy’n ymestyn amser ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar gyfartaledd ond maent yn ddrud ac efallai na fyddant yn gost-effeithiol i ysgolion eu gweithredu. Bydd angen i ysgolion hefyd ystyried llwyth gwaith a llesiant eu staff.
2. Mae cynllunio i fanteisio i’r eithaf ar unrhyw amser ychwanegol yn bwysig. Dylai ddiwallu anghenion disgyblion ac adeiladu ar eu galluoedd. Lle mae disgyblion yn mynychu o’u gwirfodd, gall fod yn ddefnyddiol monitro presenoldeb er mwyn sicrhau bod y disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn elwa.
3. Wrth gyflwyno unrhyw ddull newydd, mae hyrwyddo cefnogaeth gan ddisgyblion, rhieni a staff yn ystyriaeth allweddol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer ymestyn amser ysgol gan ddefnyddio rhaglenni cyn ac ar ôl ysgol, lle gall denu a chadw disgyblion fod yn heriol.
4. Wrth ymestyn amser ysgol, mae’n bwysig cydnabod nad yw amser dysgu a drefnwyd bob amser yn cyfateb i amser dysgu gwirioneddol. Yr hyn sy’n ymddangos o bwys fwyaf yw sut mae amser ychwanegol yn cael ei ddefnyddio – nid faint sy’n cael ei ychwanegu. Nid yw tystiolaeth yn awgrymu bod cynyddu oriau ysgol yn arwain at gyrhaeddiad gwell.
5. Mae amser ychwanegol dewisol yn creu’r posibilrwydd o beidio ag ymgysylltu â phob grŵp. Mae peth tystiolaeth y gall cyfuno dysgu academaidd â mathau eraill o weithgaredd, megis gweithgareddau corfforol, diwylliannol/artistig, galwedigaethol neu gymdeithasol, gynyddu deilliannau ar gyfer disgyblion o gefndiroedd difreintiedig.
Mae’r ffigur cynnydd cyfartalog o 3 mis dros flwyddyn ysgol yn awgrymu y gall y dull hwn fod yn effeithiol. Fodd bynnag, er bod yr effaith ar gyrhaeddiad academaidd, ar gyfartaledd, yn gadarnhaol, gallai cost ymestyn amser ysgol olygu nad yw’n ddull cost-effeithiol i’w weithredu ar lefel yr ysgol heb gyllid ychwanegol. Mae’r effaith hefyd ychydig yn llai pan fydd amser ysgol yn cael ei hymestyn yn yr ysgol uwchradd.
Mae tystiolaeth yn awgrymu nad oes perthynas glir rhwng maint yr amser ychwanegol a’i effaith ar gyrhaeddiad. Dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau bod amser ychwanegol o fudd i ddysgu. Mae yna nifer fach o enghreifftiau lle mae ychwanegu llawer iawn o amser ychwanegol yn lleihau canlyniadau i ddisgyblion sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol neu’n ei chael hi’n anodd yn academaidd. Efallai fod cynnydd eithafol mewn amser yn cael effeithiau gostyngol os yw ymgysylltiad disgyblion yn cael ei leihau.
Mae rhywfaint o dystiolaeth ymchwil ehangach yn awgrymu bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi yn gysylltiedig â symud ymlaen i addysg uwch a bod mewn cyflogaeth.
Cynhaliwyd mwy o astudiaethau mewn ysgolion cynradd. Mae’r effeithiau’n fwy ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd (+4 mis) na’r rhai mewn ysgolion uwchradd (+2 fis).
Mae darparu rhaglenni cyn ac ar ôl ysgol yn fwy cyffredin na dulliau eraill o ymestyn amser ysgol. Mae’r rhain fel arfer yn cael eu cefnogi gan staff addysgu cymwys.
Mae ymestyn amser ysgol yn cael effaith debyg ar ddeilliannau mathemateg a llythrennedd.
Mae ymestyn amser ysgol gydag addysgu ychwanegol yn ymddangos yr un mor effeithiol wrth gael ei gyflwyno i grwpiau bach neu grwpiau mawr o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae sylfaen dystiolaeth gref ar gyfer tiwtora un-i-un a grwpiau bach y gall y dulliau hyn fod yn effeithiol ynddynt eu hunain.
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o astudiaethau yn UDA – gallai hyn beri risg o ran trosglwyddo canfyddiadau, gan y gallai effeithiau gael eu dylanwadu gan hyd cyfartalog addysg mewn unrhyw gyd-destun penodol.
Er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd amser ysgol ychwanegol o fudd i ddisgyblion dan anfantais, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau ymgysylltiad a phresenoldeb ymhlith y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae’n bosibl, os cynigir gweithgareddau dysgu neu gyfoethogi wedi’u targedu i bawb, mai’r rhai a allai elwa fwyaf fyddai’r rhai lleiaf tebygol i gyfranogi neu ymgysylltu. Fodd bynnag, mae yna heriau hefyd o ran mabwysiadu dull mwy targedig, gan y gall disgyblion sy’n cael eu dethol deimlo eu bod yn cael eu neilltuo a’u stigmateiddio.
Weithiau, mae’n ymddangos bod gweithgareddau ychwanegol a gyflwynir ochr yn ochr ag ymyrraeth academaidd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol ar ddeilliannau.
Mae enghreifftiau o’r sylfaen dystiolaeth o gyfoethogi yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â gweithgareddau academaidd yn cynnwys:
- Gweithgareddau corfforol: chwaraeon, ffitrwydd, dawns;
- Gweithgareddau diwylliannol neu artistig: cerddoriaeth, celf a chrefft, drama;
- Gweithgareddau galwedigaethol: sgiliau cyfrifiadurol, gyrfaoedd, entrepreneuriaeth; a
- Gweithgareddau cymdeithasol: gemau, gwaith grŵp.
Wrth ymestyn amser ysgol, mae’n bwysig cydnabod nad yw amser dysgu a drefnwyd bob amser yn cyfateb i amser dysgu gwirioneddol. Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth ymchwil hefyd yn awgrymu nad oes perthynas rhwng faint o amser a ychwanegir a’r effaith ddilynol ar gyrhaeddiad. Mae ansawdd yr amser ychwanegol yn ymddangos yn bwysicach na maint yr amser ychwanegol.
Er mwyn helpu i wneud y defnydd gorau o amser ychwanegol, dylai ysgolion:
- Fonitro presenoldeb yn ofalus er mwyn sicrhau bod capasiti ac adnoddau yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac y gall disgyblion sydd angen y gefnogaeth fwyaf elwa;
- Ystyried a monitro ymgysylltiad disgyblion yn ofalus – os oes mwy o amser yn cael ei dreulio yn rheoli ymddygiad disgyblion yn ystod amser dysgu ychwanegol, yna efallai na fydd amser dysgu gydag ymygysylltiad gwirioneddol yn cynyddu;
- Monitro llwyth gwaith staff er mwyn sicrhau nad yw amser addysgu ychwanegol yn arwain at ostyngiad o ran ansawdd (e.e. trwy lai o amser ar gyfer datblygiad proffesiynol neu gynllunio gwersi) neu gael effaith negyddol ar les staff; ac
- Ystyried sut i hyrwyddo cefnogaeth gan ddisgyblion, rhieni a staff, oherwydd gall denu a chadw disgyblion mewn rhaglenni cyn ac ar ôl ysgol fod yn heriol.
Mae ymestyn amser ysgol yn debygol o fod angen ad-drefnu patrymau gweithio yn sylweddol ar gyfer staff, yn enwedig os yw hyn yn cynnwys newid y calendr ysgol. Mae’n bwysig bod arweinwyr ysgol yn glir ar bwrpas cyflwyno amser dysgu ychwanegol.
Mae’n debygol y bydd dulliau o ymestyn amser ysgol yn cael eu lledaenu dros flwyddyn academaidd. Efallai y bydd rhai ysgolion hefyd yn targedu cymorth ychwanegol mewn dosbarthiadau penodol neu at ddisgyblion penodol yn ystod tymhorau neu amseroedd penodol o’r flwyddyn.
Os na chaiff unrhyw staff ychwanegol eu recriwtio i gyflenwi amser ysgol estynedig, yna bydd angen llawer mwy o amser staff i weithredu’r dull hwn na llinynnau pecyn cymorth eraill. Mae gan staff sydd eisoes yn gweithio mewn ysgol wybodaeth dda am eu cwricwlwm a’u disgyblion, ond dylid cydbwyso hyn â’r effaith ar staff presennol.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler A School’s Guide to Implementation.
Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y costau’n rhai cymedrol. Fodd bynnag, heb gyllid ychwanegol, gall rhaglenni sy’n ymestyn amser ysgol fod yn ddrud ac efallai na fyddant yn gost-effeithiol i ysgolion eu gweithredu. Cost sylfaenol addysgu disgybl yw tua £3120 y flwyddyn (£16 y dydd) yn yr ysgol gynradd a thua £4,680 y flwyddyn (£25 y dydd) yn yr ysgol uwchradd. Byddai ymestyn y flwyddyn ysgol o bythefnos felly’n gofyn am tua £160 y disgybl y flwyddyn ar gyfer ysgolion cynradd a thua £250 y disgybl y flwyddyn ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod clybiau ar ôl ysgol yn costio, ar gyfartaledd, £7 y sesiwn fesul disgybl. Gan allosod hyn, gallai sesiwn wythnosol o ddysgu ychwanegol felly gostio £273 y disgybl dros gyfnod o 39 wythnos yn yr ysgol. Gall ymestyn amser ysgol hefyd gynnwys costau ychwanegol heblaw staffio, fel darparu cludiant i ddisgyblion.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ymchwil ynghylch ymestyn amser ysgol yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 92 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc clo ychwanegol oherwydd nad yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a defnyddio eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports