View yn Cymraeg

:Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio

Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio

Effaith sylweddol iawn am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+7
mis

Mae’r defnydd o fetawybyddiaeth a hunanreoleiddio mewn dulliau addysgu yn cefnogi disgyblion i feddwl am eu dysgu eu hunain yn fwy penodol, yn aml trwy addysgu strategaethau penodol iddynt ar gyfer cynllunio, monitro a gwerthuso eu dysgu.

Mae ymyriadau fel arfer wedi’u cynllunio i roi cyfres o strategaethau i ddisgyblion ddewis ohonynt a’r sgiliau i ddewis y strategaeth fwyaf addas ar gyfer tasg ddysgu benodol.

Gellir rhannu dysgu hunanreoleiddiol yn dair elfen hanfodol:

  • gwybyddiaeth – y broses feddyliol sy’n ymwneud â gwybod, deall a dysgu;
  • metawybyddiaeth – sy’n aml yn cael ei diffinio fel dysgu sut i ddysgu’; a
  • cymhelliant – parodrwydd i ymgysylltu â’n sgiliau metawybyddol a gwybyddol.

1. Mae effaith bosibl dulliau sy’n defnyddio metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn uchel (+7 mis o gynnydd ychwanegol), er y gall fod yn anodd sylweddoli’r effaith hon yn ymarferol gan fod dulliau o’r fath yn ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu dysgu a datblygu eu dealltwriaeth o’r hyn sydd ei angen i lwyddo.

2. Mae’r dystiolaeth yn dangos y gall strategaethau addysgu penodol i helpu i gynllunio, monitro a gwerthuso agweddau penodol ar eu dysgu fod yn effeithiol.

3. Mae’r dulliau hyn yn fwy effeithiol pan fyddant yn cael eu cymhwyso i dasgau heriol sydd wedi’u gwreiddio yng nghynnwys arferol y cwricwlwm.

4. Gall athrawon ddangos defnydd effeithiol o strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol trwy fodelu eu prosesau meddwl eu hunain. Er enghraifft, gallai athrawon esbonio eu syniadau wrth ddehongli testun neu ddatrys tasg fathemategol, ochr yn ochr â hyrwyddo a datblygu sgwrs fetawybyddol sy’n gysylltiedig ag amcanion gwersi.

5. Gellir defnyddio datblygiad proffesiynol i ddatblygu model meddyliol o fetawybyddiaeth a hunanreoleiddio, ochr yn ochr â dealltwriaeth o strategaethau metawybyddol addysgu.

Mae effaith gyfartalog strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol yn gynnydd o saith mis ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn.

Gall strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol fod yn effeithiol o’u haddysgu mewn grwpiau cydweithredol fel y gall dysgwyr gefnogi ei gilydd a gwneud eu meddyliau yn glir trwy drafodaeth.

  • Mae astudiaethau sy’n edrych ar ddisgyblion ysgolion cynradd wedi bod fel rheol yn fwy effeithiol (+8 mis) nag ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd (+7 mis).

  • Defnyddiwyd strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol ar draws y cwricwlwm, gyda dulliau mewn mathemateg a gwyddoniaeth yn arbennig o lwyddiannus.

  • Mae astudiaethau sy’n defnyddio technoleg ddigidol, er enghraifft, systemau tiwtora deallus sy’n sgaffaldu dysgu yn dangos effeithiau hynod o sylweddol ar ddeilliannau disgyblion.

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod disgyblion difreintiedig yn llai tebygol o ddefnyddio strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol heb i’r strategaethau hyn gael eu haddysgu’n benodol iddynt. Felly, gallai addysgu strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol annog disgyblion o’r fath i ymarfer a defnyddio’r sgiliau hyn yn amlach yn y dyfodol. Gydag addysgu ac adborth penodol, mae disgyblion yn fwy tebygol o ddefnyddio’r strategaethau hyn yn annibynnol ac yn rheolaidd, gan eu galluogi i reoli eu dysgu eu hunain a goresgyn heriau eu hunain yn y dyfodol.

Mae strategaethau hunanreoleiddiol a metawybyddol yn gweithio wrth i ddysgwyr fonitro a gwerthuso eu strategaethau dysgu eu hunain. Gallai rhai cydrannau angenrheidiol ar gyfer strategaethau metawybyddol llwyddiannus gynnwys:

  • Addysgu strategaethau metawybyddol yn benodol.
  • Athrawon yn modelu eu meddwl eu hunain i ddangos strategaethau metawybyddol.
  • Cyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar eu cryfderau a’u meysydd gwella a’u monitro, a chynllunio sut i oresgyn yr anawsterau presennol.
  • Darparu digon o her i ddysgwyr ddatblygu strategaethau effeithiol, ond nid mor anodd fel eu bod yn ei chael hi’n anodd cymhwyso strategaeth.

Mae strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddiol fwyaf effeithiol wrth eu hymgorffori yng nghwricwlwm ysgol a gwers pwnc benodol. Er enghraifft, bydd dysgu strategaethau metawybyddol i hunanwerthuso traethawd mewn gwers hanes yn wahanol i ddisgybl sy’n gwerthuso eu dulliau ar gyfer datrys problemau mathemategol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn bennaf yn deillio o hyfforddiant datblygiad proffesiynol i staff, sydd fel arfer yn gost gychwynnol ar gyfer ymgorffori’r dull gweithredu yng nghwricwlwm yr ysgol. Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn, mae’r ystod o ran cost hyfforddiant datblygiad proffesiynol, a’r opsiwn i brynu deunyddiau ychwanegol a darparu hyfforddiant a chymorth parhaus, yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod dealltwriaeth athrawon o sut i ddatblygu gwybodaeth fetawybyddol disgyblion yn dylanwadu ar effeithiolrwydd strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio.

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyflogau staff, deunyddiau ac offer ar gyfer addysgu, a chyfleusterau i gynnal gwersi. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Bydd gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio hefyd yn gofyn am ychydig o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill, gan fod angen i staff ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o brosesau metawybyddol a hunanreoleiddiol i fodelu’r defnydd effeithiol o’r strategaethau a’r sgiliau hyn i ddisgyblion.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau bod strategaethau metawybyddol yn cael eu haddysgu’n benodol trwy gefnogi athrawon i ddefnyddio’r dulliau hyn yn eu hymarfer. Ar yr un pryd, dylai arweinwyr ysgolion fod yn ofalus i osgoi dieithrio athrawon nad ydynt yn teimlo’n hyderus yn eu gwybodaeth am y strategaethau hyn na sut i’w gweithredu.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 246 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau246
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021