View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio

Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+8
mis

Mae dulliau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn cefnogi disgyblion i feddwl am eu dysgu eu hunain yn fwy penodol, yn aml trwy addysgu strategaethau penodol iddynt ar gyfer cynllunio, monitro a gwerthuso eu dysgu.

  • Metawybyddiaeth yw gallu’r dysgwr i fod yn ymwybodol o, myfyrio ar, a hoelio ei feddyliau.
  • Mae dysgwyr hunanreoledig yn defnyddio strategaethau metawybyddiaeth ar gyfer eu dysgu. Maent yn dangos hunanreoleiddio
    trwy reoli eu cymhelliant, eu meddyliau a’u hymddygiad i osod nodau, monitro gweithio, myfyrio ac adolygu cynnydd.

Mae astudiaethau’n canolbwyntio ar roi strategaethau metawybyddiaeth i ddisgyblion. Mae hyn yn hyrwyddo annibyniaeth dysgwyr. Mae gan athrawon ran bwysig i’w chwarae wrth addysgu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn benodol. Gall athrawon hefyd fodelu metawybyddiaeth a darparu sgaffaldwaith er mwyn cefnogi disgyblion i ddod yn well dysgwyr hunanreoledig.

Mae cysylltiad agos rhwng llinynnau pecyn cymorth eraill fel Ymyriadau Iaith Lafar, Strategaethau Darllen a DeallDulliau Dysgu Cydweithredol Ć¢ Metawybyddiaeth a Hunanreoleiddio. Mae’r dulliau hyn yn cynnwys astudiaethau sy’n defnyddio strategaethau ac arferion tebyg i’r rhai mewn Metawybyddiaeth a Hunanreoleiddio.

Mae dysgu Metawybyddiaeth a Hunanreoleiddio yn elfen hanfodol o addysgu ond gall fod yn bwnc cymhleth; mae’r EEF wedi cynhyrchu canllaw pellach a allai fod yn ddefnyddiol, ā€‹ā€˜Metacognition and Self-Regulated Learning: Guidance Report’.

1. Mae effaith gyfartalog dulliau sy’n defnyddio metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn uchel (+8 mis o gynnydd ychwanegol), fodd bynnag, gall fod yn anodd cyflawni’r effaith hon yn ymarferol. Dylid cefnogi athrawon i ddysgu strategaethau metawybyddiaeth yn benodol ac i hyrwyddo sgiliau metawybyddiaeth mewn gwersi.

2. Mae’r dystiolaeth ymchwil yn dangos y gall strategaethau addysgu penodol i helpu disgyblion i gynllunio, monitro a gwerthuso agweddau penodol ar ddysgu fod yn effeithiol. Mae ymchwil yn awgrymu y dylid dysgu a defnyddio’r rhain yn y cynnwys cwricwlwm arferol, yn hytrach na’u dysgu ar wahĆ¢n trwy wersi ā€‹ā€˜sgiliau meddwl’.

3. Gall athrawon hyrwyddo metawybyddiaeth drwy fodelu eu meddyliau ar lafar. Er enghraifft, gallai athrawon egluro eu meddyliau wrth gynllunio ymateb arholiad neu ddatrys problem fathemategol fesul cam, ochr yn ochr Ć¢ hyrwyddo a chynllunio ar gyfer siarad metawybyddol sy’n gysylltiedig ag amcanion gwersi.

4. Mewn astudiaethau effeithiol, mae athrawon yn aml yn modelu defnydd penodol o strategaeth fetawybyddiaeth yn ystod tasg. Er enghraifft, gallent gyd-greu rhestr wirio cynllunio ac egluro sut mae hyn yn cefnogi dysgu, neu fynegi hunan-gwestiynu ar lafar i werthuso cynnydd.

5. Mae’r dystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod hyrwyddo rhesymu, ymresymu a dadlau yn helpu i ddatblygu metawybyddiaeth a hunanreoleiddio. Mae hyn oherwydd ei fod yn annog disgyblion i fyfyrio ar eu dysgu, ar ddysgu eraill, a gwneud cysylltiadau rhwng pynciau.

Effaith gyfartalog strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yw cynnydd o wyth mis ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn.

Mewn astudiaethau sy’n effeithiol, mae strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn tueddu i gael eu defnyddio ar gyfer tasgau heriol sydd wedi’u gwreiddio yn y cynnwys cwricwlwm arferol.

Gall strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio fod yn effeithiol pan gaiff eu haddysgu mewn grwpiau cydweithredol fel y gall dysgwyr gefnogi ei gilydd a gwneud eu meddyliau’n eglur trwy drafodaeth strwythuredig. Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu y bydd angen strwythuro’r cydweithrediad hwn yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn effeithiol.

Gall athrawon ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau i helpu disgyblion i ddatblygu cysylltiadau rhwng cysyniadau, deall camau dilyniannol, a gwneud meini prawf ar gyfer llwyddiant yn eglur. Er enghraifft, gallai athrawon ddefnyddio cwestiynau myfyrio, trefnwyr gwybodaeth, enghreifftiau dangosol neu feini prawf llwyddiant. Mae hyn yn cefnogi disgyblion i gynllunio, monitro a myfyrio ar eu dysgu.

Mae deilliannau gwell wedi’u nodi ar draws llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae’r dull yn effeithiol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd.

  • Mae’r effaith yn debyg ar draws pob grŵp oedran. Mae astudiaethau gyda disgyblion blynyddoedd cynnar, cynradd ac uwchradd yn dangos effeithiau uchel.

  • Defnyddiwyd strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio ar draws y cwricwlwm, gyda dulliau mewn mathemateg yn llwyddiannus iawn. Fodd bynnag, mae’r effaith ar ddeilliannau darllen hefyd yn uchel iawn.

  • Mae strategaethau metawybyddiaeth sy’n cefnogi darllen a deall yn ffurfio cyfran fawr o’r sylfaen dystiolaeth ac yn dangos effaith gadarnhaol ar ddeilliannau disgyblion.

  • Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn effeithiol yn y dosbarth cyfan, mewn grwpiau mawr a bach ac mewn lleoliadau un-i-un.

Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod disgyblion dan anfantais yn llai tebygol o ddefnyddio strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio oni bai eu bod yn cael eu dysgu’n benodol i wneud hynny, ond mae tystiolaeth ehangach ynghylch y cysylltiad hwn yn gyfyngedig.

Mae’r dystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod astudiaethau Ć¢ niferoedd uwch o ddisgyblion dan anfantais wedi cael effaith uchel. Mae hwn yn faes arfer addawol i weithio tuag at gau’r bwlch anfantais. Mae gan sgiliau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio gwell y potensial i hyrwyddo dysgu ar draws y cwricwlwm a thu hwnt.

Mae strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn gweithio trwy ddysgwyr sy’n cynllunio, monitro a gwerthuso eu strategaethau dysgu. Mae arferion addysgu effeithiol yn cynnwys:

  • Addysgu strategaethau metawybyddol yn benodol.
  • Annog disgyblion i osod nodau a gweithredu gwybodaeth flaenorol.
  • Athrawon yn modelu eu meddwl eu hunain a siarad â’u hunain i ddangos strategaethau metawybyddol.
  • Rhoi cyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar eu cryfderau a’u meysydd gwella, a’u monitro, a chynllunio sut i oresgyn yr anawsterau presennol.
  • Darparu adnoddau fel awgrymiadau hunan-gwestiynu a meini prawf hunan-farcio.
  • Annog rhesymu a thrafod i hyrwyddo myfyrio ar wybodaeth a gwneud cysylltiadau rhwng pynciau.
  • Darparu digon o her i ddysgwyr ddatblygu strategaethau effeithiol, ond nid mor anodd fel eu bod yn ei chael hi’n anodd rhoi strategaeth ar waith.

Mae strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn ymddangos yn fwyaf effeithiol wrth eu hymgorffori yng nghwricwlwm ysgol a gwers pwnc benodol. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n dysgu’r defnydd o hunan-gwestiynu drwy ei roi ar waith yng nghwricwla eich ysgol fel llythrennedd, hanes a gwyddoniaeth.

Mae tystiolaeth ymchwil yn awgrymu bod effeithiolrwydd strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn cael ei ddylanwadu gan ddealltwriaeth athrawon o sut i ddatblygu gwybodaeth fetawybyddol disgyblion. Mae peth tystiolaeth i awgrymu y dylai athrawon ddeall damcaniaeth metawybyddiaeth a hunanreoleiddio; dylai ysgolion ganolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o’r dull hwn.


Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler ā€‹ā€˜A School’s Guide to Implementation’. Mae’r EEF yn cynnig cefnogaeth bellach i ysgolion wrth ddylunio a gweithredu datblygiad proffesiynol effeithiol, ā€‹ā€˜Effective Professional Development’.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig Ć¢ metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn bennaf yn deillio o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer staff.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn, mae’r ystod o ran cost hyfforddiant datblygiad proffesiynol, a’r opsiwn i brynu deunyddiau ychwanegol a darparu hyfforddiant a chymorth parhaus, yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel.

Mae’r amcangyfrif cost hwn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyflogau staff, deunyddiau ac offer ar gyfer addysgu, a chyfleusterau i gynnal gwersi. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddio, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Bydd gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio hefyd yn gofyn am amser staff, gan fod angen i staff ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o brosesau metawybyddol a hunanreoleiddio i fodelu’r defnydd effeithiol o’r strategaethau a’r sgiliau hyn i ddisgyblion.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig Ć¢ metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn bennaf yn deillio o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer staff.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio yn isel iawn, mae’r ystod o ran cost hyfforddiant datblygiad proffesiynol, a’r opsiwn i brynu deunyddiau ychwanegol a darparu hyfforddiant a chymorth parhaus, yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel.

Mae’r amcangyfrif cost hwn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyflogau staff, deunyddiau ac offer ar gyfer addysgu, a chyfleusterau i gynnal gwersi. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau metawybyddol a hunanreoleiddio, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Bydd gweithredu strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoleiddio hefyd yn gofyn am amser staff, gan fod angen i staff ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o brosesau metawybyddol a hunanreoleiddio i fodelu’r defnydd effeithiol o’r strategaethau a’r sgiliau hyn i ddisgyblion.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau355
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMai 2025