View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Ymyriadau iaith lafar

Ymyriadau iaith lafar

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+6
mis

Mae ymyriadau iaith lafar yn ymwneud â gwneud y gorau o iaith lafar a rhyngweithio llafar ar gyfer dysgu.

Mae iaith lafar’ yn cyfeirio at siarad a gwrando. Mae ymyrraeth’ yn golygu gwneud rhywbeth newydd neu wneud newid i arfer arferol neu ei fireinio. Felly gall ymyriadau iaith lafar gynnwys dulliau sy’n pwysleisio siarad a/​neu wrando mewn lleoliad dosbarth cyfan. Gallant hefyd gynnwys dulliau wedi’u targedu a dulliau grŵp bach.

Gallai dulliau iaith lafar gynnwys:

  • darllen ar goedd a thrafod llyfrau wedi’i dargedu gyda phlant ifanc;
  • ehangu geirfa lafar disgyblion yn benodol;
  • defnyddio cwestiynu strwythuredig i ddatblygu dealltwriaeth o ddarllen; a
  • defnyddio deialog a rhyngweithio pwrpasol, sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm.

Nid sgiliau siarad cyhoeddus ffurfiol a siarad cyflwyniadol yw canolbwynt y dystiolaeth ymchwil hon yn benodol.

Yr hyn sy’n cysylltu’r astudiaethau yn y llinyn hwn â’i gilydd yw’r dull addysgu, yn hytrach na nod yr ymyrraeth. Er bod yr holl ymyriadau hyn yn defnyddio iaith lafar, nid ydynt o reidrwydd yn targedu sgiliau iaith lafar disgyblion fel eu prif ddeilliant.

Mewn ymyriadau iaith lafar, gallai'r oedolyn fod yn:

  • sgaffaldio siarad a gwrando disgyblion;
  • modelu siarad a gwrando o ansawdd uchel;
  • modelu strategaethau metawybyddol ar gyfer darllen a deall;
  • defnyddio dulliau deialogaidd;
  • rhoi adborth; ac
  • addysgu disgyblion sut i ddefnyddio strategaeth iaith lafar ar gyfer darllen a deall.
Illustration man talking

Efallai y bydd y disgyblion yn defnyddio iaith lafar gyda’r pwrpas o:

  • ddysgu sgiliau darllen neu ysgrifennu
  • datblygu eu geirfa;
  • datblygu eu syniadau;
  • gwneud cysylltiadau â gwybodaeth flaenorol;
  • datblygu eu sgiliau sgwrsio, neu sgiliau siarad a gwrando eraill; a
  • datblygu eu hymwybyddiaeth fetawyboddol.
Illustration pupils talking

Mae dulliau eraill yn y Pecyn Cymorth hwn hefyd yn cynnwys iaith lafar, megis self-regulationHow children monitor their emotions and thoughts, and adapt their behaviour in different circumstances.?x‑craft-live-preview=85ccaa7868c407c92f058116b3de5b5976de9443114965113e0e777704ddeb22nsrwpqtaqi”>Metawybyddiaeth (sy’n gwneud siarad am ddysgu’n eglur mewn ystafelloedd dosbarth), dulliau dysgu cydweithredol (sy’n hyrwyddo rhyngweithio disgyblion mewn grwpiau), ac Adborth (pan gaiff ei gyflwyno ar lafar).

1. Ar gyfartaledd, mae dulliau iaith lafar yn cael effaith uchel ar ddeilliannau disgyblion (+6 mis o gynnydd ychwanegol).

2. Mae rhyngweithio ar gyfer dysgu yn agwedd allweddol ar yr ymyriadau hyn. Mae dulliau yn aml yn cynnwys rhyngweithio llafar rhwng yr ymarferydd a disgyblion a rhwng cyfoedion.

3. Mae’r dystiolaeth gryfaf ar ymyriadau sydd wedi’u hintegreiddio â’r cwricwlwm presennol. Mae’n bwysig ystyried sut mae unrhyw newidiadau i arfer neu ei firenio yn cael eu hintegreiddio â’r cwricwlwm.

4. Gall ymyriadau iaith lafar fod yn ddull effeithiol ar gyfer disgyblion dan anfantais. Yn y dystiolaeth ymchwil, po fwyaf y gyfran o ddisgyblion dan anfantais oedd yn cymryd rhan, y mwyaf effeithiol yr oedd yr ymyrraeth yn ôl pob golwg.

Mae effaith gyfartalog cynnydd o +6 mis yn seiliedig yn bennaf ar sgoriau disgyblion mewn profion darllen a deall.

Gall y dull hwn gael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau iaith lafar hefyd, fel gallu disgybl i ailadrodd stori neu ddeall geirfa lafar. Mae’r dystiolaeth yn edrych yn addawol, ond gall fesur gallu iaith lafar yn ddibynadwy fod yn anodd. Mae ganddo ddimensiynau gwahanol, gan gynnwys siarad a gwrando.

Mae llythrennedd yn bwysig ar draws y cwricwlwm, a gall dulliau iaith lafar gefnogi llythrennedd. Mae nifer fach o astudiaethau yn profi a yw ymyriadau iaith lafar yn gwella canlyniadau gwyddoniaeth a mathemateg. Nid yw’r effaith ar gyflawniad yn y profion pwnc-benodol hyn yn glir.

Efallai y bydd buddion ehangach i ddulliau iaith lafar y tu allan i gyrhaeddiad addysgol. Er enghraifft, mae rhai astudiaethau’n nodi gwell agweddau, sylw, hunanreoleiddio neu hyder gan ddisgyblion.

Mae astudiaethau sy’n canolbwyntio ar siarad, gwrando, neu gyfuniad o’r ddau, i gyd yn dangos effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad.

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau yn canolbwyntio ar y ddau gyda’i gilydd. Gall astudiaethau sy’n canolbwyntio ar wrando ar eich pen eich hun fod yn arbennig o effeithiol, ond mae’r sylfaen dystiolaeth hon yn llai. Mae tystiolaeth ehangach yn awgrymu y gallai rhai disgyblion gael trafferth yn benodol gydag iaith lafar. Dylai ysgolion ystyried sut y byddant yn nodi disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol ynghylch iaith lafar a mynegiant. Efallai y byddai’n ddefnyddiol canolbwyntio ar weithgareddau siarad a gwrando ar wahân lle bo angen i ddiwallu anghenion penodol.

  • Gwelsom fwy o astudiaethau yn profi ymyriadau mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd nag ysgolion uwchradd. Mae’n ymddangos bod y dulliau hyn yr un mor effeithiol ar draws y grwpiau oedran.

  • Mae bron pob ymyriad yn defnyddio iaith lafar gyda’r pwrpas o gefnogi llythrennedd disgyblion.

  • Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau yn archwilio effaith ar ddarllen. Lle mae astudiaethau wedi mesur deilliannau iaith lafar, mae’r effaith hefyd yn tueddu i fod yn gadarnhaol. Fodd bynnag, rydym yn llai hyderus yn y canfyddiad hwn.

  • Gall ymyriadau iaith lafar fod yn effeithiol wrth gael eu cyflwyno gan athrawon, cynorthwywyr addysgu, neu eraill. Mae datblygiad proffesiynol yn debygol o fod yn bwysig i unrhyw un sy’n cyflwyno dull newydd.

  • Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn UDA. Mae’r amcangyfrif effaith yn debyg ar gyfer astudiaethau yn UDA ac astudiaethau o wledydd eraill.

Mae tystiolaeth i awgrymu bod disgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o fod y tu ôl i’w cyfoedion mwy breintiedig wrth ddatblygu sgiliau iaith a lleferydd cynnar. Gallai hynny effeithio ar eu profiad yn yr ysgol ac ar eu dysgu yn ddiweddarach yn eu bywydau ysgol.

Gall ymyriadau iaith lafar fod yn ddull effeithiol ar gyfer disgyblion dan anfantais. Yn y dystiolaeth ymchwil, po fwyaf y gyfran o ddisgyblion dan anfantais oedd yn cymryd rhan, y mwyaf effeithiol yr oedd yr ymyrraeth yn ôl pob golwg.

Gellir cyflwyno’r dulliau hyn i bob disgybl, neu gellir eu targedu. Gall ymyriadau wedi’u targedu ac ymyriadau atodol fod yn effeithiol ac felly gellid eu defnyddio i gefnogi unrhyw ddisgyblion dan anfantais sydd wedi colli tir. Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried unrhyw effaith negyddol bosibl o gyflwyno addysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, megis colli gwersi eraill.

Mae ymyriadau iaith lafar yn cael eu gweithredu mewn ffyrdd gwahanol drwy gydol y dystiolaeth ymchwil. Mae’n ymddangos y gall gwahanol ddulliau fod yn effeithiol.

Integreiddio â’r cwricwlwm
: Cafodd y rhan fwyaf o ymyriadau yn y sylfaen dystiolaeth hon eu hintegreiddio o fewn y cwricwlwm arferol. Pan oedd wedi’i integreiddio, roedd hyn bron bob amser mewn addysgu llythrennedd, ac yn aml iawn yng nghyd-destun darllen stori (yn enwedig gyda phlant iau). Roedd rhai enghreifftiau o ymyriadau wedi’u hymgorffori mewn pynciau eraill, gan gynnwys gwyddoniaeth. Cyflwynwyd rhai ymyriadau y tu allan i’r lleoliad ystafell ddosbarth arferol, o fewn neu y tu allan i oriau ysgol.

Mae’n bwysig sicrhau bod gweithgareddau iaith lafar yn gysylltiedig â’r cwricwlwm ehangach. O ran ymyriadau sy’n targedu geirfa, mae hyn yn gweithio orau pan fyddant yn gysylltiedig â chynnwys sy’n cael ei astudio yn yr ysgol ar hyn o bryd ac yn cynnwys defnydd gweithredol ac ystyrlon o unrhyw eirfa newydd.

Rhyngweithio
: Mae ymyriadau yn aml yn cynnwys rhyngweithio llafar rhwng yr ymarferydd a disgyblion neu ddisgyblion a’u cyfoedion. Mewn gwaith grŵp neu waith mewn parau, mae disgyblion weithiau’n rhannu eu prosesau meddwl, yn datblygu syniadau, neu’n cydgrynhoi geirfa. Mae gan yr ymarferydd rôl allweddol wrth sefydlu trafodaethau cynhyrchiol rhwng cyfoedion. Mewn rhai ymyriadau, defnyddiwyd iaith lafar gan ddisgybl yn annibynnol, er enghraifft i gefnogi metawybyddiaeth.

Grwpiau
: Mae llawer o’r astudiaethau’n profi ymyriadau iaith lafar gyda grwpiau mawr (mwy na chwe disgybl, hyd at ddosbarth cyfan). Mae rhai astudiaethau’n cymryd agwedd wedi’i thargedu, gan gyflwyno ymyrraeth i grŵp o ddisgyblion penodol yn seiliedig ar angen, er enghraifft disgyblion sy’n isel eu cyrhaeddiad neu dan anfantais.

Mae yna adnoddau EEF y gallai ysgolion eu cael yn ddefnyddiol wrth gefnogi ymarfer iaith lafar effeithiolmeithrin darllenwyr cryf.

Er bod y llinyn hwn yn cynnwys tystiolaeth gan blant yn y Blynyddoedd Cynnar, mae adnoddau EEF ychwanegol yn cynnig cefnogaeth bellach i’r grŵp oedran hwnnw:

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymyriadau iaith lafar yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag ymyriadau iaith lafar yn deillio i raddau helaeth o lyfrau, adnoddau a hyfforddiant, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn gostau cychwynnol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer ymyriadau iaith lafar yn isel iawn, mae’r opsiwn i ddarparu hyfforddiant i staff yn golygu y gall costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymyriadau iaith lafar yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 188 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a defnyddio eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau188
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMai 2025