Mae ymgysylltiad rhieni yn cyfeirio at athrawon ac ysgolion yn cynnwys rhieni yn y gwaith o gefnogi dysgu academaidd eu plant. Mae’n cynnwys:
- dulliau a rhaglenni sy’n ceisio datblygu sgiliau rhieni fel llythrennedd neu sgiliau TG;
- dulliau cyffredinol sy’n annog rhieni i gefnogi eu plant gyda, er enghraifft, darllen neu waith cartref;
- cynnwys rhieni yng ngweithgareddau dysgu eu plant; a
- rhaglenni dwysach ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng.
1. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael effaith gadarnhaol sef cynnydd ychwanegol o 4 mis ar gyfartaledd. Mae’n hanfodol ystyried sut i ymgysylltu â phob rhiant er mwyn osgoi lledu bylchau cyrhaeddiad.
2. Ystyriwch sut i deilwra cyfathrebiadau ysgolion i annog deialog gadarnhaol am ddysgu. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall negeseuon personol sy’n gysylltiedig â dysgu hyrwyddo rhyngweithiadau cadarnhaol.
3. Mae sylfaen dystiolaeth gref yn cefnogi’r dull hwn gyda phlant iau, ond llawer llai o ymchwil ar y dull hwn mewn ysgolion uwchradd. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn cynnal ymgysylltiad rhieni wrth i blant fynd yn hŷn.
4. Ystyriwch pa gymorth y gallwch ei roi i rieni i sicrhau bod dysgu gartref o ansawdd uchel. Er enghraifft, gall darparu strategaethau ymarferol gydag awgrymiadau, cefnogaeth ac adnoddau i gynorthwyo dysgu gartref fod yn fwy buddiol i ddeilliannau disgyblion na rhoi llyfr i ddisgyblion yn unig neu ofyn i rieni ddarparu cymorth generig i’w plant.
Tua phedwar mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog dulliau sy’n hybu ymgysylltiad rhieni.
Mae’r dystiolaeth ynghylch sut i wella cyrhaeddiad trwy gynyddu ymgysylltiad rhieni yn gymysg ac yn llawer llai pendant. Mae enghreifftiau lle nad yw cyfuno strategaethau ymgysylltiad rhieni ag ymyriadau eraill, fel darpariaeth blynyddoedd cynnar estynedig, wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw fudd addysgol ychwanegol. Mae hyn yn awgrymu bod datblygu ymgysylltiad rhieni effeithiol i wella cyrhaeddiad eu plant yn heriol a bod angen monitro a gwerthuso gofalus.
Mae rhywfaint o dystiolaeth y bydd cefnogi rhieni gyda’u plentyn cyntaf yn cael manteision i frodyr a chwiorydd.
Mae’n ymddangos bod dyheadau rhieni hefyd yn bwysig ar gyfer deilliannau disgyblion, er nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos y bydd ymyrryd i newid dyheadau rhieni yn codi dyheadau a chyrhaeddiad eu plant dros y tymor hwy.
Mae’r EEF wedi profi nifer o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i wella canlyniadau disgyblion trwy gael rhieni i ymgysylltu â gwahanol fathau o ddatblygu sgiliau. Y neges gyson o’r rhain fu ei bod yn anodd ennyn diddordeb rhieni mewn rhaglenni. Ar y llaw arall, roedd treial a oedd yn anelu at ysgogi mwy o ymgysylltiad rhieni trwy negeseuon testun yn cael effaith gadarnhaol fach, ac am gost isel iawn. Weithiau, mae ymgysylltiad rhieni yn agwedd ar ymyrraeth aml-gydran, fel yn achos rhaglen addawol Success for All. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod faint o ymgysylltiad rhieni sy’n cyfrannu at effeithiolrwydd y rhaglen hon.
Mae’r effeithiau’n debyg ar draws lleoliadau blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd (+4 mis). Mae angen mwy o dystiolaeth i wybod effaith dulliau ymgysylltu rhieni mewn ysgolion uwchradd.
At ei gilydd, mae’r effeithiau’n debyg ar gyfer llythrennedd a mathemateg (+4 mis). Fodd bynnag, mae’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer mathemateg yn llawer llai felly rydym yn llai hyderus yn y canfyddiad hwn.
Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn edrych ar ymyriadau darllen yn y cartref. Roedd nifer llai o astudiaethau yn edrych ar ymyriadau a oedd â’r nod o wella sgiliau magu plant.
Fel arfer, mae dulliau lle mae rhiant yn gweithio’n uniongyrchol gyda’u plentyn un-i-un yn dangos mwy o effaith.
Mae dulliau ymgysylltiad rhieni wedi cael eu gwerthuso mewn nifer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y DU.
Mae disgyblion dan anfantais yn llai tebygol o gael mynediad at le i gynnal dysgu gartref neu i weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol y tu allan i’r ysgol. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach i rai disgyblion dan anfantais ddysgu y tu allan i’r ysgol. Gallai hyn esbonio pam mae cyrhaeddiad yn cymryd cam yn ôl yn ystod gwyliau’r haf i rai disgyblion dan anfantais. Drwy ddylunio a darparu dulliau effeithiol o gefnogi ymgysylltiad rhieni, efallai y bydd ysgolion ac athrawon yn gallu lliniaru’r risg hon, gan gefnogi rhieni i gynorthwyo dysgu eu plant neu eu hunanreoleiddio, yn ogystal â sgiliau penodol, fel darllen.
Fodd bynnag, mae gan strategaethau ymgysylltiad rhieni y risg o gynyddu bylchau mewn cyrhaeddiad, os yw’r teuluoedd sy’n manteisio ar gyfleoedd ymgysylltu rhieni yn dod o gefndiroedd cyfoethog yn bennaf. Mae rhywfaint o dystiolaeth ymchwil i awgrymu y gall rhai ymyriadau ehangu bylchau mewn cyrhaeddiad, ond mae angen mwy o dystiolaeth. Mae’n hanfodol ystyried sut y bydd strategaethau ymgysylltiad rhieni yn cefnogi pob rhiant.
Er y gallai annog rhieni i gymryd rhan uniongyrchol mewn gwaith cartref ymddangos yn ddeniadol, dylai ysgolion ystyried a oes gan rieni yr wybodaeth a’r sgiliau i ddarparu’r cymorth cywir, yn enwedig ar lefel uwchradd. Yn gyffredinol, nid yw ymyriadau a gynlluniwyd i annog rhieni i ymgysylltu â gwaith cartref wedi cael eu cysylltu â chynnydd mewn cyrhaeddiad. Gall myfyrwyr sy’n cael trafferthion academaidd fod yn fwy tebygol o ofyn am gymorth rhieni gyda gwaith cartref, ond efallai na fydd rhieni’n gyfarwydd â’r dulliau addysgu mwyaf effeithiol. O ganlyniad, gall fod yn fwy effeithiol annog rhieni i ailgyfeirio disgybl sy’n ei chael hi’n anodd i’w athrawon yn hytrach na cheisio ei gyfarwyddo.
Y mecanwaith allweddol ar gyfer strategaethau ymgysylltiad rhieni yw gwella ansawdd a maint y dysgu sy’n digwydd yn yr amgylchedd dysgu gartref. Mae hyn yn anodd iawn i’w weithredu yn ymarferol. Mae rhai elfennau allweddol y gallai ysgolion ddewis eu gweithredu yn cynnwys:
- teilwra cyfathrebiadau ysgolion i annog deialog gadarnhaol am ddysgu
- adolygu’n rheolaidd pa mor dda y mae’r ysgol yn gweithio gyda rhieni, gan nodi meysydd i’w gwella
- cynnig cymorth mwy parhaus a dwys lle bo angen
Wrth weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, mae angen ystyried rhwystrau posibl a allai atal rhieni rhag ymgysylltu. Er enghraifft, a oes darpariaeth i rieni sy’n gweithio gymryd rhan mewn sesiynau byr gydag amseroedd hyblyg – neu hyd yn oed drwy ymgysylltu o bell lle mae hynny ar gael?
Fel arfer, cyflwynir dulliau ymgysylltiad rhieni dros gyfnod estynedig (tua 18 wythnos), gan fod meithrin perthnasoedd effeithiol rhwng yr ysgol a’r rhieni yn gofyn am ymdrech barhaus.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymgysylltiad rhieni yn isel iawn. Mae’r rhan fwyaf o’r costau’n codi o hyfforddiant a datblygiad staff, ac mae pob un ohonynt yn fwy tebygol o fod yn gostau cychwynnol.
Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer ymgysylltiad rhieni yn isel iawn, mae’r opsiwn i gynnwys hyfforddiant staff parhaus ychwanegol, deunyddiau ac adnoddau, ac amser staff ychwanegol yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol.
Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am dechnoleg ar gyfer cyfathrebu â rhieni, a chyfleusterau i gynnal unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymgysylltiad rhieni yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 124 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports
Working with Parents to Support Children’s Learning
Guidance Reports