View yn Cymraeg

:Tiwtora cyfoedion

Tiwtora cyfoedion

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Mae tiwtora cyfoedion yn cynnwys ystod o ddulliau lle mae dysgwyr yn gweithio mewn parau neu grwpiau bach i ddarparu cymorth addysgu penodol i’w gilydd, fel:

  • tiwtora rôl sefydlog, ar draws gallu lle mae un dysgwr, sy’n aml yn hŷn, yn cymryd y rôl tiwtora ac yn cael ei baru â disgybl neu ddisgyblion a fydd yn cael eu tiwtora, sy’n aml yn iau;
  • tiwtora rôl ddwyochrog, lle mae dysgwyr yn newid rhwng rôl tiwtor a’r sawl sy’n cael ei diwtora.

Y nodwedd gyffredin yw bod dysgwyr yn ysgwyddo cyfrifoldeb am agweddau ar addysgu ac am werthuso eu llwyddiant.

1. Mae tiwtora cyfoedion, ar gyfartaledd, yn cael effaith gadarnhaol ar diwtoriaid a’r rhai sy’n cael eu tiwtora, a gall fod yn ddull cost-effeithiol o ddarparu hyfforddiant un i un neu grŵp bach mewn ysgol.

2. Mae’n ymddangos bod tiwtora cyfoedion fwyaf effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio i adolygu neu atgyfnerthu dysgu, yn hytrach na chyflwyno deunydd newydd.

3. Mae’n hanfodol hyfforddi staff a thiwtoriaid os am lwyddo. Mae’n hanfodol neilltuo digon o amser i hyfforddi staff a thiwtoriaid, er mwyn sicrhau bod hyfforddiant yn darparu strwythur i’r tiwtora, ac i nodi a gweithredu gwelliannau wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.

4. Mae’n ymddangos bod blociau dwys rhwng pedair a deg wythnos gyda sesiynau rheolaidd (4−5 gwaith yr wythnos) yn darparu’r effaith fwyaf posibl ar diwtoriaid a’r rhai sy’n cael eu tiwtora.

Dangoswyd bod dulliau tiwtora cyfoedion yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, gydag effaith gadarnhaol ar gyfartaledd yn cyfateb i tua phum mis ychwanegol o gynnydd o fewn un flwyddyn academaidd. Mae astudiaethau wedi nodi manteision i diwtoriaid a’r rhai sy’n cael eu tiwtora, ac ar gyfer ystod eang o grwpiau oedran. Er ei bod yn ymddangos bod pob math o ddisgyblion yn elwa o diwtora cyfoedion, mae rhywfaint o dystiolaeth bod disgyblion isel eu cyrhaeddiad a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig yn elwa fwyaf.

Mae’n ymddangos bod tiwtora cyfoedion yn arbennig o effeithiol pan fydd disgyblion yn cael cymorth i sicrhau bod ansawdd rhyngweithio rhwng cyfoedion yn uchel: er enghraifft, fframiau cwestiynu i’w defnyddio mewn sesiynau tiwtora, a hyfforddiant ac adborth ar gyfer tiwtoriaid. Mewn tiwtora cyfoedion ar draws oedrannau, mae rhai astudiaethau wedi canfod bod bwlch o lai na thair blynedd yn ddelfrydol. Mae’n allweddol sicrhau bod y bwlch yn ddigon eang fel bod y gwaith yn heriol i’r sawl sy’n cael ei diwtora ond eto’n ddigon hawdd i’r tiwtor ei gefnogi.. Mae’n ymddangos bod sesiynau tiwtora rheolaidd (4−5 gwaith yr wythnos) o hyd at 10 wythnos yn fwy effeithiol na rhaglenni llai dwys neu hirach.

Gall dulliau llwyddiannus hefyd fod â manteision eraill, fel cefnogi datblygiad cymdeithasol a phersonol disgyblion a rhoi hwb i’w hunanhyder a’u cymhelliant dros ddysgu.

  • Mae’r effeithiau’n debyg (+5 mis) ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac uwchradd.

  • Mae’r effaith yn debyg (+5 mis) ar gyfer llythrennedd a mathemateg.

  • Mae disgyblion is eu cyrheddiad yn tueddu i elwa mwy (+6 mis) na disgyblion sy’n uwch eu cyrhaeddiad.

  • Cynhaliwyd nifer o astudiaethau sy’n defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dulliau tiwtora cyfoedion, gydag effaith gyffredinol debyg.

Er mai prin yw’r dystiolaeth sy’n archwilio disgyblion o gefndir difreintiedig yn benodol, mae astudiaethau wedi dangos bod disgyblion isel eu cyrhaeddiad fel arfer yn cael manteision ychwanegol o diwtora cyfoedion. Gall dulliau tiwtora dan arweiniad cyfoedion helpu disgyblion i gau bylchau yn eu dysgu trwy gynnig cymorth wedi’i dargedu dan arweiniad cyfoedion i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd o fewn y dosbarth, ymarfer sgiliau, a nodi a goresgyn camsyniadau. Mae peth tystiolaeth hefyd i awgrymu y gall tiwtora dan arweiniad cyfoedion gynnig cyfle i diwtoriaid adolygu ac ailedrych ar sgiliau, gwybodaeth flaenorol, a datblygu dealltwriaeth fetawybyddol o bynciau.

Mae tiwtora cyfoedion yn dibynnu ar ryngweithio agos rhwng dau neu fwy o fyfyrwyr gyda dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb am agweddau ar addysgu ac am werthuso eu llwyddiant. Wrth weithredu dulliau tiwtora cyfoedion, dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau rhyngweithio o ansawdd uchel rhwng disgyblion. Gallai hyn gynnwys:

  • Tasgau sydd wedi’u strwythuro’n ofalus fel bod sesiynau’n canolbwyntio ar wybodaeth sy’n bodoli eisoes;
  • Hyfforddiant i diwtoriaid cyfoedion ar ddulliau addysgu, fel modelu gwybodaeth, goresgyn camsyniadau cyffredin, adborth a gwerthuso cynnydd;
  • Ystyried yn ofalus sut i baru tiwtoriaid a’r sawl sy’n cael ei diwtora yn briodol;
  • Darparu cymhorthion addysgu a fframiau dysgu i roi arweiniad i diwtoriaid ar sut i strwythuro dysgu, neu’r mathau o gwestiynau i’w gofyn i’r sawl sy’n cael ei diwtora.

Fel arfer, darperir ymyriadau tiwtora cyfoedion mewn blociau dwys dros 4 i 10 wythnos. Gall dulliau gynnwys tiwtora ar draws oedrannau neu diwtora o’r un oedran, fel arfer mewn parau. Gall dulliau fod yn seiliedig ar berthynas sefydlog rhwng y sawl sy’n cael ei diwtora a’r tiwtor, tra gall eraill fod yn ddwyochrog.

Disgwylir i gost gyfartalog tiwtora cyfoedion fod yn isel iawn. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant athrawon ac adnoddau dysgu. Bydd gweithredu tiwtora cyfoedion hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i hybu ansawdd y rhyngweithio tiwtora cyfoedion i’r eithaf a sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i nodi a gweithredu gwelliannau i ddulliau. Wrth ddefnyddio rhaglenni, dylai arweinwyr ysgolion asesu ansawdd a chryfder y dystiolaeth y tu ôl iddynt.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch tiwtora cyfoedion yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 127 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau127
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMehefin 2021