View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Tiwtora cyfoedion

Tiwtora cyfoedion

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+6
mis

Mae tiwtora cyfoedion yn cynnwys ystod o ddulliau lle mae dysgwyr yn gweithio mewn parau neu grwpiau bach i ddarparu cymorth addysgu penodol i’w gilydd, fel:

  • tiwtora ar draws oedrannau, lle mae dysgwr hŷn yn cymryd rôl y tiwtor ac yn cael ei baru gyda’r sawl sy’n cael ei diwtora;
  • tiwtora cyfoedion o’r un oed, lle mae dysgwyr o’r un oed yn ymgymryd â rolau sefydlog fel y tiwtor neu’r sawl sy’n cael ei diwtrora; a
  • tiwtora cyfoedion dwyochrog, lle mae disgyblion (fel arfer o’r un oed) yn newid rhwng rôl y tiwtor a’r sawl sy’n cael ei diwtora.

Y nodwedd gyffredin yw bod dysgwyr yn ysgwyddo cyfrifoldeb am agweddau ar addysgu ac am werthuso eu llwyddiant.

Mae asesiad cyfoedion yn cynnwys y tiwtor yn rhoi adborth i’r sawl sy’n cael ei diwtora sy’n ymwneud â’u perfformiad, a gall fod ar wahanol ffurfiau, megis atgyfnerthu dysgu neu gywiro camddealltwriaeth.

Mae gan diwtora cyfoedion rai cysylltiadau â dulliau dysgu cydweithredol, sy’n bwnc ar wahân yn y Pecyn Cymorth. Mae mathau eraill o diwtora, pan mae’r oedolyn yw’r tiwtor, yn cynnwys tiwtora grwpiau bachthiwtora un-i-un.

1. Mae tiwtora cyfoedion, ar gyfartaledd, yn cael effaith gadarnhaol ar diwtoriaid a’r rhai sy’n cael eu tiwtora, a gall fod yn ddull cost-effeithiol o ddarparu hyfforddiant un i un neu grŵp bach mewn ysgol.

2. Mae’n ymddangos bod tiwtora cyfoedion fwyaf effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio i adolygu neu atgyfnerthu dysgu, yn hytrach na chyflwyno deunydd newydd.

3. Mae’n hanfodol hyfforddi staff a thiwtoriaid os am lwyddo. Mae’n hanfodol neilltuo digon o amser i hyfforddi staff a thiwtoriaid, er mwyn sicrhau bod hyfforddiant yn darparu strwythur i’r tiwtora, ac i nodi a gweithredu gwelliannau wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.

4. Gall tiwtora cyfoedion fod yn arbennig o effeithiol ar gyfer disgyblion sy’n is eu cyrhaeddiad yn rôl y sawl sy’n cael ei diwtora. Mae’r dull hwn yn dangos addewid ar gyfer cefnogi’r disgyblion hyn i ddal i fyny â’u cyfoedion.

Dangoswyd bod dulliau tiwtora cyfoedion yn cael effaith gadarnhaol ar ddysgu, gydag effaith gadarnhaol ar gyfartaledd yn cyfateb i tua chwe mis ychwanegol o gynnydd o fewn un flwyddyn academaidd. Mae astudiaethau wedi nodi manteision i diwtoriaid a’r rhai sy’n cael eu tiwtora, ac ar gyfer ystod eang o grwpiau oedran. Er ei bod yn ymddangos bod pob math o ddisgyblion yn elwa o diwtora cyfoedion, mae rhywfaint o dystiolaeth bod disgyblion isel eu cyrhaeddiad a’r rhai ag anghenion addysgol arbennig yn elwa fwyaf.

Mae’n ymddangos bod tiwtora cyfoedion yn arbennig o effeithiol pan fydd disgyblion yn cael cymorth i sicrhau bod ansawdd rhyngweithio rhwng cyfoedion yn uchel: er enghraifft, fframiau cwestiynu i’w defnyddio mewn sesiynau tiwtora, a hyfforddiant ac adborth ar gyfer tiwtoriaid. Mewn tiwtora cyfoedion ar draws oedrannau, mae rhai astudiaethau wedi canfod bod bwlch o lai na thair blynedd yn ddelfrydol. Mae’n allweddol sicrhau bod y bwlch yn ddigon eang fel bod y gwaith yn heriol i’r sawl sy’n cael ei diwtora ond eto’n ddigon hawdd i’r tiwtor ei gefnogi.. Mae’n ymddangos bod sesiynau tiwtora rheolaidd (4−5 gwaith yr wythnos) o hyd at 10 wythnos yn fwy effeithiol na rhaglenni llai dwys neu hirach.

Gall dulliau llwyddiannus hefyd fod â manteision eraill, fel cefnogi datblygiad cymdeithasol a phersonol disgyblion a rhoi hwb i’w hunanhyder a’u cymhelliant dros ddysgu.

  • Mae effaith ychydig yn uwch (+7 mis) ar gyfer disgyblion oedran uwchradd na disgyblion oedran cynradd (+5 mis).

  • Mae tiwtora cyfoedion yn cael effaith gyfartalog debyg mewn mathemateg a llythrennedd, a gall fod yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.

  • Mae disgyblion is eu cyrheddiad yn tueddu i elwa mwy (+6 mis) na disgyblion sy’n uwch eu cyrhaeddiad.

  • Cynhaliwyd nifer o astudiaethau sy’n defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dulliau tiwtora cyfoedion, gydag effaith gyffredinol debyg.

  • Mae tiwtora cyfoedion yn cael effaith gyfartalog debyg mewn mathemateg a llythrennedd, a gall fod yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.

Er mai prin yw’r dystiolaeth sy’n archwilio disgyblion o gefndir difreintiedig yn benodol, mae astudiaethau wedi dangos bod disgyblion isel eu cyrhaeddiad fel arfer yn cael manteision ychwanegol o diwtora cyfoedion. Gall dulliau tiwtora dan arweiniad cyfoedion helpu disgyblion i gau bylchau yn eu dysgu trwy gynnig cymorth wedi’i dargedu dan arweiniad cyfoedion i atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd o fewn y dosbarth, ymarfer sgiliau, a nodi a goresgyn camsyniadau. Mae peth tystiolaeth hefyd i awgrymu y gall tiwtora dan arweiniad cyfoedion gynnig cyfle i diwtoriaid adolygu ac ailedrych ar sgiliau, gwybodaeth flaenorol, a datblygu dealltwriaeth fetawybyddol o bynciau.

Mae tiwtora cyfoedion yn dibynnu ar ryngweithio agos rhwng dau neu fwy o fyfyrwyr gyda dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb am agweddau ar addysgu ac am werthuso eu llwyddiant. Wrth weithredu dulliau tiwtora cyfoedion, dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau rhyngweithio o ansawdd uchel rhwng disgyblion. Gallai hyn gynnwys:

  • Tasgau sydd wedi’u strwythuro’n ofalus fel bod sesiynau’n canolbwyntio ar wybodaeth sy’n bodoli eisoes;
  • Hyfforddiant i diwtoriaid cyfoedion ar ddulliau addysgu, fel modelu gwybodaeth, goresgyn camsyniadau cyffredin, adborth a gwerthuso cynnydd;
  • Ystyried yn ofalus sut i baru tiwtoriaid a’r sawl sy’n cael ei diwtora yn briodol;
  • Darparu cymhorthion addysgu a fframiau dysgu i roi arweiniad i diwtoriaid ar sut i strwythuro dysgu, neu’r mathau o gwestiynau i’w gofyn i’r sawl sy’n cael ei diwtora.

Fel arfer, darperir ymyriadau tiwtora cyfoedion mewn blociau dwys dros 4 i 10 wythnos. Gall dulliau gynnwys tiwtora ar draws oedrannau neu diwtora o’r un oedran, fel arfer mewn parau. Gall dulliau fod yn seiliedig ar berthynas sefydlog rhwng y sawl sy’n cael ei diwtora a’r tiwtor, tra gall eraill fod yn ddwyochrog.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Disgwylir i gost gyfartalog tiwtora cyfoedion fod yn isel iawn. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant athrawon ac adnoddau dysgu. Bydd gweithredu tiwtora cyfoedion hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i hybu ansawdd y rhyngweithio tiwtora cyfoedion i’r eithaf a sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i nodi a gweithredu gwelliannau i ddulliau. Wrth ddefnyddio rhaglenni, dylai arweinwyr ysgolion asesu ansawdd a chryfder y dystiolaeth y tu ôl iddynt.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch tiwtora cyfoedion yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 145 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau145
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMai 2025