View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Gweithgarwch corfforol

Gweithgarwch corfforol

Effaith isel am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+2
mis

Mae gweithgarwch corfforol yn cyfeirio at ddulliau sy’n ennyn diddordeb disgyblion mewn chwaraeon, dawns neu unrhyw fath o ymarfer corff.

Gallai hyn fod drwy weithgareddau a drefnir ar ôl ysgol neu raglen a drefnir gan glwb neu gymdeithas chwaraeon lleol. Weithiau defnyddir gweithgaredd chwaraeon fel modd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ychwanegol, fel hyfforddiant pêl-droed mewn clwb pêl-droed lleol wedi’i gyfuno â sgiliau astudio, gwersi TGCh, llythrennedd neu fathemateg.

Mae gan weithgarwch corfforol fanteision pwysig o ran iechyd, llesiant a datblygiad corfforol. Mae’r buddion hyn yn werthfawr iawn ynddynt eu hunain, fodd bynnag, mae’r llinyn Pecyn Cymorth hwn yn canolbwyntio ar fanteision gweithgarwch corfforol ar wybyddiaeth a’r effaith ar gyrhaeddiad academaidd craidd, yn enwedig llythrennedd a mathemateg.

Mae gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad academaidd (+2 fis). Er bod y crynodeb hwn o dystiolaeth yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd, mae’n hanfodol sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at weithgarwch corfforol o ansawdd uchel ar gyfer y buddion a’r cyfleoedd eraill y mae’n eu darparu.

Mae’r effaith ar gyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol ymyriadau, ac nid yw cymryd rhan mewn chwaraeon yn trosglwyddo’n syml i ddysgu academaidd. Mae’n debygol y gall ansawdd y rhaglen a’r pwyslais ar ddysgu academaidd neu gysylltiad ag ef wneud mwy o wahaniaeth na’r math penodol o ddull neu weithgareddau dan sylw.

Mae gweithgareddau allgyrsiol wedi’u cynllunio sy’n cynnwys addysgu byr, rheolaidd a strwythuredig mewn llythrennedd a mathemateg (tiwtora neu addysgu grŵp) fel rhan o raglen chwaraeon, fel clwb ar ôl ysgol neu ysgol haf, yn fwy tebygol o gynnig manteision academaidd na gweithgareddau chwaraeon yn unig.

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol gynyddu presenoldeb a chadw disgyblion mewn addysg.

Tua dau fis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog ymgysylltu ag ymyriadau a dulliau gweithgarwch corfforol.

Mae amrywioldeb yr effeithiau yn awgrymu y gall ansawdd y rhaglen a’r pwyslais ar ddysgu academaidd neu gysylltiad ag ef wneud mwy o wahaniaeth na’r math penodol o ddull neu weithgareddau chwaraeon dan sylw. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn debygol o gael manteision iechyd a chymdeithasol ehangach.

Mae manteision ehangach o weithgarwch corfforol rheolaidd o ran datblygiad corfforol, iechyd a llesiant ac mae manteision posibl eraill wedi’u hadrodd hefyd fel presenoldeb gwell.

  • Cynhaliwyd y mwyafrif o astudiaethau yn lleoliadau blynyddoedd cynnar neu ysgolion cynradd. Fodd bynnag, mae’r effeithiau o leiaf mor fawr ymhlith disgyblion ysgol uwchradd.

  • Mae’r effaith yn debyg ar gyfer llythrennedd a mathemateg.

  • Gall sesiynau byrrach (hyd at 30 munud) a weithredir dro ar ôl tro dros un tymor (hyd at 12 wythnos) fod yn fwy effeithiol na rhai hirach.

  • Mae’r sesiynau’n effeithiol, p’un a ydynt yn cael eu cyflwyno gan athrawon dosbarth, darparwyr allanol, neu gymysgedd o’r ddau. Fodd bynnag, gallai staff allanol ddod ag arbenigedd a gallu ychwanegol a allai hybu effeithiolrwydd.

Gall disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fod yn llai tebygol o gael mynediad at glybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill y tu allan i’r ysgol oherwydd y costau ariannol cysylltiedig (e.e. offer). Trwy ddarparu gweithgareddau corfforol am ddim, mae ysgolion yn rhoi mynediad i ddisgyblion at fanteision a chyfleoedd na fyddai fel arall o bosibl ar gael iddynt.

Wrth ystyried cynnal gweithgareddau chwaraeon a allai fod angen cyfraniadau gan rieni, dylai ysgolion ystyried a ellid darparu lleoedd am ddim neu gymhorthdal i ddisgyblion dan anfantais.

Nid yw’n glir sut yn union y mae gweithgarwch corfforol yn dylanwadu ar gyrhaeddiad academaidd. Efallai mai’r ymarfer corfforol ei hun sy’n dylanwadu ar gyrhaeddiad, neu weithgareddau dysgu atodol sydd wedi’u hintegreiddio i weithgaredd corfforol yn yr astudiaethau a nodir yn y Pecyn Cymorth. Mae rhai ffyrdd y mae ysgolion yn gweithredu gweithgarwch corfforol yn cynnwys:

  • Gweithgareddau rheolaidd cyn neu ar ôl ysgol;
  • Sefydliadau allanol yn darparu gweithgareddau o fewn neu y tu allan i’r ysgol;
  • Y cyfuniad o chwaraeon a gweithgareddau corfforol gydag arferion addysgu a dysgu (fel addysgu sgiliau astudio, gwersi TGCh, llythrennedd neu fathemateg);
  • Integreiddio dulliau mentora o fewn rhaglenni chwaraeon.

Mae mwy o wybodaeth ar sut y gall gweithgarwch corfforol hyrwyddo datblygiad corfforol a deiliannau i ddisgyblion yn y blynyddoedd cynnar i’w gael yn yr Early Years Evidence Store.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler A School’s Guide to Implementation | EEF

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu gweithgarwch corfforol yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau corfforol yn deillio o hyfforddiant ar gyfer staff sy’n arwain rhaglenni, ac unrhyw adnoddau neu offer ychwanegol sydd eu hangen, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer gweithgarwch corfforol yn isel iawn, mae cyflogau staff ychwanegol a chyfleusterau o bosibl yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyfleusterau chwaraeon ysgol a rhai deunyddiau ac offer sylfaenol. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu gweithgareddau corfforol, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch gweithgarwch corfforol yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 136 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a defnyddio eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau136
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMai 2025