View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Dysgu cymdeithasol ac emosiynol

Dysgu cymdeithasol ac emosiynol

Effaith gymedrol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+3
mis

Mae ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn ceisio gwella sgiliau gwneud penderfyniadau disgyblion, eu rhyngweithio ag eraill a’u hunanreolaeth o emosiynau, yn hytrach na chanolbwyntio’n uniongyrchol ar elfennau academaidd neu wybyddol dysgu.

Gallai ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol ganolbwyntio ar y ffyrdd y mae myfyrwyr yn gweithio gyda’u cyfoedion, athrawon, teulu neu gymuned ac ochr yn ochr â nhw.

Gellir nodi tri chategori eang o ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol: 
  • Dulliau lefel ysgol o ddatblygu ethos ysgol cadarnhaol, sydd hefyd yn anelu at gefnogi mwy o ymgysylltu â dysgu;
  • Rhaglenni cyffredinol sy’n digwydd fel rheol yn yr ystafell ddosbarth gyda’r dosbarth cyfan; a
  • Rhaglenni mwy arbenigol sy’n defnyddio elfennau o ddysgu cymdeithasol ac emosiynol ac sydd wedi’u targedu at fyfyrwyr ag anghenion cymdeithasol neu emosiynol penodol.

1. Mae dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael effaith gadarnhaol, ar gyfartaledd, o gynnydd ychwanegol o 3 mis mewn deilliannau academaidd yn ystod blwyddyn academaidd.

2. Mae’r astudiaethau yn y Pecyn Cymorth yn canolbwyntio’n bennaf ar ddeilliannau academaidd, ond mae’n bwysig ystyried manteision eraill ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Bydd gallu rheoli emosiynau yn effeithiol o fudd i blant a phobl ifanc hyd yn oed os nad yw’n arwain at well sgoriau darllen neu fathemateg.

3. Er ei bod yn ymddangos bod dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol cyffredinol yn cael ychydig mwy o effeithiau ar gyfartaledd, ni ddylid ystyried dulliau ar eu pen eu hunain. Bydd y rhan fwyaf o ysgolion am ddefnyddio cyfuniad o ddysgu cymdeithasol ac emosiynol dosbarth cyfan, a chefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol ac emosiynol penodol.

4. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod dulliau sy’n canolbwyntio ar wella rhyngweithio cymdeithasol rhwng disgyblion yn addawol iawn.

Effaith gyfartalog ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol llwyddiannus yw cynnydd o dri mis ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn. Ochr yn ochr â deilliannau academaidd, mae ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael effaith amlwg a gwerthfawr ar agweddau at ddysgu a pherthnasoedd cymdeithasol yn yr ysgol.

Er bod ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol bron bob amser yn cael eu hystyried yn fodd i wella deilliannau emosiynol neu agweddau myfyrwyr, nid yw pob ymyriad yr un mor effeithiol wrth godi cyrhaeddiad. Mae gwelliannau’n ymddangos yn fwy tebygol pan fydd dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn rhan annatod o arferion addysgol arferol ac yn cael eu cefnogi gan ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant i staff. Yn ogystal, ymddengys fod dull gweithredu’r rhaglen a’r graddau y mae athrawon wedi ymrwymo i’r dull gweithredu yn bwysig.

  • Mae ymyriadau ar gyfer disgyblion oed uwchradd yn tueddu i fod yn fwy effeithiol (+5 mis) na’r rhai a werthuswyd mewn ysgolion cynradd (+2 mis).

  • Mae effeithiau yn tueddu i fod yn debyg o ran deilliannau llythrennedd a mathemateg (+2 mis).

  • Mae’n ymddangos mai sesiynau byrrach (sydd hyd at 45 munud o hyd a gynhelir ddwywaith yr wythnos) yw’r strwythur mwyaf llwyddiannus ar gyfer ymyriadau.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan blant o gefndiroedd difreintiedig, ar gyfartaledd, sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol gwannach ar bob oedran na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae’r sgiliau hyn yn debygol o ddylanwadu ar ystod o ddeilliannau i ddisgyblion: mae sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol is yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth a chyrhaeddiad academaidd is.

Dangosir bod ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn addysg yn gwella sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol ac felly maent yn debygol o gefnogi disgyblion difreintiedig i ddeall a meithrin perthnasoedd iach â chyfoedion a hunanreoleiddio eu hemosiynau. Gall hynny wedyn gynyddu cyrhaeddiad academaidd.

Dylai ysgolion ystyried yn ofalus sut mae dulliau wedi’u targedu yn cael eu defnyddio i gefnogi disgyblion ag anghenion cymdeithasol neu emosiynol ychwanegol. Bydd anghenion dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau na fyddant efallai’n cyfateb i gynnydd academaidd a dylid eu monitro’n ofalus.

Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn bwysig ynddo’i hun. Gallai’r dulliau gael effaith ar ddeilliannau academaidd trwy wella ymgysylltiad â dysgu neu sgiliau hunanreoleiddio. Os yw ysgolion yn anelu at wella sgil benodol, dylent ystyried yn ofalus:

  • Sut bydd y dull dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael ei ymgorffori a’i fodelu ar draws yr ysgol.
  • Sut i nodi a darparu cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth dysgu cymdeithasol ac emosiynol ychwanegol.

Fel arfer, mae dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu cyflwyno dros gyfnod a bennwyd ymlaen llaw os ydynt yn cael eu defnyddio fel ymyriad wedi’i dargedu (e.e. hyd un tymor). Gellid eu rhoi ar waith hefyd yn ystod blwyddyn academaidd (e.e. os mai’r bwriad yw sicrhau newid ar draws yr ysgol).

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn deillio o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i staff, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn isel iawn, mae’r opsiwn i brynu llyfrau, adnoddau a deunyddiau ychwanegol, a chostau hyfforddi a chefnogi staff dros amser yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 119 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd:

  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau119
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMai 2025