Partneriaeth newydd i gefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru

Lansio Pecynnau Cymorth Dysgu ac Addysgu Cymraeg
Author
EEF
EEF

Mae’r Sefydliad Gwaddol Addysgol (EEF) wedi lansio partneriaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru. 

Press release •2 minutes •

Bydd fersiynau Cymraeg o’r Pecynnau Cymorth Blynyddoedd Cynnar ac Addysgu a Dysgu, a lansiwyd heddiw, ac ar gael drwy Hwb, yn rhoi mynediad i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru i dystiolaeth o dros 2,500 o astudiaethau addysg o ansawdd uchel wedi’u crynhoi i gefnogi penderfyniadau athrawon ac arweinwyr sy’n brin o amser.

Mae lansio’r pecynnau cymorth dwyieithog yn rhan o bartneriaeth i wella’r defnydd o dystiolaeth ar draws y system i gefnogi ei strategaeth ecwiti addysg.

Gyda’i gilydd, mae’r Pecynnau Cymorth yn cwmpasu 40 o wahanol ddulliau addysgu a dysgu y gallai ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar eu defnyddio. Mae dulliau yn amrywio o adborth, metawybyddiaeth a hunanreoleiddio, i ymyriadau ymddygiad, ac ailadrodd blwyddyn. Mae pob dull yn cael ei grynhoi o ran:

  • Ei effaith gyfartalog ar gyrhaeddiad
  • Cryfder y dystiolaeth sy’n ei ategu; a’i
  • Gost.

Nid yw’r Pecyn Cymorth yn gwneud honiadau pendant ynghylch yr hyn a fydd yn gweithio i wella canlyniadau mewn ysgolion a lleoliadau. Yn hytrach, mae’n rhoi crynodeb o ganfyddiadau ymchwil academaidd ynghylch pa ddulliau a allai fod yn addawol a pha ddulliau sy’n wynebu’r risg o niweidio canlyniadau plant. Nod y Pecyn Cymorth yw gwneud tystiolaeth yn hygyrch i athrawon, wedi’i hysgrifennu mewn iaith glir ac yn rhad ac am ddim i bawb ei chyrchu. Er enghraifft, yn hytrach na gorfod darllen 155 o bapurau ymchwil ar gyflwyno adborth mewn ysgolion, gall athrawon gael crynodeb cyflym sy’n rhoi trosolwg gwrthrychol o’r dystiolaeth ac sy’n rhoi mewnwelediadau clir ar sut i gyflawni’r dull gweithredu.

Mae pob maes yn cynnwys adran weithredu sy’n cynnig arweiniad ynghylch realiti ymarferol cyflwyno dull. Nod hyn yw cefnogi arweinwyr ysgolion i roi dulliau newydd ar waith yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r adran ​‘tu ôl i’r cyfartaledd’ yn trafod effeithiau gwahaniaethol dulliau ar gyfer gwahanol oedrannau neu mewn pynciau gwahanol. Mae hyn yn rhoi mwy o fewnwelediad i ysgolion i naws y dystiolaeth.

Mae darparu’r Pecynnau Cymorth yn ddwyieithog yn eu gwneud yn hygyrch i lawer mwy o athrawon ac arweinwyr. Mae’r canllaw Cymraeg cysylltiedig i’r Pecynnau Cymorth yn rhoi mwy o wybodaeth am sut y gall athrawon ddefnyddio’r adnodd hwn wrth gynllunio yn eu hysgol.