View yn Cymraeg

:Oriau ychwanegol

Oriau ychwanegol

Effaith gymedrol am gost sylweddol iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Mae hyn yn cyfeirio at gynyddu faint o addysg blynyddoedd cynnar y mae plentyn yn ei dderbyn ar oedran penodol. Yn fwyaf cyffredin, darperir oriau ychwanegol trwy newid o ddarpariaeth hanner diwrnod i ddarpariaeth diwrnod llawn. I gael crynodeb o’r dystiolaeth sy’n ymwneud â dechrau addysg blynyddoedd cynnar yn iau, gallwch ddarllen y cofnod ar oedran dechrau cynharach.

  • Mae cynyddu faint o addysg blynyddoedd cynnar y mae plentyn yn ei dderbyn yn cael effaith gadarnhaol ar ei ddysgu gydag effaith gyfartalog o gynnydd ychwanegol o bedwar mis. Fodd bynnag, mae dibynadwyedd y dystiolaeth yn isel iawn.

  • Er gwaethaf yr effaith gadarnhaol, mae cynyddu oriau’r ddarpariaeth yn gost uchel fesul plentyn. Gall fod yn fwy cost-effeithiol i ganolbwyntio ar wella ansawdd y ddarpariaeth cyn ystyried cynyddu maint y ddarpariaeth o fewn pob diwrnod.

  • Efallai na fydd enillion dysgu o oriau cynyddol yn cael eu cynnal ymlaen i’r ysgol gynradd oni bai bod y ddarpariaeth o ansawdd uchel, gyda staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda, ac sydd â chymwysterau da.

  • Mae recriwtio a chadw staff yn ffactor allweddol arall ar gyfer deilliannau plentyndod cynnar a allai ryngweithio â nifer yr oriau o ddarpariaeth.

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu, ar gyfartaledd, y gall cynyddu faint o addysg blynyddoedd cynnar y mae plentyn yn ei dderbyn gynhyrchu gwelliannau cymedrol o bedwar mis ychwanegol o gynnydd mewn perfformiad academaidd. Fodd bynnag, mae’r buddion yn amrywio’n fawr ar draws astudiaethau.

Mae rhai arwyddion hefyd na ellir cynnal unrhyw enillion dysgu sy’n gysylltiedig ag oriau ychwanegol ymlaen i’r ysgol gynradd oni bai bod ansawdd y ddarpariaeth yn yr amser estynedig o ansawdd uchel. Un o’r rhagfynegyddion cryfaf o ran cyrhaeddiad mewn ysgolion yn 11 oed yw presenoldeb athro derbyn effeithiol. Heb ddarpariaeth barhaus o ansawdd uchel, mae’n ymddangos bod gwelliannau tymor byr sy’n gysylltiedig ag oriau ychwanegol yn golchi allan” yn yr ysgol gynradd.

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau’n canolbwyntio ar blant pedair neu bump oed, sy’n ei gwneud hi’n anodd dod i gasgliadau cadarn am effaith oriau ychwanegol ar blant tair oed.

Er gwaethaf yr effaith gyffredinol, mae rhai astudiaethau’n dod o hyd i ddeilliannau llai cadarnhaol. Edrychodd astudiaeth EPPE ar y cysylltiad rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth cyn-ysgol a dysgu plant ifanc, ac roedd yn cynnwys 3,000 o blant yn y DU. Canfu’r astudiaeth hon nad oedd gan blant a dderbyniai ddarpariaeth diwrnod llawn ddeilliannau darllen neu rifedd cynnar uwch o gymharu â’r rhai a fynychai am hanner diwrnod yn unig. Fodd bynnag, mae natur gydberthynol yr ymchwil yn golygu na all ddiystyru esboniadau amgen ar gyfer y canfyddiad.

  • Gellir gweld effeithiau oriau ychwanegol o addysg blynyddoedd cynnar mewn llythrennedd cynnar (+ pedwar mis) a mathemateg gynnar (+ tri mis).

  • Mae peth tystiolaeth bod astudiaethau yn ymwneud â lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd yn llai effeithiol (+ tri mis) na’r rhai sy’n ymwneud ag ysgolion meithrin (+ chwe mis), er nad yw’r rhesymau dros hyn yn glir.

  • Nid yw’n bosibl dweud o’r dystiolaeth bresennol a yw darparu oriau ychwanegol yn strategaeth fwy addawol i blant tair oed neu i blant pedair oed.

  • Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau wedi’u cynnal yn UDA – gallai hyn beri risg o ran trosglwyddo canfyddiadau, gan y gallai fod gwahaniaethau rhwng UDA a chyd-destunau eraill a allai arwain at ddeilliannau gwahanol.

Er nad oedd digon o astudiaethau i archwilio’r berthynas rhwng oriau ychwanegol ac anfantais yn systematig, roedd astudiaethau mewn lleoliadau â chyfran uwch o blant sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn tueddu i gael effeithiau uwch na’r cyfartaledd, gan awgrymu bod hyn yn debygol o fod yn ddull buddiol i’r grŵp hwn.

Gall sicrhau nad yw cost yn rhwystr i deuluoedd o statws economaidd-gymdeithasol isel gael mynediad i oriau ychwanegol o addysg plentyndod cynnar fod yn ffactor pwysig wrth gau’r bwlch cyrhaeddiad.

Er y gall ychwanegu oriau ychwanegol ymddangos yn syml, mae angen cynllunio gofalus i sicrhau bod ansawdd yn parhau’n uchel. Er enghraifft:

  • Sicrhau bod unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn cael eu cynllunio’n ofalus a neilltuo amser i ymarferwyr gynllunio sut i ddefnyddio amser yn effeithiol.
  • Ystyried effeithiau negyddol posibl amser ychwanegol ar allu plant i ganolbwyntio ac ar lesiant a chadw staff.
  • Mae gan oriau darpariaeth yn y blynyddoedd cynnar ystyriaethau eraill y tu hwnt i ddeilliannau dysgu – mae’n bwysig ystyried y ffordd y mae newidiadau’n rhyngweithio ag ymgysyltiad rhieni.
  • Pan fo costau ychwanegol y ddarpariaeth yn cael eu talu gan rieni, mae perygl y bydd bylchau anfantais yn cynyddu. Mae’n bwysig ystyried sut i liniaru unrhyw risgiau a achosir drwy leihau mynediad i deuluoedd llai cefnog.

O ystyried cost uchel cynyddu nifer yr oriau o ddarpariaeth, yn enwedig symud o hanner i ddiwrnod llawn, mae’n bwysig gwerthuso effaith unrhyw weithgaredd yn y maes hwn ac ystyried dulliau a allai wella ansawdd fel dewisiadau amgen mwy cost-effeithiol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation

Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y costau’n uchel iawn. Mae lle llawn amser mewn lleoliad cyn ysgol yn costio tua £4,000 yn fwy na lle hanner amser am 40 wythnos, neu oddeutu £100 ychwanegol yr wythnos. Y tu ôl i’r costau cyfartalog hyn mae amrywiad sylweddol yn seiliedig ar ranbarth, math o leoliad a sut mae’r gost yn cael ei rhannu rhwng rhieni a gofal plant a ariennir gan y wladwriaeth.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch Oriau Ychwanegol yn cael ei ystyried yn gyfyngedig iawn. Nodwyd 53 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc gloeon clap ychwanegol oherwydd:

  • Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.

Nid yw dibynadwyedd isel tystiolaeth yn golygu’r un fath â thystiolaeth o ddim effaith. Efallai bod gan lawer o ddulliau dystiolaeth isel, nid oherwydd eu bod yn aneffeithiol ond oherwydd nad yw ymchwil o ansawdd uchel wedi digwydd eto.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau53
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023