View yn Cymraeg

:Oedran dechrau cynharach

Oedran dechrau cynharach

Effaith gymedrol am gost sylweddol iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+3
mis

Mae oedran dechrau cynharach” yn cyfeirio at gynyddu’r amser y mae plentyn yn ei dreulio mewn addysg blynyddoedd cynnar trwy ddechrau yn iau.

Am asesiad o’r dystiolaeth sy’n ymwneud â chynyddu nifer yr oriau a dreulir mewn addysg blynyddoedd cynnar ar adeg benodol, gweler Oriau ychwanegol”.

Yn y DU, byddai oedran dechrau cynharach fel arfer yn golygu cofrestru mewn meithrinfa neu gylch cyn-ysgol yn ddwy neu dair oed a phrofi hyd at ddwy flynedd o addysg blynyddoedd cynnar cyn dechrau yn yr ysgol.

  • Mae’n ymddangos bod dechrau addysg blynyddoedd cynnar flwyddyn yn gynt na’r arfer yn cael effaith gadarnhaol gymedrol (+ tri mis) ar ddeilliannau dysgu.

  • Un o wendidau’r sylfaen dystiolaeth yw bod y rhan fwyaf o’r astudiaethau’n archwilio cymariaethau rhwng dechrau addysg blynyddoedd cynnar yn bedair oed yn hytrach na phump. Er bod yr effeithiau’n ymddangos yn gyson, mae llawer llai o dystiolaeth ynghylch effaith oedrannau dechrau cynharach (e.e. plant dwy neu dair oed).

  • Ystyriaeth bwysig o ran oedran dechrau cynharach yw cost. Lle mae costau yn rhwystr i deuluoedd difrentiedig, gall bylchau o ran cyrhaeddiad gynyddu.

  • Bydd oedran dechrau cynharach yn effeithio ar y ddarpariaeth. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i ddarparu cymorth priodol ar gyfer pob ystod oedran ar draws lleoliadau.

  • Canfuwyd effeithiau cadarnhaol ar gyfer deilliannau darllen cynnar ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol gynradd yn ogystal â sgiliau iaith a rhifau cynnar. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gellir cynnal effeithiau cadarnhaol oedran dechrau cynharach ymlaen i’r ysgol gynradd ac uwchradd, ond mae tystiolaeth yn wannach o lawer ac wedi’i dylanwadu’n drwm gan ansawdd y ddarpariaeth yn ystod yr ysgol gynradd.

Tua 3 mis o gynnydd ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog oedran dechrau cynharach.

Mae tystiolaeth am effaith tymor hwy oedran dechrau cynharach yn amrywio. Mewn rhai astudiaethau, gellir canfod effeithiau cadarnhaol ymlaen i’r ysgol gynradd a hyd yn oed ymlaen i’r ysgol uwchradd. Fodd bynnag, mewn sawl astudiaeth yn UDA, nid yw’n ymddangos bod buddion fel arfer yn cael eu cynnal am fwy na blwyddyn neu ddwy. Mae’n ymddangos yn debygol mai ansawdd y ddarpariaeth yw prif benderfynydd gwelliant parhaus, ond mae angen mwy o dystiolaeth yn y maes hwn i nodi pa arferion sydd fwyaf defnyddiol ar gyfer gwahanol oedrannau.

Mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol yn ymwneud yn bennaf â phresenoldeb mewn lleoliad grŵp blynyddoedd cynnar am flwyddyn ychwanegol, yn hytrach na mynychu lleoliad cartref fel gwarchodwr plant.

Mae oedran dechrau’r ysgol yn wahanol mewn gwahanol wledydd, a all ei gwneud hi’n anodd asesu pa mor gymwys yw’r dystiolaeth o wahanol wledydd i’r DU. Er enghraifft, er bod canfyddiadau sy’n ymwneud ag oedrannau dechrau cynharach o UDA yn gyson â’r rhai o’r DU, mae addysg cyn oedran kindergarten yn yr Unol Daleithiau fel arfer yn cynnwys plant pedair a phump oed, ac ychydig o astudiaethau o ansawdd uchel sy’n asesu effaith dechrau yn ddwy neu’n dair oed.

Yn y DU, yr astudiaeth o’r ansawdd uchaf a gynhaliwyd hyd yma yw’r prosiect Effective Provision of Pre-school Education (EPPE), sydd wedi asesu effaith oedran dechrau cynharach. Edrychodd yr astudiaeth ar y cysylltiad rhwng gwahanol fathau o ddarpariaeth cyn-ysgol a dysgu plant ifanc, ac roedd yn cynnwys 3,000 o blant. Canfu fod oedrannau dechrau cynharach yn gysylltiedig â gwell deilliannau dysgu.

  • Mae effeithiau tebyg i’w cael ar gyfer astudiaethau sy’n cynnwys plant tair oed â’r rhai â phlant pedair a phump oed, ond mae llai o astudiaethau.

  • Mae effeithiau’n debyg ar draws meithrinfeydd a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd.

  • Ceir effeithiau tebyg ar gyfer deilliannau llythrennedd a mathemateg cynnar (+ tri mis).

  • Er bod y rhan fwyaf o astudiaethau wedi’u cynnal yn UDA, mae tystiolaeth ar oedran dechrau cynharach o’r DU, De America, Awstralia ac Asia.

Mae rhai arwyddion y gall effaith darpariaeth blynyddoedd cynnar ychwanegol fod yn arbennig o gadarnhaol i blant o deuluoedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd oedran dechrau cynharach o fudd i ddisgyblion difreintiedig, dylai lleoliadau ystyried sut i sicrhau ymgysylltiad a phresenoldeb ymhlith y rhai o gefndiroedd difreintiedig.

Gall sicrhau nad yw cost yn rhwystr i deuluoedd o statws economaidd-gymdeithasol isel gael mynediad i addysg plentyndod cynnar fod yn ffactor pwysig wrth gau’r bwlch cyrhaeddiad.

Er bod effaith gadarnhaol i oedran dechrau cynharach, ceir rhai ystyriaethau allweddol ynghylch gweithredu er mwyn gwneud y gorau o effeithiolrwydd y dull:

  • Gall gostwng yr oedran dechrau gynyddu’r ystod oedran ymhlith lleoliadau blynyddoedd cynnar; mae’n hanfodol bod staff yn barod i ddarparu darpariaeth briodol ar draws yr ystod.
  • Yn benodol, bydd yn bwysig asesu effeithiolrwydd y ddarpariaeth ar gyfer plant iau.
  • Gall datblygiad proffesiynol a ddewisir yn ofalus helpu staff i gefnogi datblygiad a dysgu plant iau.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Ar y cyfan, amcangyfrifir bod y costau’n uchel iawn ond mae amrywiaeth mawr mewn costau.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch oedran dechrau cynharach yn cael ei ystyried yn isel iawn. Nodwyd 41 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Mae’r nifer cymharol isel hwn o astudiaethau yn gostwng ein hyder yn y canfyddiadau. Collodd y pwnc dri chlo clap am y rheswm hwn.

Collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd nad yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.

Un o’r bygythiadau i ddibynadwyedd y dystiolaeth yw’r gwahanol lefelau o dystiolaeth ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Yn benodol, ychydig iawn o astudiaethau sydd ar fanteision dechrau addysg gynnar yn ddwy yn hytrach na thair neu bedair oed.

Nid yw dibynadwyedd isel tystiolaeth yn golygu’r un fath â thystiolaeth o ddim effaith. Efallai bod gan lawer o ddulliau dystiolaeth isel, nid oherwydd eu bod yn aneffeithiol ond oherwydd nad yw ymchwil o ansawdd uchel wedi digwydd eto.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau41
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023