View yn Cymraeg

:Ymgysylltiad rhieni

Ymgysylltiad rhieni

Effaith sylweddol am gost isel yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Mae ymgysylltu rhieni yn cyfeirio at weithwyr proffesiynol a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn cynnwys rhieni yn weithredol wrth gefnogi dysgu a datblygiad eu plant. Mae’n cynnwys:

  • Dulliau sy’n annog rhieni i ddarllen a siarad â’u plant gartref neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y lleoliad blynyddoedd cynnar.
  • Rhaglenni sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar rieni eu hunain, er enghraifft, darparu hyfforddiant mewn sgiliau rhianta neu gymorth rhifedd a llythrennedd oedolion.
  • Rhaglenni dwys ar gyfer teuluoedd difreintiedig neu deuluoedd mewn argyfwng, er enghraifft, wrth i leoliadau benodi cyswllt teuluol sy’n gweithio gyda rhieni naill ai drwy ymweliadau cartref neu ddulliau eraill wedi’u targedu.
  • Mae ymgysylltiad rhieni yn cael effaith gadarnhaol sef cynnydd ychwanegol o 5 mis ar gyfartaledd. Mae’n hanfodol ystyried sut i ymgysylltu â phob rhiant er mwyn osgoi lledu bylchau cyrhaeddiad. Mae tystiolaeth helaeth o effaith gadarnhaol dulliau ymgysylltiad rhieni.

  • Canfuwyd effeithiau cadarnhaol ar gyfer deilliannau darllen cynnar yn ogystal â sgiliau iaith a rhifau cynnar.

  • Mae amrywiaeth o ran effeithiolrwydd gwahanol ddulliau, a dylai lleoliadau gymryd gofal wrth ddatblygu eu dulliau ymgysylltu â rhieni, a chynllunio ar gyfer monitro a gwerthuso parhaus effeithiol.

  • Yn gyffredinol, mae ymyriadau sy’n targedu teuluoedd neu ddeilliannau penodol yn dangos mwy o gynnydd.

Mae ymgysylltiad rhieni mewn addysg blynyddoedd cynnar yn gysylltiedig yn gyson â llwyddiant academaidd plant yn ddiweddarach. Ar gyfartaledd, mae rhaglenni ymgysylltiad rhieni a werthuswyd hyd yma wedi arwain at effaith gadarnhaol o bum mis o gynnydd ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn. Fodd bynnag, mae rhywfaint o amrywiaeth o ran effeithiolrwydd rhwng dulliau, sy’n awgrymu bod angen meddwl yn ofalus wrth ddatblygu a chyflwyno dulliau ymgysylltiad rhieni, a bod monitro a gwerthuso parhaus yn hanfodol.

Gall dulliau sy’n ceisio cynyddu ymgysylltiad cyffredinol rhieni, er enghraifft trwy annog rhieni i ddarllen gyda’u plant gael effaith gadarnhaol gymedrol ar bob plentyn. Mae astudiaethau’n tynnu sylw at fanteision darllen i blant cyn iddynt allu darllen, ac yna darllen gyda phlant cyn gynted ag y gallant ddarllen. Mae nifer o astudiaethau wedi nodi effaith gadarnhaol annog rhieni i siarad â’u plant.

Gall dulliau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau rhieni eu hunain, er enghraifft trwy ddarparu hyfforddiant strwythuredig, gael effaith gadarnhaol gymedrol ar ddysgu. Yn gyffredinol, mae dulliau mwy dwys, sy’n targedu teuluoedd neu ddeilliannau penodol, yn gysylltiedig ag enillion dysgu uwch.

  • Canfuwyd effeithiau tebyg ar gyfer deilliannau llythrennedd a mathemateg cynnar (+ pum mis).

  • Mae’r effeithiau’n debyg ar draws ysgolion meithrin a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd.

  • Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn edrych ar ymyriadau darllen a llythrennedd cynnar. Roedd nifer llai o astudiaethau yn edrych ar ymyriadau a oedd â’r nod o wella sgiliau magu plant.

  • Mae astudiaethau sy’n edrych ar effaith ymgysylltiad rhieni yn y blynyddoedd cynnar wedi digwydd ar draws 22 o wledydd.

Er nad oedd digon o astudiaethau i archwilio’r berthynas rhwng ymgysylltiad rhieni ac anfantais yn systematig, mae astudiaethau’n awgrymu bod yr effaith ar deuluoedd difreintiedig yn tueddu i fod yn is.

Mae’n hanfodol bod lleoliadau’n ystyried sut y bydd strategaethau ymgysylltiad rhieni yn ymgysylltu â’r holl rieni, gan fod gan yr ymyriadau hyn y risg o gynyddu bylchau cyrhaeddiad os yw’r rhieni sy’n manteisio ar gyfleoedd ymgysylltu â rhieni yn dod o gefndiroedd mwy cefnog yn bennaf.

Y mecanwaith allweddol ar gyfer strategaethau ymgysylltiad rhieni yw gwella ansawdd a maint y dysgu sy’n digwydd yn yr amgylchedd dysgu gartref. Mae hyn yn anodd iawn i’w weithredu yn ymarferol. Dyma rai elfennau allweddol y gallai lleoliadau ystyried eu gweithredu:

  • Rhoi arweiniad syml i rieni am sut y gallant gefnogi eu plentyn.
  • Teilwra cyfathrebiadau i annog deialog gadarnhaol am ddysgu a datblygiad.
  • Adolygu’n rheolaidd pa mor dda y mae’r lleoliad yn gweithio gyda rhieni, gan nodi meysydd i’w gwella.
  • Ystyried anghenion penodol teuluoedd eich disgyblion a chynnig cefnogaeth fwy parhaus a dwys lle bo angen.

Wrth weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, mae angen ystyried rhwystrau posibl allai atal rhieni rhag ymgysylltu. Er enghraifft, a oes darpariaeth i rieni sy’n gweithio neu rai ag ymrwymiadau gofal plant eraill allu cymryd rhan mewn sesiynau byr gydag amseroedd hyblyg, neu drwy ymgysylltu o bell?

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymgysylltiad rhieni yn isel. Mae’r rhan fwyaf o’r costau’n codi o hyfforddiant a datblygiad staff, ac mae pob un ohonynt yn fwy tebygol o fod yn gostau cychwynnol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer ymgysylltiad rhieni yn isel, gall costau cymorth dwys fod yn llawer uwch (er enghraifft, os cynhwysir costau cyflog gweithiwr cymunedol neu gyswllt cartref arbenigol).

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod lleoliadau eisoes yn talu am dechnoleg ar gyfer cyfathrebu â rhieni, a chyfleusterau i gynnal unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymgysylltiad rhieni yn cael ei ystyried yn helaeth. Nodwyd 94 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap ychwanegol oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau94
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023