View yn Cymraeg

:Dulliau datblygiad corfforol

Dulliau datblygiad corfforol

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Nod dulliau datblygiad corfforol yw gwella twf, sgiliau ac iechyd corfforol plant ifanc. Gall gweithgareddau yn y maes hwn ganolbwyntio ar agwedd benodol ar ddatblygiad corfforol, e.e. sgiliau echddygol manwl sy’n gysylltiedig ag ysgrifennu, neu fod yn fwy cyffredinol, er enghraifft, annog chwarae egnïol yn yr awyr agored neu integreiddio dulliau datblygu corfforol â gweithgareddau blynyddoedd cynnar eraill.

Mae’r crynodeb tystiolaeth hwn yn archwilio effaith dulliau datblygiad corfforol ar ganlyniadau gwybyddol. Fodd bynnag, mae datblygiad corfforol yn bwysig er ei fwyn ei hun ac mae manteision ehangach gweithgarwch corfforol yn cynnwys canlyniadau iechyd a llesiant.

  • Gall dulliau sy’n cefnogi datblygiad corfforol a gweithgarwch plant ifanc gael effaith gadarnhaol werthfawr ar eu dysgu o bum mis o gynnydd ychwanegol, ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth yn gyfyngedig iawn.

  • Mae datblygiad corfforol yn rhan greiddiol o addysg blynyddoedd cynnar ac mae ganddo lawer o fanteision pwysig y tu hwnt i’r canlyniadau gwybyddol sy’n cael eu crynhoi yma.

  • Er bod y sylfaen dystiolaeth ar ganlyniadau gwybyddol yn wan, dangoswyd effeithiau cadarnhaol ar lythrennedd cynnar a mathemateg yn ogystal â meysydd eraill o’r cwricwlwm, fel daearyddiaeth a gwyddoniaeth.

  • Mae ymchwil wedi digwydd ar draws amrywiaeth o ddulliau datblygiad corfforol, gan gynnwys chwaraeon a gemau, ymarferion a gweithgareddau symud rhythmig.

Ar gyfartaledd, mae plant sy’n cymryd rhan mewn ymyriadau datblygiad corfforol yn gwneud tua phum mis ychwanegol o gynnydd o ran deilliannau gwybyddol. Er bod y darlun cyffredinol yn gadarnhaol a’r canfyddiadau’n weddol gyson ar draws astudiaethau, mae dibynadwyedd y dystiolaeth yn wan iawn. Mae gwendid y sylfaen dystiolaeth yn golygu nad yw’n bosibl rhoi esboniad clir o’r rhesymau pam mae rhai dulliau datblygiad corfforol yn effeithiol. Ychydig o ymyriadau unigol sydd wedi cael eu gwerthuso i safon uchel.

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall rhaglenni sy’n cyfuno gweithgarwch corfforol â strategaethau i hyrwyddo hunanreoleiddio wella swyddogaeth weithredol a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu ac y gall integreiddio gweithgareddau datblygiad corfforol mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm blynyddoedd cynnar fod yn fuddiol.

  • Fel arfer, gall crynodeb tystiolaeth y Pecyn Cymorth archwilio a yw rhai nodweddion ymyrryd neu gyd-destunau yn gysylltiedig ag effeithiau uwch neu is. Mae’r nifer fach o astudiaethau yn y maes pwnc hwn yn golygu nad yw’n bosibl gwneud y dadansoddiad hwn yn ddibynadwy.

  • Mae astudiaethau wedi cael eu cynnal ar draws ysgolion meithrin a lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd. Mae’n ymddangos bod deilliannau mewn lleoliadau meithrin yn dangos effeithiau uwch, er bod niferoedd fach yr astudiaethau yn golygu y dylid trin hyn yn ofalus.

  • Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau’n integreiddio datblygiad corfforol i weithgareddau cwricwlaidd ehangach, yn hytrach na darparu addysg gorfforol annibynnol.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn amrywiaeth eang o wledydd, gan gynnwys Awstralia, yr Eidal, UDA a De Affrica.

Mae’r dystiolaeth ar gyfer dulliau datblygiad corfforol yn rhy wan ac nid yw’n gallu mesur unrhyw effaith wahaniaethol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Fodd bynnag, mae’n bwysig ystyried sut y gellir sicrhau bod cyfleoedd datblygiad corfforol ar gael i bob plentyn. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i osgoi costau sy’n gosod rhwystrau ar gyfleoedd datblygiad corfforol ychwanegol i deuluoedd tlotach.

Mae dulliau datblygiad corfforol yn rhan greiddiol o ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Wrth i ddulliau gael eu gweithredu, mae’n bwysig ystyried:

  • Cysylltu datblygiad corfforol â dulliau eraill, er enghraifft y rhai sy’n targedu hunanreoleiddio.
  • Integreiddio cyfleoedd rheolaidd ar gyfer chwarae neu ddatblygiad corfforol yn ystod y dydd.
  • Sut i integreiddio datblygiad corfforol i ddulliau ehangach. Er y gellir cynnal gweithgarwch corfforol fel gweithgaredd annibynnol, roedd llawer o’r astudiaethau yn integreiddio datblygiad corfforol i ddulliau trawsgwricwlaidd ehangach.
  • Gellir cyflwyno datblygiad corfforol trwy weithgareddau amrywiol, gan gynnwys gemau, cyfleoedd ar gyfer chwarae dan do ac awyr agored, posau, celf a chrefft ac ymarfer ag offer bach.

O ystyried gwendid y sylfaen dystiolaeth, gall fod yn arbennig o bwysig ystyried sut i fonitro effeithiolrwydd dulliau datblygiad corfforol os ydych yn anelu at wella deilliannau gwybyddol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu dulliau datblygiad corfforol yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig yn deillio o hyfforddiant ar gyfer staff sy’n arwain rhaglenni, ac unrhyw adnoddau neu offer ychwanegol sydd eu hangen, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol. Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer gweithgarwch corfforol yn isel iawn, gall darparu gofod awyr agored ac offer chwarae o bosibl fod yn ddrud. Er hynny, nid yw’r rhain yn hanfodol ar gyfer gweithgarwch ac ymarferion corfforol, ac mae’n debygol y bydd costau’n cael eu lledaenu dros nifer o flynyddoedd.

Mae’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer effaith dulliau datblygiad corfforol ar ddeilliannau gwybyddol yn gyfyngedig iawn. Nodwyd 19 astudiaeth a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collwyd cloeon clap ychwanegol oherwydd:

  • Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol – fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.

Nid yw dibynadwyedd isel tystiolaeth yn golygu’r un fath â thystiolaeth o ddim effaith. Efallai bod gan lawer o ddulliau dystiolaeth isel, nid oherwydd eu bod yn aneffeithiol ond oherwydd nad yw ymchwil o ansawdd uchel wedi digwydd eto. O ystyried y dystiolaeth gyfyngedig iawn yn y maes hwn, mae’n bwysig gwerthuso effaith unrhyw ddulliau datblygiad corfforol newydd. Dylai gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar fod yn ofalus ynghylch honiadau ymyriadau newydd nad yw’n ymddangos eu bod wedi’u gwerthuso.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau19
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023