View yn Cymraeg

:Cyfranogiad yn y celfyddydau

Cyfranogiad yn y celfyddydau

Effaith gymedrol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+3
mis

Diffinnir cyfranogiad yn y celfyddydau fel cymryd rhan mewn gweithgareddau artistig a chreadigol, fel dawns, drama, cerddoriaeth, paentio neu gerflunio. Gall ddigwydd naill ai fel rhan o’r cwricwlwm neu fel gweithgaredd allgyrsiol. Gellir defnyddio dulliau seiliedig ar y celfyddydau mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm, fel defnyddio drama i ddatblygu ymgysylltiad ac iaith lafar cyn tasg ysgrifennu.

Gellir trefnu cyfranogiad fel gweithgareddau wythnosol neu fisol rheolaidd, neu raglenni mwy dwys fel ysgolion haf neu gyrsiau preswyl. Er bod gan y gweithgareddau hyn, wrth gwrs, werth addysgol pwysig ynddynt eu hunain, mae’r Pecyn Cymorth hwn yn canolbwyntio ar fanteision cyfranogiad yn y celfyddydau ar gyfer cyrhaeddiad academaidd craidd mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm, yn enwedig llythrennedd a mathemateg.

1. Gall dulliau cyfranogi yn y celfyddydau gael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau academaidd mewn meysydd eraill o’r cwricwlwm.

2. Mae’r ymchwil yma yn crynhoi effaith cyfranogiad yn y celfyddydau ar ddeilliannau academaidd. Mae’n bwysig cofio bod ymgysylltu â’r celfyddydau yn werthfawr ynddo’i hun ac y dylid ystyried gwerth cyfranogiad yn y celfyddydau y tu hwnt i ddeilliannau mathemateg neu Saesneg.

3. Os mai nod dull sy’n seiliedig ar y celfyddydau yw gwella cyrhaeddiad academaidd, mae’n bwysig nodi’r cysylltiad rhwng yr ymyriad celfyddydol yr ydych yn ei ddewis a’r deilliannau yr hoffech eu gwella.

4. Gall dulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau gynnig llwybr i ail-ennyn diddordeb disgyblion hŷn mewn dysgu, er nad yw hyn bob amser yn arwain at well cyrhaeddiad. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn defnyddio mwy o ymgysylltiad i wella addysgu a dysgu ar gyfer y disgyblion hyn.

At ei gilydd, mae’n ymddangos bod effaith gyfartalog cyfranogiad yn y celfyddydau ar feysydd dysgu academaidd eraill yn gadarnhaol ond yn gymedrol, tua chynnydd o dri mis ychwanegol. 

Mae deilliannau gwell wedi’u nodi mewn Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae manteision i’w gweld mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Mae rhai gweithgareddau celfyddydol wedi’u cysylltu â gwelliannau mewn deilliannau penodol. Er enghraifft, mae rhywfaint o dystiolaeth o effaith drama ar ysgrifennu a chysylltiad posibl rhwng cerddoriaeth ac ymwybyddiaeth ofodol.

Cafwyd adroddiadau cyson hefyd am fanteision ehangach fel agweddau mwy cadarnhaol at ddysgu a llesiant cynyddol.

  • Mae’r effaith yn debyg i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd.

  • Mae’r effeithiau’n tueddu i fod yn uwch ar gyfer ysgrifennu a mathemateg na darllen.

Mae gwerth cynhenid o ran dysgu sgiliau creadigol a pherfformio i ddisgyblion a sicrhau bod disgyblion difreintiedig yn cael mynediad i addysg gelfyddydol gyfoethog ac ysgogol. Gellir cyflwyno cyfranogiad yn y celfyddydau o fewn y cwricwlwm craidd, neu drwy deithiau allgyrsiol neu ddiwylliannol a all fod yn destun rhwystrau ariannol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig.

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu cyswllt achosol rhwng addysg gelfyddydol a’r defnydd o ddulliau sy’n seiliedig ar y celfyddydau a chyrhaeddiad addysgol cyffredinol. Os yw’r celfyddydau’n cael eu haddysgu fel modd i hybu cyflawniad academaidd i’r rhai sy’n gymwys i gael y premiwm disgybl, dylai ysgolion fonitro’n ofalus a yw’r nod hwn yn cael ei gyflawni.

Mae cyfranogiad yn y celfyddydau yn ymwneud ag ystod eang o bynciau gan gynnwys y celfyddydau cain traddodiadol, theatr, dawns, barddoniaeth, ac ysgrifennu creadigol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau addysgu sy’n cynnwys elfennau celfyddydol yn benodol, fel addysgeg sy’n seiliedig ar ddrama.

Gallai rhai elfennau o ddulliau addysg gelfyddydol gynnwys: 
  • Addysgu sgiliau a thechnegau creadigol yn benodol.
  • Cyfleoedd i ddisgyblion ymarfer, myfyrio ar eu cryfderau a nodi meysydd i’w gwella.
  • Mynediad at ddeunyddiau, offer, gweithgareddau allgyrsiol a phrofiadau diwylliannol.

Gellir trefnu addysg gelfyddydol fel gwersi rheolaidd neu weithgareddau misol, clybiau ar ôl ysgol, tiwtora grŵp bach neu un i un neu ddulliau ysgol gyfan. Gellir darparu gweithgareddau hefyd drwy raglenni mwy dwys fel ysgolion haf neu gyrsiau preswyl.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Disgwylir i gost gyfartalog addysg gelfyddydol fod yn isel iawn, gyda chostau’n amrywio o isel iawn i uchel yn dibynnu ar y math o ddarpariaeth. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar ddatblygiad proffesiynol athrawon ac adnoddau. Mae’r costau’n fwy pan fydd gweithgareddau’n digwydd y tu allan i’r diwrnod ysgol neu’n cynnwys tiwtora grŵp bach neu 1:1 gan athrawon arbenigol.

Bydd gweithredu addysg gelfyddydol yn gofyn am ychydig bach o amser ychwanegol i staff o’i gymharu â dulliau eraill gan ei fod yn rhan o’r cwricwlwm craidd. Gall gweithgareddau celfyddydol hefyd gynnwys artistiaid proffesiynol, athrawon drama neu gerddoriaeth ardystiedig.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i ddiwallu anghenion datblygiad proffesiynol staff i integreiddio gweithgareddau celfyddydol (fel drama, celfyddydau gweledol neu gerddoriaeth) yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a gwerthuso eu heffaith ar ddeilliannau disgyblion.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch Cyfranogiad yn y Celfyddydau yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 80 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar yr effaith gyffredinol.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau80
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021