View yn Cymraeg

:Arddulliau dysgu

Arddulliau dysgu

Effaith aneglur am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth annigonol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
-

Y syniad sy’n sail i arddulliau dysgu yw bod gan unigolion i gyd ymagwedd benodol at ddysgu neu arddull benodol. Mae’r ddamcaniaeth yn awgrymu y bydd dysgu, felly, yn fwy effeithiol neu’n fwy effeithlon os caiff disgyblion eu haddysgu gan ddefnyddio’r arddull neu’r dull penodol a nodwyd fel eu harddull ddysgu. Er enghraifft, gellid addysgu disgyblion y nodwyd fod ganddynt arddull ddysgu gwrando’, yn fwy drwy adrodd straeon a thrafodaeth a llai drwy ymarferion ysgrifenedig traddodiadol.

1. Mae nifer yr astudiaethau o ansawdd uchel sy’n edrych ar arddulliau dysgu yn isel iawn. O ganlyniad, nid oes unrhyw effaith yn cael ei harddangos. Dylai ysgolion sy’n gweithredu dulliau gyda thystiolaeth gyfyngedig iawn ystyried yn ofalus sut y byddent yn monitro effaith ac yn lliniaru yn erbyn y risg o effeithiau negyddol.

2. Mae’n annhebygol iawn y bydd gan ddysgwyr un arddull ddysgu. Felly gall cyfyngu disgyblion i weithgareddau sy’n cyfateb i’r dulliau y nodir eu bod yn eu ffafrio effeithio ar eu cynnydd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer dysgwyr iau mewn ysgolion cynradd y mae eu dewisiadau a’u dulliau dysgu yn dal i fod yn hyblyg iawn.

3. Mae labelu myfyrwyr fel mathau penodol o ddysgwyr yn debygol o danseilio eu cred y gallant lwyddo drwy ymdrech a rhoi esgus dros fethiant.

4. Mae’n ymddangos ei bod yn fwy addawol canolbwyntio ar agweddau eraill ar gymhelliant a hunanreoleiddio i ennyn diddordeb disgyblion mewn gweithgareddau dysgu.

5. Dylai athrawon anelu at gefnogi disgyblion i gymryd cyfrifoldeb am lwyddiant yn eu dysgu a datblygu eu strategaethau a’u dulliau gweithredu llwyddiannus eu hunain.

Nododd chwiliad systematig fod prinder o ran astudiaethau sy’n profi dulliau arddulliau dysgu yn drylwyr. Mae hynny’n golygu nad oes digon o ddibynadwyedd i gyfleu ffigur cynnydd mewn misoedd.

Ychydig iawn o dystiolaeth ehangach sydd ar gael ar gyfer unrhyw set gyson o arddulliau’ dysgu y gellir ei defnyddio’n ddibynadwy i nodi gwahaniaethau gwirioneddol yn anghenion dysgu pobl ifanc. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu nad yw’n ddefnyddiol neilltuo dysgwyr i grwpiau neu gategorïau yn seiliedig ar arddull ddysgu dybiedig. Mae’n arbennig o bwysig peidio labelu disgyblion oedran cynradd, neu iddynt gael eu harwain i gredu bod unrhyw ddiffyg llwyddiant yn deillio o’u harddulliau dysgu.

Mae dewisiadau dysgu unigol yn newid mewn gwahanol sefyllfaoedd a thros amser, ac mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos y gellir cysylltu dewis gwybyddol â’r math o dasg (er enghraifft, mae delweddu yn arbennig o werthfawr i rai meysydd mathemateg). Fodd bynnag, nid yw astudiaethau lle mae gweithgareddau addysgu wedi’u targedu at ddysgwyr penodol yn seiliedig ar arddull’ ddysgu a nodwyd wedi dangos unrhyw fanteision mawr, yn enwedig ar gyfer disgyblion isel eu cyrhaeddiad. Mae’r effeithiau a gofnodir yn gyffredinol yn isel neu’n negyddol.

Nid yw astudiaethau lle mae gweithgareddau addysgu wedi’u targedu at ddysgwyr penodol yn seiliedig ar arddull’ ddysgu a nodwyd wedi nodi effaith ar gyrhaeddiad disgyblion ac felly, mae’n annhebygol y bydd grwpio disgyblion ar sail arddulliau dysgu yn strategaeth lwyddiannus ar gyfer cau’r bwlch cyrhaeddiad anfantais.

Mae’n annhebygol y bydd dulliau addysgu addasol yn werthfawr os yw athrawon yn gosod disgwyliadau is ar gyfer disgyblion penodol. Mae’n bwysig peidio â labelu dysgwyr iau na phriodoli perfformiad gwael i’w harddull ddysgu’ gan y gallai hyn effeithio’n negyddol ar gymhelliant a hunaneffeithiolrwydd disgyblion. Mae hyn yn peri risg benodol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig sydd, ar gyfartaledd, yn fwy tebygol o fod â chyrhaeddiad blaenorol is.

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer unrhyw set gyson o arddulliau’ dysgu y gellir ei defnyddio’n ddibynadwy i nodi anghenion dysgu pobl ifanc. Yn hytrach, gallai athrawon sy’n gobeithio targedu dysgu’n effeithiol ystyried arferion addysgu a dysgu eraill, gan gynnwys:

  • Deall gwahaniaethau disgyblion, gan gynnwys eu gwahanol lefelau o wybodaeth flaenorol a rhwystrau i ddysgu.
  • Sicrhau addysgu ymatebol – gan gynnwys modelu, esboniadau, a sgaffaldiau – ac adborth o ansawdd uchel i bob disgybl.
  • Darparu cefnogaeth academaidd wedi’i thargedu lle nodir bod yna anghenion dysgu.
  • Cefnogi disgyblion i gynllunio, monitro a gwerthuso eu dysgu eu hunain.
  • Wrth grwpio disgyblion, monitro’n ofalus yr effaith ar gynnydd, cymhelliant ac ymddygiad disgyblion.

Fel dull ystafell ddosbarth, mae gweithgareddau fel arfer yn cael eu darparu gan athrawon neu gynorthwywyr addysgu.

Amcangyfrifir bod y costau’n isel iawn – fel arfer mae’n golygu paratoi ystod ac amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau addysgu a dysgu. Mae angen prynu rhai o’r profion arddulliau dysgu sydd ar gael ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol o ddiffyg dilysrwydd a dibynadwyedd y profion hyn o ystyried y diffyg tystiolaeth am fodolaeth arddulliau dysgu a nodir uchod.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae’r diffyg astudiaethau a nodwyd sy’n profi dulliau arddulliau dysgu yn drylwyr yn golygu bod dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch Arddulliau Dysgu yn cael ei ystyried yn isel iawn. Ar gyfer pynciau â thystiolaeth isel iawn, ni chaiff ffigur cynnydd mewn misoedd ei arddangos. Ni nodwyd unrhyw astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant a bennwyd ymlaen llaw.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021