View yn Cymraeg

:Mentora

Mentora

Effaith isel am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+2
mis

Mae mentora mewn addysg yn golygu paru pobl ifanc gyda chyfoed hŷn neu oedolyn sy’n wirfoddolwr, ac sy’n gweithredu fel model rôl cadarnhaol. Yn gyffredinol, nod mentora yw meithrin hyder a pherthnasoedd, datblygu gwytnwch a chymeriad, neu godi dyheadau, yn hytrach na datblygu sgiliau neu wybodaeth academaidd benodol.

Mae mentoriaid fel arfer yn meithrin perthynas â phobl ifanc drwy gyfarfod â nhw un i un am tua awr yr wythnos dros gyfnod parhaus, naill ai yn ystod yr ysgol, ar ddiwedd y diwrnod ysgol, neu ar benwythnosau. Mewn rhai dulliau, gall mentoriaid gwrdd â’u mentoreion mewn grwpiau bach.

Mae’r gweithgareddau’n amrywio rhwng gwahanol raglenni mentora. Er bod rhai rhaglenni mentora yn cynnwys cymorth academaidd gyda gwaith cartref neu dasgau ysgol eraill, nid yw dulliau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gymorth academaidd uniongyrchol (y cyfeirir atynt weithiau fel mentora academaidd”) yn cael eu cynnwys yn y llinyn hwn. Gweler hyfforddiant un i un a tiwtora cyfoedion.

Mae mentora wedi cael ei gynnig fwyfwy i bobl ifanc y bernir eu bod yn anodd eu cyrraedd neu mewn perygl o fethu’n addysgol neu ddioddef allgáu addysgol.

1. Mae effaith mentora yn amrywio ond, ar gyfartaledd, mae’n debygol o gael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad.

2. Nid yw effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad yn tueddu i gael eu cynnal unwaith y bydd y mentora yn dod i ben, felly rhaid cymryd gofal i sicrhau nad yw buddion yn cael eu colli. Mae’n bwysig ystyried sut y gallwch chi gefnogi disgyblion sydd wedi elwa o fentora i gadw newidiadau cadarnhaol yn eu hyder a’u hymddygiad.

3. Gall dulliau yn y gymuned ac yn yr ysgol fod yn llwyddiannus.

4. Gall mentoriaid yn rhoi’r gorau iddi gael effeithiau niweidiol ar fentoreion. Mae’n bwysig ystyried sut i gefnogi mentoriaid.

Ar gyfartaledd, ymddengys fod mentora yn cael effaith gadarnhaol fach ar ddeilliannau academaidd. Mae effeithiau rhaglenni unigol yn amrywio. Mae rhai astudiaethau wedi canfod effeithiau mwy cadarnhaol ar ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, ac ar gyfer ddeilliannau anacademaidd fel agweddau at ysgol, presenoldeb ac ymddygiad.

Mae yna risgiau sy’n gysylltiedig â pharau mentora aflwyddiannus, a allai gael effaith andwyol ar y mentorai, ac mae rhai astudiaethau’n adrodd am effeithiau negyddol cyffredinol.

Mae rhaglenni sydd â strwythur a disgwyliadau clir, yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i fentoriaid, ac yn recriwtio mentoriaid sy’n wirfoddolwyr, yn gysylltiedig â deilliannau mwy llwyddiannus.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod dulliau ag un ffocws ar wella cyrhaeddiad academaidd neu berfformiad yn fwy effeithiol. Gall rhaglenni ag amcanion lluosog fod yr un mor effeithiol neu’n fwy effeithiol.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd gydag effeithiau tebyg.

  • Mae’r effaith gyffredinol ar fathemateg a phynciau ysgol cyffredinol yn tueddu i fod yn uwch nag ar ddeilliannau darllen neu wyddoniaeth.

  • Mae’n ymddangos bod cyfarfodydd rheolaidd o unwaith yr wythnos neu fwy yn fwyaf effeithiol.

Er nad yw mentora yn gyffredinol mor effeithiol o ran codi deilliannau cyrhaeddiad â grwpiau bach neu diwtora un i un, mae’n bosibl targedu’r dull at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rhai ag anghenion penodol. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu bod rhai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn dangos ymgysylltiad isel ag ysgol, neu fod ganddynt ddisgwyliadau isel o addysg. Gall ymyriadau mentora fod yn fwy buddiol i’r disgyblion hyn, gan y gall datblygu perthnasoedd ymddiriedus gydag oedolyn neu gyfoed hŷn ddarparu ffynhonnell gymorth wahanol.

Gall mentoriaid yn rhoi’r gorau i raglenni gael effeithiau niweidiol ar ddisgyblion. I ddisgyblion a allai fod eisoes wedi dadrithio gyda diffyg cefnogaeth canfyddedig gan athrawon ac ysgolion, mae’n bosibl i’r risg hon ddwysáu. Felly, dylid rhoi gofal ychwanegol i recriwtio mentoriaid dibynadwy pan fydd ymyriadau yn cael eu defnyddio i gefnogi disgyblion difreintiedig.

Mae mentora yn gofyn am ryngweithio agos rhwng oedolyn neu gyfoed hŷn ac un disgybl neu grŵp bach o ddisgyblion. Gall sgyrsiau rhwng mentoriaid a mentoreion fynd i’r afael â’r canlynol, ond ni fyddent yn gyfyngedig i hynny: agweddau tuag at yr ysgol; sgiliau neu wybodaeth academaidd benodol; hunan-ganfyddiad a chred, yn enwedig mewn perthynas â gwaith ysgol; dyheadau ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol ac opsiynau gyrfa. Mae’n bwysig ystyried pa gymorth y gallai fod ar fentoriaid ei angen er mwyn darparu mentora yn effeithiol.

Fel arfer, mae rhyngweithiadau mentora yn digwydd ar sail un i un rhwng mentor a mentorai – er bod mentoriaid yn gallu mentora nifer o ddisgyblion. Mae rhai dulliau mentora hefyd yn cynnwys rhyngweithiadau mewn grwpiau bach.

Fel arfer, cyflwynir ymyriadau mentora dros gyfnod estynedig o amser (o leiaf hyd blwyddyn ysgol yn aml) er mwyn caniatáu i fentoriaid a mentoreion ddatblygu perthnasoedd mwy parhaol ac ymddiriedus. Mae cyfarfodydd rheolaidd o unwaith yr wythnos neu fwy yn tueddu i fod yn fwy buddiol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae cost gyfartalog ymyriad mentora yn gymedrol. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant mentoriaid, costau cyflog (ar gyfer mentoriaid nad ydynt yn wirfoddolwyr) ac adnoddau. Mae rhai rhaglenni hefyd yn cynnwys hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i fentoriaid a allai gynyddu costau.

Bydd gweithredu ymyriadau mentora hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol a pharhaus o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i recriwtio mentoriaid effeithiol a dibynadwy sy’n gweddu’n dda i fentoreion. Dylid ystyried hefyd sut y dylid cynnal unrhyw welliannau a welir mewn hyder, gwytnwch neu ddyhead disgyblion ar ôl y cyfnod mentora bwriadedig, gan fod astudiaethau’n dangos y gall y newidiadau hyn fod yn anodd i’w cynnal.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch mentora yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 44 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau44
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021