View yn Cymraeg

:Tiwtora un i un

Tiwtora un i un

Effaith sylweddol am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Mae tiwtora un i un yn golygu bod athro, cynorthwyydd addysgu neu oedolyn arall yn rhoi cymorth unigol dwys i ddisgybl. Gall ddigwydd y tu allan i wersi arferol fel addysgu ychwanegol – er enghraifft fel rhan ymestyn amser ysgol neu ysgol haf- neu yn lle gwersi eraill.

1. Ar gyfartaledd, mae tiwtora un i un yn effeithiol iawn o ran gwella deilliannau disgyblion. Gallai tiwtora un i un fod yn strategaeth effeithiol ar gyfer darparu cefnogaeth wedi’i thargedu i ddisgyblion y nodwyd eu bod â chyrhaeddiad blaenorol isel neu sy’n cael trafferth mewn meysydd penodol.

2. Mae hyfforddiant yn fwy tebygol o gael effaith os yw’n ychwanegol ac yn benodol gysylltiedig â gwersi arferol.

3. Gall tiwtora un i un fod yn ddrud i’w ddarparu, yn enwedig pan gaiff ei gyflwyno gan athrawon. Mae dulliau sydd naill ai’n darparu cyfarwyddyd drwy gynorthwywyr addysgu neu mewn grwpiau bach yn hytrach nag un i un yn cael effeithiau cadarnhaol llai, ar gyfartaledd, ond gallai hynny fod yn ateb cost-effeithiol i ddarparu cymorth wedi’i dargedu.

4. Ar gyfer tiwtora un i un dan arweiniad cynorthwywyr addysgu, mae’n debygol y bydd ymyriadau yn arbennig o fuddiol pan fydd y cynorthwywyr addysgu yn brofiadol, wedi’u hyfforddi’n dda ac yn cael eu cefnogi – er enghraifft, yn darparu ymyriad strwythuredig.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall tiwtora un i un fod yn effeithiol, gan ddarparu tua phum mis ychwanegol o gynnydd ar gyfartaledd.

Mae’n ymddangos bod sesiynau byr, rheolaidd (tua 30 munud, tair i bum gwaith yr wythnos) dros gyfnod penodol o amser (hyd at ddeg wythnos) yn arwain at yr effaith orau bosibl. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu y dylai dysgu fod yn ychwanegol at, ond wedi’i gysylltu’n benodol ag addysgu arferol, ac y dylai athrawon fonitro cynnydd i sicrhau bod y tiwtora yn fuddiol. Mae astudiaethau sy’n cymharu tiwtora un i un â thiwtora grŵp bach yn dangos canlyniadau cymysg. Mewn rhai achosion mae tiwtora un i un wedi arwain at fwy o welliant, ond mewn eraill, mae dysgu mewn grwpiau o ddau neu dri wedi bod yr un mor effeithiol neu hyd yn oed yn fwy effeithiol. Gall yr amrywioldeb mewn canfyddiadau awgrymu mai math neu ansawdd penodol yr addysgu a alluogir gan grwpiau bach iawn sy’n bwysig, yn hytrach nag union faint y grŵp.

Gall rhaglenni sy’n cynnwys cynorthwywyr addysgu neu wirfoddolwyr gael effaith werthfawr, ond gallant fod yn llai effeithiol na’r rhai sy’n defnyddio athrawon profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n benodol. Pan ddarperir tiwtora gan wirfoddolwyr neu gynorthwywyr addysgu, ceir tystiolaeth o argymhelliad i sicrhau hyfforddiant a defnyddio rhaglen strwythuredig.

  • Mae astudiaethau a gynhaliwyd mewn ysgolion cynradd yn tueddu i ddangos mwy o effaith (+6 mis) nag mewn ysgolion uwchradd (+4 mis).

  • Mae’n ymddangos bod effeithiau mewn mathemateg yn sylweddol is (+2 fis) nag mewn llythrennedd (+6 mis).

  • Mae’n ymddangos bod sesiynau byr, rheolaidd (tua 30 munud, tair i bum gwaith yr wythnos) dros gyfnod penodol o amser (hyd at ddeg wythnos) yn arwain at yr effaith orau bosibl.

  • Mae astudiaethau sy’n cynnwys technoleg ddigidol yn dangos effeithiau cymharol debyg.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn saith o wledydd ledled y byd gydag effeithiau cymharol debyg.

Mae astudiaethau yn Lloegr wedi dangos bod disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fel arfer yn cael manteision ychwanegol o diwtora un i un. Mae disgyblion isel eu cyrhaeddiad yn arbennig o debygol o elwa.

Gall dulliau tiwtora un i un alluogi disgyblion i wneud cynnydd effeithiol trwy ddarparu cymorth academaidd dwys wedi’i dargedu i’r rhaiy nodwyd bod ganddynt gyrhaeddiad blaenorol isel neu sydd mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi. Mae’r dull gweithredu yn caniatáu i’r athro neu’r tiwtor ganolbwyntio’n llwyr ar anghenion y dysgwr a darparu addysgu sy’n cyd-fynd yn agos â dealltwriaeth pob disgybl. Mae tiwtora un i un yn cynnig lefelau uwch o ryngweithio ac adborth o’i gymharu ag addysgu dosbarth cyfan a all gefnogi disgyblion i dreulio mwy o amser ar ddeunydd newydd neu anghyfarwydd, goresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflymu eu cynnydd drwy’r cwricwlwm.

Mae un i un yn cael effaith drwy ddarparu cymorth ychwanegol sydd wedi’i dargedu at anghenion disgybl. Mae lleihau’r gymhareb disgyblion i athrawon yn caniatáu rhyngweithio agosach rhwng addysgwyr a disgyblion. Wrth fabwysiadu tiwtora un i un, dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau bod yr elfennau gweithredol hyn yn cael effaith gadarnhaol trwy:

  • Nodi’n gywir y disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.
  • Deall bylchau dysgu’r disgyblion sy’n derbyn tiwtora a defnyddio’r wybodaeth hon i ddewis cynnwys y cwricwlwm yn briodol.
  • Sicrhau bod athrawon wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rhyngweithio o ansawdd uchel â disgyblion, fel darparu adborth wedi’i gynllunio’n dda.
  • Sicrhau bod cysylltiad da rhwng y tiwtora â chynnwys addysgu’r ystafell ddosbarth a chaniatáu amser i’r athro a’r tiwtor drafod y tiwtora.
  • Monitro effaith dysgu ar gynnydd disgyblion ac addasu darpariaeth yn unol â hynny.

Gall athrawon, cynorthwywyr addysgu hyfforddedig, mentoriaid academaidd neu diwtoriaid gyflwyno tiwtora un i un. Fel arfer, darperir ymyriadau dros gyfnod estynedig, yn aml dros sawl wythnos neu dymor.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae cost gyfartalog tiwtora un i un yn gymedrol. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar gostau cyflog ychwanegol ac adnoddau dysgu, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cylchol. Drwy Flwyddyn 1 y Rhaglen Diwtora Genedlaethol (2020−21), gallai ysgolion brynu tiwtora 1:1 wyneb yn wyneb neu ar-lein wedi’i sybsideiddio mewn blociau o 15 awr, am gost gyfartalog o £167 – £180 y disgybl. Mae costau’n is ar gyfer tiwtora ar-lein o’u cymharu â thiwtora wyneb yn wyneb ac maent yn uwch pan gânt eu darparu gan athrawon cymwysedig neu arbenigol.

Wrth gyflwyno hyfforddiant grŵp bach dan arweiniad athrawon neu gynorthwywyr addysgu, mae’n debygol y bydd angen llawer iawn o amser staff o’i gymharu â dulliau dosbarth cyfan. O ystyried y costau is, efallai y bydd tiwtora grŵp bach yn ddull synhwyrol o dreialu cyn ystyried tiwtora un i un. Gweler Tiwtora grŵp bach.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried defnyddio darparwyr sydd â hanes o effeithiolrwydd. Er mwyn cynyddu effaith tiwtora un i un dan arweiniad ysgolion, gallai arweinwyr ysgolion ystyried datblygiad proffesiynol i athrawon, cynorthwywyr addysgu a thiwtoriaid i gefnogi addysgu o ansawdd uchel mewn meysydd fel asesu ffurfiannol, gwybodaeth am y cwricwlwm, cyfarwyddyd ac adborth, a fydd yn meithrin gallu yn yr ysgol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch tiwtora un i un yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 123 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc ddau glo clap ychwanegol oherwydd:

  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol – fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
  • Mae llawer iawn o amrywiad anesboniadwy rhwng y canlyniadau a gynhwysir yn y pwnc. Mae pob adolygiad yn cynnwys rhywfaint o amrywiad o ran y canlyniadau, a dyna pam ei bod yn bwysig edrych y tu ôl i’r cyfartaledd. Mae amrywiad anesboniadwy (neu heterogenedd) yn gostwng ein sicrwydd yn y canlyniadau mewn ffyrdd nad ydym wedi gallu eu profi trwy edrych ar sut mae cyd-destun, methodoleg neu ddull yn dylanwadu ar effaith.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau123
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021