View yn Cymraeg

:Dysgu antur awyr agored

Dysgu antur awyr agored

Effaith aneglur am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth annigonol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
-

Mae dysgu antur awyr agored fel arfer yn cynnwys profiadau awyr agored, fel dringo neu fynydda; cyrsiau goroesi, cyrsiau rhaffau neu rwystrau; neu chwaraeon awyr agored, fel cyfeiriannu, hwylio a chanŵio. Gellir trefnu’r rhain fel cyrsiau preswyl dwys neu gyrsiau byrrach a gynhelir mewn ysgolion neu ganolfannau awyr agored lleol.

Mae addysg antur fel arfer yn cynnwys profiadau dysgu cydweithredol gyda lefel uchel o her gorfforol (ac emosiynol yn aml). Efallai y bydd datrys problemau ymarferol, myfyrio a thrafodaeth benodol ar brosesau meddwl ac emosiwn (gweler hefyd Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio) yn elfennau hefyd.

Fel arfer, nid yw ymyriadau dysgu antur yn cynnwys elfen academaidd ffurfiol, felly nid yw’r crynodeb hwn yn cynnwys ysgolion coedwig na theithiau maes.

1. Mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar antur awyr agored a deilliannau academaidd yn wan iawn. Er bod yr astudiaethau sy’n bodoli yn dangos effeithiau cadarnhaol, mae’r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig yn golygu nad yw cynnydd mewn misoedd yn cael ei gyfleu.

2. Mae’r dystiolaeth yn y Pecyn Cymorth yn canolbwyntio’n bennaf ar deilliannau academaidd. Mae sylfaen dystiolaeth ehangach sy’n dangos y gallai dysgu antur awyr agored gael effeithiau cadarnhaol ar ganlyniadau eraill fel hunan-effeithiolrwydd, cymhelliant a gwaith tîm. Gall dysgu antur awyr agored chwarae rhan bwysig o brofiad ehangach yr ysgol, waeth beth yw’r effaith ar deilliannau academaidd.

Mae’r nifer cyfyngedig o astudiaethau yn golygu nad oes digon o ddibynadwyedd i gyfleu ffigur cynnydd mewn misoedd. Er bod yr astudiaethau a gynhwysir yn cael effeithiau cadarnhaol, nid oes yr un ohonynt wedi cael eu gwerthuso’n annibynnol.

Mae’n bwysig cofio nad yw hyn yn dystiolaeth nad yw dysgu antur awyr agored yn cael dim effaith” ond bod diffyg tystiolaeth sicr o beth allai’r effaith fod.

Mae astudiaethau dysgu antur awyr agored yn adrodd manteision ehangach o ran hunanhyder a hunan-effeithiolrwydd. Mae’r chwiliadau yn y Pecyn Cymorth yn chwilio am astudiaethau sy’n cynnwys effaith academaidd, felly efallai y bydd mwy o astudiaethau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau anacademaidd.

Gallai Dysgu Antur Awyr Agored ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion difreintiedig gymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent fel arall efallai’n gallu cael mynediad atynt. Trwy gymryd rhan yn y gweithgareddau corfforol ac emosiynol heriol hyn, gall ymyriadau dysgu antur awyr agored gefnogi disgyblion i ddatblygu sgiliau anwybyddol fel gwydnwch, hunanhyder a chymhelliant. Gall cymhwyso’r sgiliau anwybyddol hyn yn yr ystafell ddosbarth yn ei dro gael effaith gadarnhaol ar deilliannau academaidd. Fodd bynnag, mae’r sylfaen dystiolaeth sy’n cysylltu sgiliau anwybyddol a chyrhaeddiad disgyblion yn wan ac felly dylai ysgolion werthuso’n ofalus effaith ymyriadau dysgu awyr agored ar gyflawniad disgyblion, os mai dyma’r deilliant a fwriedir.

Mae dulliau dysgu antur awyr agored yn amrywio’n fawr. Gallai datblygu sgiliau anwybyddol fel gwydnwch, hunanhyder a chymhelliant fod yn fecanwaith posibl ar gyfer effeithio ar ddeilliannau disgyblion. Wrth weithredu gweithgareddau dysgu antur awyr agored, gallai ysgolion ystyried cynnwys:

  • Gweithgareddau sy’n herio disgyblion yn gorfforol (ac yn emosiynol).
  • Cyfleoedd ar gyfer dysgu cydweithredol, datrys problemau a myfyrio’n benodol ar brosesau meddwl ac emosiynau.
  • Cefnogaeth i ddisgyblion oresgyn heriau a phrofi llwyddiant.
  • Sut i adeiladu ar y berthynas rhwng oedolion a disgyblion unwaith y bydd pawb yn ôl yn yr ysgol.

O ystyried y sylfaen dystiolaeth gyfyngedig, mae’n arbennig o bwysig monitro effeithiau lle defnyddir dysgu antur awyr agored fel dull o wella cyrhaeddiad.

Mae ymyriadau dysgu antur awyr agored yn amrywio o ran hyd. Maent yn cynnwys cyrsiau byrrach sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol, neu mewn canolfannau awyr agored lleol; sesiynau rheolaidd dros gyfnod hir; neu gyrsiau preswyl mwy dwys sydd fel arfer yn cael eu cyflwyno dros wythnos neu bythefnos.

Mae’r costau’n amrywio gyda phrofiad hwylio antur 10 diwrnod yn costio tua £1000 a chwrs 8 diwrnod Outward Bound tua £450. Mae cwrs rhaffau antur yn costio tua £30 am ddiwrnod. Amcangyfrifir bod y costau’n £500 y flwyddyn fesul disgybl ac felly maent yn gymedrol.

Bydd gweithredu dysgu antur awyr agored hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill. Dylai profiadau antur awyr agored gael eu darparu gan staff cymwys gyda mesurau diogelu priodol ar waith i reoli unrhyw risgiau corfforol i ddisgyblion.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol dysgu antur awyr agored ar sgiliau anwybyddol disgyblion yn yr ystafell ddosbarth. Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch Dysgu Antur Awyr Agored yn cael ei ystyried yn isel iawn. Ar gyfer pynciau â thystiolaeth isel iawn, ni chaiff ffigur cynnydd mewn misoedd ei arddangos. Dim ond 9 astudiaeth a nodwyd a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant a bennwyd ymlaen llaw. Ni chafodd yr un o’r astudiaethau hyn eu gwerthuso’n annibynnol.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau9
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021