Mae ymgysylltiad rhieni yn cyfeirio at athrawon ac ysgolion yn cynnwys rhieni yn y gwaith o gefnogi dysgu academaidd eu plant. Mae’n cynnwys:
- dulliau a rhaglenni sy’n ceisio datblygu sgiliau rhieni fel llythrennedd neu sgiliau TG;
- dulliau cyffredinol sy’n annog rhieni i gefnogi eu plant gyda, er enghraifft, darllen neu waith cartref;
- cynnwys rhieni yng ngweithgareddau dysgu eu plant; a
- rhaglenni dwysach ar gyfer teuluoedd mewn argyfwng.
1. Mae ymgysylltiad rhieni yn cael effaith gadarnhaol sef cynnydd ychwanegol o 4 mis ar gyfartaledd. Mae’n hanfodol ystyried sut i ymgysylltu â phob rhiant er mwyn osgoi lledu bylchau cyrhaeddiad.
2. Ystyriwch sut i deilwra cyfathrebiadau ysgolion i annog deialog gadarnhaol am ddysgu. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall negeseuon personol sy’n gysylltiedig â dysgu hyrwyddo rhyngweithiadau cadarnhaol.
3. Mae strategaethau ymgysylltiad rhieni fel arfer yn fwy effeithiol gyda rhieni plant ifanc iawn. Mae’n bwysig ystyried sut y byddwch yn cynnal ymgysylltiad rhieni wrth i blant fynd yn hŷn. Er enghraifft, gallai darparu cyfathrebu hyblyg (e.e. sesiynau byr ar adegau hyblyg) greu cyfleoedd i rieni disgyblion hŷn ymgysylltu â’r ysgol.
4. Ystyriwch pa gymorth y gallwch ei roi i rieni i sicrhau bod dysgu gartref o ansawdd uchel. Er enghraifft, gall darparu strategaethau ymarferol gydag awgrymiadau, cefnogaeth ac adnoddau i gynorthwyo dysgu gartref fod yn fwy buddiol i ddeilliannau disgyblion na rhoi llyfr i ddisgyblion yn unig neu ofyn i rieni ddarparu cymorth generig i’w plant.
Tua phedwar mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog dulliau sy’n hybu ymgysylltiad rhieni. Mae yna hefyd effeithiau uwch i ddisgyblion sydd â chyrhaeddiad blaenorol isel.
Mae’r dystiolaeth ynghylch sut i wella cyrhaeddiad trwy gynyddu ymgysylltiad rhieni yn gymysg ac yn llawer llai pendant. Mae enghreifftiau lle nad yw cyfuno strategaethau ymgysylltiad rhieni ag ymyriadau eraill, fel darpariaeth blynyddoedd cynnar estynedig, wedi bod yn gysylltiedig ag unrhyw fudd addysgol ychwanegol. Mae hyn yn awgrymu bod datblygu ymgysylltiad rhieni effeithiol i wella cyrhaeddiad eu plant yn heriol a bod angen monitro a gwerthuso gofalus.
Mae rhywfaint o dystiolaeth y bydd cefnogi rhieni gyda’u plentyn cyntaf yn cael manteision i frodyr a chwiorydd.
Mae’n ymddangos bod dyheadau rhieni hefyd yn bwysig ar gyfer deilliannau disgyblion, er nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos y bydd ymyrryd i newid dyheadau rhieni yn codi dyheadau a chyrhaeddiad eu plant dros y tymor hwy.
Mae’r EEF wedi profi nifer o ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i wella canlyniadau disgyblion trwy gael rhieni i ymgysylltu â gwahanol fathau o ddatblygu sgiliau. Y neges gyson o’r rhain fu ei bod yn anodd ennyn diddordeb rhieni mewn rhaglenni. Ar y llaw arall, roedd treial a oedd yn anelu at ysgogi mwy o ymgysylltiad rhieni trwy negeseuon testun yn cael effaith gadarnhaol fach, ac am gost isel iawn.
Mae’r effeithiau’n sylweddol uwch mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar (+5 mis) ac ysgolion cynradd (+4 mis) nag ysgolion uwchradd (+2 fis).
Mae effeithiau yn tueddu i fod yn uwch mewn llythrennedd (+5 mis) na mathemateg (+3 mis).
Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn edrych ar ymyriadau darllen yn y cartref. Roedd nifer llai o astudiaethau yn edrych ar ymyriadau a oedd â’r nod o wella sgiliau magu plant.
Fel arfer, mae dulliau lle mae rhiant yn gweithio’n uniongyrchol gyda’u plentyn un i un yn dangos mwy o effaith (+5 mis). Mae’n ymddangos bod disgyblion is eu cyrheddiad yn elwa yn benodol.
Mae dulliau yymgysylltiad rhieni wedi cael eu gwerthuso mewn 10 gwlad ledled y byd gyda chanfyddiadau cymharol debyg.
Mae disgyblion difreintiedig yn llai tebygol o elwa o gael lle i gynnal dysgu gartref. Mae tystiolaeth hefyd yn awgrymu bod disgyblion difreintiedig yn gwneud llai o gynnydd academaidd. Weithiau mae lefelau cyrhaeddiad hyd yn oed yn cymryd cam yn ôl yn ystod gwyliau’r haf, oherwydd lefel y gweithgareddau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y maent yn cymryd rhan neu ddim yn cymryd rhan ynddynt. Drwy ddylunio a darparu dulliau effeithiol o gefnogi ymgysylltiad rhieni, efallai y bydd ysgolion ac athrawon yn gallu lliniaru rhai o’r elfennau hyn sy’n achosi anfantais addysgol, gan gefnogi rhieni i gynorthwyo dysgu eu plant neu eu hunanreoleiddio, yn ogystal â sgiliau penodol, fel darllen.
Fodd bynnag, mae gan strategaethau ymgysylltiad rhieni y risg o gynyddu bylchau mewn cyrhaeddiad, os yw’r rhieni sy’n manteisio ar gyfleoedd ymgysylltiad rhieni yn dod o gefndiroedd cefnog yn bennaf. Mae’n hanfodol ystyried sut y bydd strategaethau ymgysylltiad rhieni yn ymgysylltu â’r holl rieni.
Er y gallai annog rhieni i gymryd rhan uniongyrchol mewn gwaith cartref ymddangos yn ddeniadol, dylai ysgolion ystyried a oes gan rieni y wybodaeth a’r sgiliau i ddarparu’r cymorth cywir, yn enwedig ar lefel uwchradd. Yn gyffredinol, nid yw ymyriadau a gynlluniwyd i annog rhieni i ymgysylltu â gwaith cartref wedi cael eu cysylltu â chynnydd mewn cyrhaeddiad. Gall myfyrwyr sy’n cael trafferthion academaidd fod yn fwy tebygol o ofyn am gymorth rhieni gyda gwaith cartref, ond efallai na fydd rhieni’n gyfarwydd â’r dulliau addysgu mwyaf effeithiol. O ganlyniad, gall fod yn fwy effeithiol annog rhieni i ailgyfeirio disgybl sy’n ei chael hi’n anodd i’w athrawon yn hytrach na cheisio ei gyfarwyddo.
Y mecanwaith allweddol ar gyfer strategaethau ymgysylltiad rhieni yw gwella ansawdd a maint y dysgu sy’n digwydd yn yr amgylchedd dysgu gartref. Mae hyn yn anodd iawn i’w weithredu yn ymarferol. Mae rhai elfennau allweddol y gallai ysgolion ddewis eu gweithredu yn cynnwys:
- teilwra cyfathrebiadau ysgolion i annog deialog gadarnhaol am ddysgu
- adolygu’n rheolaidd pa mor dda y mae’r ysgol yn gweithio gyda rhieni, gan nodi meysydd i’w gwella
- cynnig cymorth mwy parhaus a dwys lle bo angen
Wrth weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, mae angen ystyried rhwystrau posibl a allai atal rhieni rhag ymgysylltu. Er enghraifft, a oes darpariaeth i rieni sy’n gweithio gymryd rhan mewn sesiynau byr gydag amseroedd hyblyg – neu hyd yn oed drwy ymgysylltu o bell lle mae hynny ar gael.
Fel arfer, cyflwynir dulliau ymgysylltiad rhieni dros flwyddyn academaidd, gan fod meithrin perthnasoedd effeithiol rhwng yr ysgol a’r rhieni yn gofyn am ymdrech barhaus dros gyfnod estynedig o amser.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymgysylltiad rhieni yn isel iawn. Mae’r rhan fwyaf o’r costau’n codi o hyfforddiant a datblygiad staff, ac mae pob un ohonynt yn fwy tebygol o fod yn gostau cychwynnol.
Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer ymgysylltiad rhieni yn isel iawn, mae’r opsiwn i gynnwys hyfforddiant staff parhaus ychwanegol, deunyddiau ac adnoddau, ac amser staff ychwanegol yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol.
Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am dechnoleg ar gyfer cyfathrebu â rhieni, a chyfleusterau i gynnal unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau ymgysylltiad rhieni, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymgysylltiad rhieni yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 97 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports
Working with Parents to Support Children’s Learning
Guidance Reports