View yn Cymraeg

:Ffoneg

Ffoneg

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Mae ffoneg yn ddull o addysgu rhai agweddau ar lythrennedd, drwy ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o’r berthynas rhwng symbolau ysgrifenedig a synau. Mae hyn yn cynnwys sgiliau clywed, adnabod a defnyddio patrymau seiniau neu ffonemau i ddarllen iaith ysgrifenedig. Y nod yw dysgu’n systematig i ddisgyblion y berthynas rhwng y synau hyn a’r patrymau sillafu ysgrifenedig, neu’r graffemau, sy’n eu cynrychioli. Mae ffoneg yn pwysleisio sgiliau dadgodio geiriau newydd trwy eu seinio a chyfuno neu asio’r’ patrymau sillafu a glywir.

1. Mae ffoneg yn cael effaith gadarnhaol ar y cyfan (+5 mis) gyda thystiolaeth eang iawn ac mae’n elfen bwysig yn natblygiad sgiliau darllen cynnar, yn enwedig i blant o gefndiroedd difreintiedig.

2. Dylai addysgu ffoneg fod yn benodol ac yn systematig i gefnogi plant i wneud cysylltiadau rhwng y patrymau sain y maent yn eu clywed mewn geiriau a’r ffordd y mae’r geiriau hyn yn cael eu hysgrifennu.

3. Dylid sicrhau bod y gwaith o addysgu ffoneg yn cydweddu â lefel sgiliau cyfredol plant o ran eu hymwybyddiaeth ffonemig a’u gwybodaeth am synau a phatrymau llythrennau (graffemau).

4. Mae ffoneg yn gwella cywirdeb darllen y plentyn ond nid o reidrwydd ei ddealltwriaeth. Mae’n bwysig bod plant yn llwyddo i wneud cynnydd ym mhob agwedd ar ddarllen gan gynnwys deall, datblygu geirfa a sillafu, a dylid dysgu hynny’n benodol hefyd.

Tua phum mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog mabwysiadu dulliau ffoneg.

Canfuwyd yn gyson bod dulliau ffoneg yn effeithiol wrth gefnogi disgyblion iau i feistroli hanfodion darllen, gydag effaith gyfartalog o gynnydd o bum mis ychwanegol. Mae ymchwil yn awgrymu bod ffoneg yn arbennig o fuddiol i ddysgwyr iau (plant 4 – 7 oed) wrth iddynt ddechrau darllen. Mae addysgu ffoneg ar gyfartaledd yn fwy effeithiol na dulliau eraill o ddarllen cynnar (fel dulliau iaith gyfan neu ddulliau gwyddoraidd), er y dylid pwysleisio bod technegau ffoneg effeithiol fel arfer yn cael eu hymgorffori mewn amgylchedd llythrennedd cyfoethog i ddarllenwyr cynnar a dim ond un rhan o strategaeth llythrennedd lwyddiannus ydynt.

Er bod llai o astudiaethau wedi’u cynnal i archwilio ffoneg gyda darllenwyr hŷn, mae tystiolaeth y gall fod yn ddull cadarnhaol. Gydag unrhyw ymyriad darllen, mae angen diagnosis gofalus ar yr anawsterau y mae’r darllenydd yn eu profi, waeth beth fo’i oedran. Os yw darllenydd hŷn yn cael trafferth dadgodio, bydd dulliau ffoneg yn dal yn briodol. Pan fo darllenwyr yn cael trafferth gyda geirfa neu ddealltwriaeth, gall ymyriadau eraill fod yn fwy priodol.

Mae rhywfaint o amrywiaeth mewn effaith rhwng gwahanol ddulliau ffonolegol. Mae dulliau ffoneg synthetig yn cael effeithiau mwy sylweddol, ar gyfartaledd, na dulliau dadansoddol. Mae llai o astudiaethau wedi’u cynnal i ddulliau ffoneg dadansoddol hefyd (dim ond 9 astudiaeth). Mae’r nifer fach o ddulliau ffoneg cydweddiadol a nodwyd yn yr adolygiad hwn (6 astudiaeth) yn cael effaith negyddol ar gyfartaledd.

  • Cynhaliwyd y rhan fwyaf o astudiaethau mewn ysgolion cynradd, er bod nifer o astudiaethau llwyddiannus gyda disgyblion oedran uwchradd sydd ag effaith gyffredinol debyg (+5 mis).

  • Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau ffoneg yn edrych ar gymorth dwys mewn grwpiau bach ac un i un gyda’r nod o gefnogi disgyblion i ddal i fyny â’u cyfoedion. Mae effeithiau un i un yn tueddu i fod ychydig yn uwch (+5 mis) o’i gymharu ag ymyriadau grŵp bach (+4 mis), ond mae angen gwrthbwyso hyn yn erbyn nifer y disgyblion sy’n gallu derbyn cefnogaeth.

  • Mae dulliau sy’n defnyddio technoleg ddigidol yn tueddu i fod yn llai llwyddiannus na’r rhai a arweinir gan athro neu gynorthwyydd addysgu. Mae astudiaethau o gymorth dwys sy’n cynnwys cynorthwywyr addysgu yn dangos ychydig llai o effaith yn gyffredinol (+4 mis) o’i gymharu â’r rhai sy’n ymwneud ag athrawon. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd hyfforddiant a chymorth mewn ffoneg ar gyfer ymyriadau a arweinir gan gynorthwywyr addysgu.

  • Mae dulliau ffoneg synthetig yn cael effeithiau mwy sylweddol, ar gyfartaledd, na dulliau ffoneg dadansoddol.

  • Cynhaliwyd astudiaethau yn rhyngwladol (7 gwlad), yn bennaf mewn gwledydd Saesneg eu hiaith. Mae’r rhai a gynhaliwyd y tu allan i UDA fel rheol wedi dangos mwy o effaith.

Mae astudiaethau yn Lloegr wedi dangos bod disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fel arfer yn cael budd tebyg neu ychydig yn fwy o ymyriadau a dulliau ffoneg. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd natur benodol y cyfarwyddyd a’r cymorth dwys a ddarparwyd.

Mae’n bosibl na fydd rhai disgyblion difreintiedig yn datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol ar yr un gyfradd â disgyblion eraill, ar ôl dod i gysylltiad â llai o eiriau llafar a llyfrau yn cael eu darllen yn y cartref. Felly, gall ymyriadau ffoneg wedi’u targedu wella sgiliau dadgodio yn gyflymach i ddisgyblion sydd wedi profi’r rhwystrau hyn i ddysgu.

Nod dulliau ffoneg yw datblygu sgiliau adnabod a sillafu geiriau disgyblion yn gyflym trwy ddatblygu gallu disgyblion i glywed, adnabod a thrin ffonemau (yr uned leiaf o iaith lafar), a dysgu’r berthynas rhwng ffonemau a’r graffemau (llythrennau ysgrifenedig neu gyfuniadau o lythrennau) sy’n eu cynrychioli. Gallai gweithredu ffoneg yn llwyddiannus gynnwys:

  • Defnyddio dull systematig sy’n dysgu’n benodol set gynhwysfawr o berthnasoedd llythrennau-sain i ddisgyblion drwy ddilyniant trefnus
  • Hyfforddi staff i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ieithyddol angenrheidiol
  • Monitro’r cynnydd yn ofalus i sicrhau bod rhaglenni ffoneg yn ymatebol ac yn darparu cymorth ychwanegol lle bo angen
  • Ystyried yn ofalus unrhyw addasiadau i raglenni systematig a allai leihau effaith

Bydd gweithredu rhaglenni ffoneg yn dda hefyd yn ystyried sgiliau darllen ehangach disgyblion. Bydd hefyd yn nodi lle mae disgyblion yn cael trafferth gydag agweddau ar ddarllen heblaw dadgodio y gellid eu targedu trwy ddulliau eraill fel addysgu strategaethau darllen a deall yn benodol.

Pan gyflwynir ffoneg fel ymyriad wedi’i dargedu at ddisgyblion penodol, mae’n ymddangos mai sesiynau rheolaidd (hyd at bedair gwaith yr wythnos), o ryw 30 munud dros gyfnod o hyd at 12 wythnos yw’r strwythur mwyaf llwyddiannus.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymyriad ffoneg yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag addysgu ffoneg yn deillio o’r angen am adnoddau penodol a hyfforddiant proffesiynol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol a delir yn ystod blwyddyn gyntaf y ddarpariaeth.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer rhaglenni ffoneg yn isel iawn, mae’r ystod o brisiau rhwng y rhaglenni sydd ar gael a’r opsiwn i brynu hyfforddiant a chymorth parhaus ychwanegol i staff addysgu yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod effeithiolrwydd ffoneg yn gysylltiedig â cham datblygiad darllen y disgybl, felly mae’n bwysig bod athrawon yn derbyn datblygiad proffesiynol mewn asesu effeithiol yn ogystal â defnyddio technegau a deunyddiau ffoneg penodol.

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyflogau staff i gyflwyno ymyriadau, cyfleusterau i gynnal gwersi a deunyddiau ysgrifennu sylfaenol i staff a disgyblion. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu ymyriad ffoneg, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ffoneg yn cael ei ystyried yn uchel iawn. Nodwyd 121 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau121
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021