Mae gweithgarwch corfforol yn cyfeirio at ddulliau sy’n ennyn diddordeb disgyblion mewn chwaraeon, dawns neu unrhyw fath o ymarfer corff.
Gallai hyn fod drwy weithgareddau a drefnir ar ôl ysgol neu raglen a drefnir gan glwb neu gymdeithas chwaraeon lleol. Weithiau defnyddir gweithgaredd chwaraeon fel modd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu ychwanegol, fel hyfforddiant pêl-droed mewn clwb pêl-droed lleol wedi’i gyfuno â sgiliau astudio, gwersi TGCh, llythrennedd neu fathemateg.
Mae gan weithgarwch corfforol fanteision pwysig o ran iechyd, llesiant a datblygiad corfforol. Mae’r buddion hyn yn werthfawr iawn ynddynt eu hunain, fodd bynnag, mae’r cofnod Pecyn Cymorth hwn yn canolbwyntio ar fanteision gweithgarwch corfforol ar gyfer cyrhaeddiad academaidd craidd, yn enwedig llythrennedd a mathemateg.
Mae gweithgarwch corfforol yn cael effaith gadarnhaol fach ar gyrhaeddiad academaidd (+1 mis). Er bod y crynodeb hwn o dystiolaeth yn canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol a pherfformiad academaidd, mae’n hanfodol sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad at weithgarwch corfforol o ansawdd uchel ar gyfer y buddion a’r cyfleoedd eraill y mae’n eu darparu.
Mae’r effaith ar gyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol rhwng gwahanol ymyriadau, ac nid yw cymryd rhan mewn chwaraeon yn trosglwyddo’n syml i ddysgu academaidd. Mae’n debygol y gall ansawdd y rhaglen a’r pwyslais ar ddysgu academaidd neu gysylltiad ag ef wneud mwy o wahaniaeth na’r math penodol o ddull neu weithgareddau dan sylw.
Mae gweithgareddau allgyrsiol wedi’u cynllunio sy’n cynnwys addysgu byr, rheolaidd a strwythuredig mewn llythrennedd a mathemateg (tiwtora neu addysgu grŵp) fel rhan o raglen chwaraeon, fel clwb ar ôl ysgol neu ysgol haf, yn fwy tebygol o gynnig manteision academaidd na gweithgareddau chwaraeon yn unig.
Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol gynyddu presenoldeb a chadw disgyblion mewn addysg.
Tua un mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog ymgysylltu ag ymyriadau a dulliau gweithgarwch corfforol.
Mae amrywioldeb yr effeithiau yn awgrymu y gall ansawdd y rhaglen a’r pwyslais ar ddysgu academaidd neu gysylltiad ag ef wneud mwy o wahaniaeth na’r math penodol o ddull neu weithgareddau chwaraeon dan sylw. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn debygol o gael manteision iechyd a chymdeithasol ehangach.
Mae manteision ehangach o weithgarwch corfforol rheolaidd o ran datblygiad corfforol, iechyd a llesiant ac mae manteision posibl eraill wedi’u hadrodd hefyd fel presenoldeb gwell.
Mae’r effeithiau’n debyg (+1 mis) ar draws yr ystod oedran cynradd ac uwchradd.
Mae’r effaith yn debyg ar gyfer llythrennedd a mathemateg.
Gall disgyblion o gefndiroedd difreintiedig fod yn llai tebygol o allu elwa o glybiau chwaraeon a gweithgareddau corfforol eraill y tu allan i’r ysgol oherwydd y costau ariannol cysylltiedig (e.e. offer). Trwy ddarparu gweithgareddau corfforol am ddim, mae ysgolion yn rhoi mynediad i ddisgyblion at fanteision a chyfleoedd na fyddai fel arall o bosibl ar gael iddynt.
Wrth ystyried cynnal gweithgareddau chwaraeon a allai fod angen cyfraniadau gan rieni, dylai ysgolion ystyried a ellid darparu lleoedd am ddim neu gymhorthdal i ddisgyblion difreintiedig.
Nid yw’n glir sut yn union y mae gweithgarwch corfforol yn dylanwadu ar gyrhaeddiad academaidd. Efallai mai’r ymarfer corfforol ei hun sy’n dylanwadu ar gyrhaeddiad, neu weithgareddau dysgu atodol sydd wedi’u hintegreiddio i weithgaredd corfforol yn yr astudiaethau a nodir yn y Pecyn Cymorth. Mae rhai ffyrdd y mae ysgolion yn gweithredu gweithgarwch corfforol yn cynnwys:
- Gweithgareddau rheolaidd cyn neu ar ôl ysgol;
- Sefydliadau allanol yn darparu gweithgareddau o fewn neu y tu allan i’r ysgol;
- Y cyfuniad o chwaraeon a gweithgareddau corfforol gydag arferion addysgu a dysgu (fel addysgu sgiliau astudio, gwersi TGCh, llythrennedd neu fathemateg);
- Integreiddio dulliau mentora o fewn rhaglenni chwaraeon.
Fel arfer, cyflwynir rhaglenni gweithgarwch corfforol dros gyfnodau estynedig o amser (e.e. hanner tymor, tymor neu flwyddyn) gan staff cymorth, athrawon neu ddarparwyr allanol.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu gweithgarwch corfforol yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau corfforol yn deillio o hyfforddiant ar gyfer staff sy’n arwain rhaglenni, ac unrhyw adnoddau neu offer ychwanegol sydd eu hangen, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol.
Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer gweithgarwch corfforol yn isel iawn, mae cyflogau staff ychwanegol a chyfleusterau o bosibl yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol.
Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am gyfleusterau chwaraeon ysgol a rhai deunyddiau ac offer sylfaenol. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu gweithgareddau corfforol, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch gweithgarwch corfforol yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 61 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports