View yn Cymraeg

:Ailadrodd blwyddyn

Ailadrodd blwyddyn

Effaith negyddol am gost sylweddol iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
-3
mis

Mae ailadrodd blwyddyn yn disgrifio’r broses lle y mae’n ofynnol i ddisgyblion nad ydynt yn cyrraedd safon ddysgu benodol ar ddiwedd blwyddyn ymuno â dosbarth o fyfyrwyr iau y flwyddyn academaidd ganlynol. Ar gyfer myfyrwyr ar lefel ysgol uwchradd, mae ailadrodd blwyddyn fel arfer yn gyfyngedig i’r pwnc neu’r dosbarthiadau penodol nad yw myfyriwr wedi’u pasio.

Mae ailadrodd blwyddyn yn rhywbeth prin iawn yn y DU, ond mae’n gymharol gyffredin yn UDA, lle’r argymhellodd deddf No Child Left Behind (2002) ei bod yn ofynnol i fyfyrwyr ddangos safon penodol o gyflawniad cyn symud ymlaen i’r lefel gradd nesaf. Gall fod yn ofynnol i fyfyrwyr hefyd ailadrodd blwyddyn mewn rhai gwledydd Ewropeaidd gan gynnwys Sbaen, Ffrainc a’r Almaen. Mewn rhai gwledydd, fel y Ffindir, gall disgyblion ailadrodd blwyddyn mewn amgylchiadau eithriadol, ond mae’r penderfyniad hwn yn cael ei wneud ar y cyd gan athrawon, rhieni a’r myfyriwr, yn hytrach nag ar sail profion diwedd blwyddyn.

1. Mae gofyn i ddisgyblion ailadrodd blwyddyn yn cael effaith negyddol ar gyfartaledd. Mae effeithiau negyddol yn brin ar gyfer ymyriadau addysgol, felly mae’r graddau y mae disgyblion sy’n ailadrodd blwyddyn yn gwneud llai o gynnydd yn drawiadol.

2. Mae effeithiau negyddol yn anghymesur ac yn fwy i ddisgyblion difreintiedig, i ddisgyblion o leiafrifoedd ethnig, ac i ddisgyblion sy’n gymharol ifanc yn eu grŵp blwyddyn.

3. Lle nad yw disgyblion yn cyflawni’r deilliannau disgwyliedig, gallai ymyriadau amgen ddarparu cefnogaeth ddwys a allai wneud ailadrodd blwyddyn ysgol yn ddiangen, e.e. Tiwtora un i un.

4. Mae effeithiau negyddol yn tueddu i gynyddu gydag amser ac mae ailadrodd mwy na blwyddyn yn cynyddu’n sylweddol y risg o fyfyrwyr yn troi eu cefnau ar yr ysgol.

Effaith gyfartalog disgybl yn ailadrodd blwyddyn yw tua thri mis yn llai o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn na phe na bai’r un disgybl wedi ailadrodd y flwyddyn, o’i gymharu â disgyblion tebyg.

Yn ogystal, mae astudiaethau’n dangos mwy o effeithiau negyddol yn gyson i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, gan awgrymu bod yr arfer yn debygol o gynyddu anghydraddoldeb addysgol.

Mae ailadrodd blwyddyn hefyd yn debygol o arwain at fwy o effeithiau negyddol pan wneir hyn yn yr ysgol uwchradd, i fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, neu i ddisgyblion sy’n gymharol ifanc yn eu grŵp blwyddyn (y cyfeirir atynt yn aml fel disgyblion a aned yn yr haf’ yn llenyddiaeth UDA ac Ewrop).

Mae disgyblion sy’n ailadrodd blwyddyn yn gwneud tri mis yn llai o gynnydd academaidd dros gyfnod o flwyddyn ar gyfartaledd na disgyblion sy’n symud ymlaen. Yn ogystal, mae astudiaethau’n awgrymu nad yw myfyrwyr sy’n ailadrodd blwyddyn yn debygol o ddal i fyny â chyfoedion o lefel debyg sy’n symud ymlaen, hyd yn oed ar ôl cwblhau blwyddyn ychwanegol o addysg. Mae astudiaethau hefyd yn awgrymu bod myfyrwyr sy’n ailadrodd blwyddyn yn fwy tebygol o droi eu cefnau ar yr ysgol cyn gorffen y flwyddyn.

Er bod yr effaith gyffredinol ar gyfartaledd yn negyddol, mae rhai astudiaethau’n awgrymu y gall rhai myfyrwyr elwa mewn amgylchiadau unigol, yn enwedig yn y tymor byr. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos yn hawdd nodi pa fyfyrwyr fydd yn elwa, gan awgrymu bod ailadrodd blwyddyn yn risg sylweddol.

  • Mae effeithiau negyddol fel arfer ychydig yn fwy mewn ysgolion uwchradd (-4 mis) nag ysgolion cynradd (-2 fis).

  • Mae’r effeithiau negyddol yn debyg ar gyfer llythrennedd a mathemateg.

  • Cynhaliwyd astudiaethau yn bennaf yn UDA.

Mae ymchwil i’r bwlch cyrhaeddiad” economaidd-gymdeithasol yn awgrymu bod gan ddisgyblion difreintiedig, ar gyfartaledd, gyrhaeddiad is na’u cyfoedion mwy breintiedig. O ganlyniad, mae disgyblion difreintiedig yn fwy tebygol o gael eu gofyn i ailadrodd blynyddoedd neu raddau, sy’n debygol o ymwreiddio tangyflawni ac arwain at ddiffyg hyder a chymhelliant mewn cysylltiad ag ysgol.

O ystyried effaith negyddol nodweddiadol gwneud i ddisgyblion ailadrodd blwyddyn, ni argymhellir bod ysgolion yn mabwysiadu’r dull hwn. Mae rhai o’r rhesymau pam y gallai ailadrodd blwyddyn gael effaith negyddol yn cynnwys disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio am fethu, a bod mewn dosbarth gyda disgyblion iau. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall fod yn fuddiol i ddisgybl ailadrodd blwyddyn, er enghraifft, os yw wedi colli addysg yn sgil salwch neu am resymau dilys eraill. Os felly, mae’n hanfodol:

  • sicrhau bod y penderfyniad i ailadrodd blwyddyn yn digwydd mewn ymgynghoriad â’r disgybl a’r rhieni i sicrhau nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi
  • ystyried sut y byddwch yn darparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion sy’n ailadrodd y flwyddyn, yn hytrach na gobeithio y bydd yr un dull yn cael canlyniadau gwahanol.

Yn gyffredinol, mae effeithiau negyddol cyfartalog ailadrodd blwyddyn ar ddysgu disgyblion yn awgrymu y dylai athrawon, ysgolion a rhieni ystyried dulliau eraill o gefnogi disgyblion i ddal i fyny â chyfoedion a chyrraedd lefelau priodol ar gyfer eu grŵp blwyddyn neu lefel gradd. Er enghraifft, gellid defnyddio Tiwtora Un-i-Un fel ymyriad i dargedu bylchau mewn dealltwriaeth a darparu cymorth ychwanegol.

Mae cyllid blynyddol ar gyfer lleoedd ysgol, fel y’i pennir gan y Fformiwla Gyllido Genedlaethol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 – 22, yn debygol o fod rhwng £3,000 a £4,500 y disgybl ar gyfer plant ysgol gynradd, a rhwng £4,500 a £6,000 ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Felly, mae’r costau sy’n gysylltiedig ag un disgybl unigol yn ailadrodd blwyddyn yn uchel iawn.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ailadrodd blwyddyn yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 71 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc ddau glo clap ychwanegol oherwydd:

  • Mae canran fach o astudiaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
  • Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau71
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMedi 2021