View yn Cymraeg

Education Endowment Foundation:Gwisg ysgol

Gwisg ysgol

Effaith aneglur am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth annigonol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
-

Gwisg ysgol yw’r dillad y mae’n ofynnol i ddisgyblion eu gwisgo yn yr ysgol. Mae gwisgoedd ysgol yn amrywio o’r rhai ffurfiol a manwl iawn (sy’n nodi bod blazers yn ofynnol ac eitemau penodol eraill o ddillad) i’r rhai mwy anffurfiol a chryno (sy’n nodi crys chwys ysgol yn unig). Mae ysgolion yn amrywio o ran pa mor gaeth y bydd y polisi gwisg ysgol yn cael ei orfodi ac a yw’n cynnwys agweddau eraill ar ymddangosiad disgyblion.

1. Mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar wisg ysgol a chanlyniadau academaidd yn wan iawn. Mae’r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig yn golygu nad oes ffigur ar gyfer yr effaith gyfartalog yn cael ei gyfleu.

2. Nid yw gwisgo gwisg ysgol, ar ei ben ei hun, yn debygol o wella dysgu, ond gellir ei ymgorffori’n llwyddiannus mewn proses ehangach i wella ysgolion sy’n cynnwys datblygu ethos ysgol a gwella ymddygiad a disgyblaeth.

3. Mae ymrwymiad staff i gadw at bolisi gwisg ysgol yn gyson yn hanfodol i’w weithredu’n llwyddiannus.

4. Os oes polisi gwisg ysgol ar waith, mae’n bwysig ystyried sut i gefnogi teuluoedd nad ydynt efallai’n gallu fforddio gwisg ysgol.

Mae’r diffyg astudiaethau sy’n profi dulliau o ddefnyddio gwisg ysgol yn golygu nad oes digon o sicrwydd i gyfleu ffigur cynnydd mewn misoedd. Mae polisïau gwisg ysgol yn aml yn cael eu gweithredu ochr yn ochr â mesurau gwella eraill, sy’n ei gwneud yn arbennig o heriol mesur effaith ymyriadau gwisg ysgol yn unig. O ganlyniad, nid oes digon o sicrwydd yn y dystiolaeth i gyfleu’r effaith gyfartalog.

Mae yna gred mewn rhai gwledydd bod gwisg ysgol yn cefnogi datblygiad ethos ysgol gyfan ac felly’n cefnogi disgyblaeth a chymhelliant. Mae rhai hefyd yn credu bod gwisg yn hyrwyddo tegwch cymdeithasol. Fodd bynnag, nid oes llawer o dystiolaeth gadarn y bydd cyflwyno gwisg ysgol, ar ei ben ei hun, yn gwella perfformiad academaidd, ymddygiad neu bresenoldeb.

Mae yna gred gyffredinol yn y DU bod gwisg ysgol yn arwain at welliannau yn ymddygiad disgyblion. Mae’n bwysig cofio nad yw ymddygiad gwell, ar ei ben ei hun, o reidrwydd yn arwain at well dysgu, er y gallai fod yn rhagamod pwysig (gweler Ymyriadau ymddygiad).

Mae disgyblion o aelwydydd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o allu fforddio cost gwisg ysgol. Felly, dylai ysgolion sy’n bwriadu newid eu polisi gwisg ysgol ystyried pa ddarpariaeth y gellir ei gwneud i dalu am gostau newidiadau mewn gwisg ysgol i ddisgyblion difreintiedig.

Credir bod polisïau gwisg ysgol yn ategu datblygiad a chefnogaeth diwylliant a dull ysgol gyfan, a allai yn ei dro gynorthwyo disgyblaeth a chymhelliant disgyblion.

Gallai polisi gwisg ysgol gynnwys staff sy’n meddu ar ddisgwyliadau uchel o ymddygiad disgyblion, gyda’u dillad yn adlewyrchu gwerthoedd a diwylliant yr ysgol.

Mae gweithredu polisi gwisg ysgol yn debygol o fod yn gost sylweddol i rieni. Ni fyddai’n ddoeth newid gofynion gwisg ysgol yn rheolaidd, gan y gallai hyn achosi mwy o anfantais i blant a theuluoedd aelwydydd economaidd-gymdeithasol is.

Mae’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwisg ysgol yn isel iawn i ysgol, ac yn dibynnu’n bennaf ar rieni yn prynu’r dillad a nodwyd yn hytrach na dillad eraill y byddai’r plentyn yn eu gwisgo. Gall rhai ysgolion gynnig cymhorthdal neu dalu am wisg ysgol plant o deuluoedd incwm isel, sy’n debygol o gynyddu’r gost sy’n gysylltiedig â chyflwyno gwisg ysgol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler A School’s Guide to Implementation.

Mae tystiolaeth gyfyngedig iawn ynghylch effaith gwisg ysgol ar ddeilliannau cyrhaeddiad. Ar gyfer pynciau â thystiolaeth isel iawn, ni chaiff ffigur cynnydd mewn misoedd ei arddangos. Dim ond 8 astudiaeth a nodwyd a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau8
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafHydref 2025