View yn Cymraeg

:Ymyriadau ymddygiad

Ymyriadau ymddygiad

Effaith gymedrol am gost isel yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Mae ymyriadau ymddygiad yn ceisio gwella cyrhaeddiad drwy leihau ymddygiad heriol yn yr ysgol. Mae’r cofnod hwn yn ymdrin ag ymyriadau sydd â’r nod o leihau amrywiaeth o ymddygiadau, o darfu lefel isel i ymddygiad ymosodol, trais, bwlio, camddefnyddio sylweddau a gweithgareddau gwrthgymdeithasol cyffredinol. Gellir rhannu’r ymyriadau eu hunain yn dri chategori eang:

  1. Dulliau o ddatblygu ethos ysgol cadarnhaol neu wella disgyblaeth ar draws yr ysgol gyfan sydd hefyd yn anelu at gefnogi mwy o ymgysylltu â dysgu;
  2. Rhaglenni cyffredinol sy’n ceisio gwella ymddygiad ac sy’n digwydd yn gyffredinol yn yr ystafell ddosbarth; a
  3. Rhaglenni mwy arbenigol sydd wedi’u targedu at fyfyrwyr sydd â phroblemau ymddygiad penodol.

Mae dulliau eraill, fel rhaglenni ymgysylltiad rhienidysgu cymdeithasol ac emosiynol, yn aml yn adrodd bod gwelliannau o ran ethos neu ddisgyblaeth ysgol, ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn y crynodeb hwn, sydd wedi’i gyfyngu i ymyriadau sy’n canolbwyntio’n uniongyrchol ar ymddygiad.

1. Mae ymyriadau wedi’u targedu a dulliau cyffredinol yn cael effeithiau cyffredinol cadarnhaol (+ 4 mis). Dylai ysgolion ystyried y cyfuniad priodol o ddulliau gwella ymddygiad i leihau aflonyddwch cyffredinol a darparu cymorth wedi’i deilwra lle bo angen.

2. Ceir tystiolaeth ar draws ystod o ymyriadau gwahanol gyda’r effeithiau mwyaf sylweddol yn dod o ddulliau sy’n canolbwyntio ar hunanreolaeth neu chwarae rôl ac ymarfer.

3. Ceir effeithiau amrywiol hyd yn oed o fewn mathau o raglenni. Wrth ddewis ymyriad ymddygiad, dylai ysgolion chwilio am raglenni sydd wedi cael eu gwerthuso a lle mae tystiolaeth eu bod yn cael effaith gadarnhaol.

4.Wrth fabwysiadu ymyriadau ymddygiad – boed yn rhai wedi’u targedu neu’n rhai cyffredinol – mae’n bwysig ystyried darparu datblygiad proffesiynol i staff er mwyn sicrhau cyflwyniad o ansawdd uchel a chysondeb ar draws yr ysgol.

Effaith gyfartalog ymyriadau ymddygiad yw cynnydd o bedwar mis ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall ymyriadau ymddygiad, ar gyfartaledd, gynhyrchu gwelliannau cymedrol mewn perfformiad academaidd ynghyd â gostyngiad mewn ymddygiadau problemus. Fodd bynnag, mae buddion amcangyfrifedig yn amrywio’n fawr ar draws rhaglenni.

Mae dulliau fel gwella sgiliau rheoli ymddygiad athrawon a gwella sgiliau gwybyddol a chymdeithasol disgyblion yn effeithiol, ar gyfartaledd.

Mae dulliau gwella ymddygiad ar lefel ysgol yn aml yn gysylltiedig â gwelliannau mewn cyrhaeddiad. Er hynny, mae diffyg tystiolaeth i ddangos mai’r ymyriadau ymddygiad sy’n achosi’r gwelliannau mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymyriadau eraill mewn ysgolion sy’n digwydd ar yr un pryd. Mae rhaglenni cyfranogiad rhieni a’r gymuned yn aml yn gysylltiedig â gwelliannau a adroddir mewn ethos neu ddisgyblaeth ysgol ac felly mae’n werth eu hystyried fel dewisiadau amgen i ymyriadau ymddygiad uniongyrchol.

  • Mae’r effeithiau ychydig yn is ar gyfer disgyblion oedran uwchradd (+3 mis).

  • Mae’n ymddangos bod effaith i’w gweld ar draws y cwricwlwm gydag ychydig mwy o effaith (+5 mis) ar gyfer mathemateg na llythrennedd neu wyddoniaeth.

  • Mae’n ymddangos mai sesiynau rheolaidd sawl gwaith yr wythnos dros gyfnod estynedig o hyd at dymor yw’r rhai mwyaf llwyddiannus.

  • Mae dulliau sy’n canolbwyntio ar hunanreolaeth a’r rhai sy’n ymwneud â chwarae rôl neu ymarfer yn gysylltiedig â mwy o effaith.

Yn ôl ffigurau gan yr Adran Addysg, mae disgyblion sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn fwy tebygol o gael gwaharddiad parhaol neu gyfnod penodol o gymharu â’r rhai nad ydynt yn eu derbyn.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros wahardd yw ymddygiad aflonyddgar parhaus. Bydd llawer o bethau yn dylanwadu ar ymddygiad disgyblion, a bydd athrawon yn gallu rheoli rhai ohonynt yn uniongyrchol trwy ddulliau rheoli cyffredinol neu ddulliau rheoli yn yr ystafell ddosbarth. Bydd angen cymorth mwy arbenigol ar rai disgyblion i’w helpu i reoli eu hunanreoleiddio neu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae ymyriadau ymddygiad yn cael effaith drwy gynyddu’r amser sydd gan ddisgyblion ar gyfer dysgu. Gallai hyn fod drwy leihau tarfu lefel isel sy’n lleihau amser dysgu yn yr ystafell ddosbarth neu drwy atal gwaharddiadau sy’n tynnu disgyblion o’r ysgol am gyfnodau. Os yw ymyriadau yn yr ystafell ddosbarth yn cymryd mwy o amser na’r tarfu y maent yn ei ddisodli, mae’n annhebygol y bydd cynnydd yn yr amser dysgu lle mae disgyblion yn ymgysylltu. Yn y rhan fwyaf o ysgolion, cyfuniad o ddulliau cyffredinol a rhai wedi’u targedu fydd fwyaf priodol:

  • Gall dulliau cyffredinol o reoli’r ystafell ddosbarth helpu i atal tarfu – ond yn aml mae angen datblygiad proffesiynol i wneud hyn yn effeithiol.
  • Gall dulliau wedi’u targedu sydd wedi’u teilwra i anghenion disgyblion fel cardiau adrodd rheolaidd neu asesiadau ymddygiad swyddogaethol fod yn briodol pan fydd disgyblion yn cael trafferth gydag ymddygiad.

Gyda phob dull, mae’n hanfodol cynnal disgwyliadau uchel ar gyfer disgyblion ac ymgorffori dull cyson ar draws yr ysgol. Gall dulliau llwyddiannus hefyd gynnwys ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol a dulliau ymgysylltu â rhieni.

Mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn ymddangos bod rhaglenni a ddarperir dros ddau i chwe mis yn cynhyrchu mwy o ganlyniadau sy’n para’n hir. Mae strategaethau ysgol gyfan fel arfer yn cymryd mwy o amser i’w hymgorffori na strategaethau wedi’u teilwra i unigolion neu un ystafell ddosbarth.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae costau ymyriadau ymddygiad yn amrywio’n fawr ac yn gyffredinol, amcangyfrifir eu bod yn amrywio rhwng isel iawn a chymedrol. Mae’r costau i ysgolion i gyflwyno strategaethau ysgol gyfan yn seiliedig i raddau helaeth ar amser a hyfforddiant staff. Mae ymyriadau mwy dwys, wedi’u targedu yn debygol o arwain at gostau staffio a hyfforddiant uwch.

Gall ymyriadau ymddygiad ofyn am lawer iawn o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill. Bydd dulliau wedi’u targedu neu ddulliau un-i-un, sy’n cael eu cyflwyno gan staff ysgol wedi’u hyfforddi neu arbenigwyr, yn gofyn am amser staff ychwanegol o gymharu â dulliau gweithredu cyffredinol. Yn gyffredinol, gall dulliau effeithiol hyrwyddo gwell ymgysylltiad ag addysgu a dysgu trwy leihau ymddygiad heriol a gwella ymgysylltiad disgyblion.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion fyfyrio ar effaith polisïau ymddygiad ysgol gyfan a chefnogi eu staff i gynnal dull cyson. Wrth fabwysiadu dulliau newydd, dylai arweinwyr ysgolion ystyried rhaglenni y profwyd eu bod yn llwyddiannus. Gall gwella rheolaeth yn yr ystafell ddosbarth olygu trefnu hyfforddiant dwys lle mae athrawon yn myfyrio ar eu hymarfer, yn gweithredu strategaethau newydd, ac yn adolygu eu cynnydd dros amser.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymyriadau ymddygiad yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 89 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Ar y cyfan, collodd y pwnc ddau glo clap ychwanegol oherwydd:

  • Canran fechan o’r astudiaethau a ddigwyddodd yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau89
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021