Mae ‘setio’ neu ‘ffrydio’ yn cyfeirio at amrywiaeth o ddulliau lle mae disgyblion sydd â lefelau tebyg o gyrhaeddiad cyfredol yn cael eu grwpio’n gyson gyda’i gilydd ar gyfer gwersi.
- Mae ‘setio’ fel arfer yn cynnwys grwpio disgyblion mewn grŵp blwyddyn penodol yn ddosbarthiadau ar gyfer pynciau penodol, fel mathemateg a Saesneg, ond nid ar draws y cwricwlwm cyfan.
- Mae ‘ffrydio’ (a elwir hefyd yn ‘tracio’ mewn rhai gwledydd) fel arfer yn cynnwys grwpio disgyblion yn ddosbarthiadau ar gyfer y cyfan neu’r rhan fwyaf o’u gwersi, fel bod disgybl yn yr un grŵp ni waeth beth fo’r pwnc sy’n cael ei addysgu.
Mae disgyblion mewn gwahanol setiau neu ffrydiau weithiau’n dilyn cwricwlwm gwahanol, yn enwedig pan fydd profion cenedlaethol gwahanol, lefelau arholiadau gwahanol neu wahanol fathau o gymwysterau academaidd a galwedigaethol ar gael. Nod dulliau setio a ffrydio yw galluogi addysgu mwy effeithiol ac effeithlon trwy gulhau’r ystod o gyrhaeddiad disgyblion mewn dosbarth.
Er bod yr arferion hyn weithiau’n cael eu disgrifio fel ‘grwpio ar sail gallu’, rydym yn cyfeirio yma at ‘gyrhaeddiad’ yn hytrach na ‘gallu’, gan fod ysgolion yn gyffredinol yn defnyddio mesurau perfformiad cyfredol, yn hytrach na mesurau gallu, i grwpio disgyblion. Mae setio a ffrydio yn cael eu cyfuno yn y cofnod Pecyn Cymorth hwn oherwydd bod yr arferion hyn yn debyg gan eu bod yn gwahanu disgyblion yn ddosbarthiadau cyfan o lefelau cyrhaeddiad tebyg.
Am dystiolaeth ar effaith grwpio disgyblion yn ôl cyrhaeddiad o fewn dosbarthiadau, gweler grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn y dosbarth. Nid yw mathau eraill o grwpio ar sail cyrhaeddiad, fel grwpio yn ôl cyrhaeddiad ar draws grwpiau blwyddyn, ac addysgu disgyblion uchel eu cyrhaeddiad gyda grwpiau blwyddyn hŷn, yn cael eu cynnwys yn y Pecyn Cymorth gan eu bod yn cael eu defnyddio’n llai cyffredin.
Yn y DU, mae setio a ffrydio yn fwy cyffredin yn yr ysgol uwchradd nag yn yr ysgol gynradd.
1. Effaith setio a ffrydio yw cynnydd o 0 mis, ar gyfartaledd, gydag effeithiau is ar gyfer disgyblion isel eu cyrhaeddiad. Mae’r dystiolaeth ynghylch setio a ffrydio yn gyfyngedig. Gall ysgolion ystyried dulliau eraill o dargedu dysgu’n effeithiol ar gyfer disgyblion (e.e. grwpiau bach neu diwtora un i un).
2. Os yw ysgolion yn dewis setio a ffrydio, mae’n hanfodol ystyried sut y bydd y dull gweithredu yn galluogi addysgu mwy effeithiol i bob disgybl, gan gynnwys disgyblion is eu cyrhaeddiad. Er enghraifft, ystyried yn ofalus sut i neilltuo athrawon yn briodol i wahanol setiau.
3. Mae’n bwysig sicrhau bod pob disgybl yn dilyn cwricwlwm heriol, gan gynnwys disgyblion is eu cyrhaeddiad. Bydd sicrhau hyblygrwydd gyda threfniadau grwpio, a monitro dysgu yn rheolaidd yn lleihau’r risg o gamddyrannu disgyblion sy’n dysgu ar wahanol gyfraddau.
4. Mae gwneud dewisiadau gwybodus am ddyrannu disgyblion i grwpiau yn bwysig. Er enghraifft, mae rhywfaint o dystiolaeth bod disgyblion yn cael eu rhoi dan anfantais yn sgil eu hoedran cymharol o fewn grŵp blwyddyn neu drwy ragfarn isymwybodol ar sail hil neu ddosbarth cymdeithasol.
Ar gyfartaledd, mae disgyblion sy’n destun setio neu ffrydio yn gwneud cynnydd tebyg i ddisgyblion a addysgir mewn dosbarthiadau cyrhaeddiad cymysg. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod setio a ffrydio yn cael effaith negyddol fach ar ddysgwyr isel eu cyrhaeddiad, ac effaith gadarnhaol fach ar ddisgyblion uwch eu cyrhaeddiad. Mae eithriadau i’r patrwm hwn, gyda rhywfaint o amrywiad rhwng astudiaethau. Yn gyffredinol, mae’r effeithiau’n fach iawn, ac mae’n ymddangos nad yw setio neu ffrydio yn ffordd effeithiol o godi cyrhaeddiad i’r rhan fwyaf o ddisgyblion.
Gall setio neu ffrydio hefyd gael effaith ar ddeilliannau ehangach fel hyder. Mae rhai astudiaethau o’r sylfaen dystiolaeth ehangach yn dod i’r casgliad y gallai grwpio disgyblion ar sail cyrhaeddiad gael effeithiau negyddol tymor hwy ar agweddau ac ymgysylltiad disgyblion isel eu cyrhaeddiad, er enghraifft, trwy atal y gred y gellir gwella eu cyrhaeddiad trwy ymdrech.
Un o heriau grwpio ar sail cyrhaeddiad yw sicrhau bod disgyblion yn cael eu dyrannu’n gywir i grwpiau. Mae rhai astudiaethau o’r DU yn awgrymu bod camddyrannu yn broblem benodol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, sydd mewn mwy o berygl o gael eu camddyrannu i grwpiau is eu cyrheddiad, a’r effaith negyddol a all gyd-fynd â hyn.
Mae effeithiau tebyg wedi’u canfod ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac uwchradd.
Mae’r effaith yn ymddangos yn debyg ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth.
Mewn rhai cyd-destunau datblygu, mae’r dull Addysgu ar y lefel gywir (TaRL) wedi dod yn boblogaidd, ac mae rhywfaint o orgyffwrdd gyda setio a ffrydio. Mae deilliannau’r astudiaethau hyn yn tueddu i fod yn uwch na’r cyfartaledd cyffredinol. Mae’n bosibl mai’r amrywiad mwy sylweddol mewn sgoriau disgyblion yn y cyd-destunau hyn ac elfennau eraill y rhaglen TaRL sy’n gyfrifol am hyn.
Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai disgyblion difreintiedig ddioddef o ddisgwyliadau is gan athrawon sy’n cynyddu eu siawns o gael eu rhoi mewn setiau neu ffrydiau is. Mae disgyblion mewn setiau a ffrydiau is yn fwy tebygol o gael eu haddysgu gan athrawon llai profiadol a chymwys, ac yn aml yn datblygu diffyg hyder yn eu galluoedd eu hunain.
Gall setio neu ffrydio greu proffwydoliaethau hunangyflawnol negyddol ar gyfer disgyblion difreintiedig, lle mae eu siawns o wella cyrhaeddiad a phrofi llwyddiant yn cael ei rwystro gan y cyfuniad o ddisgwyliadau is gan athrawon a haenu cymdeithasol.
Mae peth tystiolaeth hefyd fod disgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o gael eu camddyrannu i setiau is.
Nod setio a ffrydio yw gwella canlyniadau disgyblion trwy sicrhau bod cynnwys y dosbarth wedi’i dargedu’n dda at anghenion disgyblion, a bod disgyblion mewn grwpiau is eu cyrhaeddiad yn cael y cymorth priodol. O ystyried gwendid y sylfaen dystiolaeth, bydd gweithredu hyn yn drylwyr yn ystyried sut i liniaru’r risgiau posibl o setio a ffrydio ar gyfer disgyblion isel eu cyrhaeddiad, gallai gynnwys:
- Ystyried yn ofalus sut caiff athrawon eu dyrannu rhwng setiau i sicrhau bod disgyblion isel eu cyrhaeddiad yn derbyn addysgu o ansawdd uchel.
- Defnyddio monitro parhaus i sicrhau bod disgyblion mewn setiau priodol ac nad ydynt yn cael eu camddyrannu.
- Arferion hyblyg sy’n caniatáu i ddisgyblion symud rhwng setiau.
Fel arfer, cyflwynir dulliau setio a ffrydio yn ystod blwyddyn academaidd, gyda grwpiau yn aml yn cael eu llywio gan ddeilliannau cyrhaeddiad disgyblion o’r flwyddyn ysgol flaenorol. Fodd bynnag, gall rhai ysgolion symud disgyblion rhwng setiau neu ffrydiau yn ystod y flwyddyn ysgol.
Mae symud naill ai o grwpio gallu cymysg i setio a ffrydio neu i’r cyfeiriad arall yn newid sylweddol a bydd angen proses weithredu ofalus. Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
Mae grwpio yn ôl cyrhaeddiad yn strategaeth sefydliadol gydag ychydig iawn o gostau ariannol cysylltiedig, os o gwbl. Efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol i gefnogi grwpiau gwahanol. Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y costau’n isel iawn.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch setio a ffrydio yn cael ei ystyried yn gyfyngedig iawn. Nodwyd 58 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc gloeon clap oherwydd:
- Mae canran fach o astudiaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
- Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.