View yn Cymraeg

:Grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth

Grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth

Effaith isel am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+2
mis

Mae grwpio o fewn dosbarth (a elwir hefyd yn grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth) yn golygu trefnu disgyblion yn eu dosbarth arferol ar gyfer gweithgareddau neu bynciau penodol, megis llythrennedd neu fathemateg. Mae disgyblion sydd â lefelau tebyg o gyrhaeddiad cyfredol yn cael eu grwpio gyda’i gilydd, er enghraifft, ar fyrddau penodol, ond caiff pob disgybl ei addysgu gan eu hathro arferol a’u staff cymorth. Fel arfer maent i gyd yn dilyn yr un cwricwlwm ond ar wahanol lefelau anhawster.

Nod y math hwn o grwpio yw paru tasgau, gweithgareddau a chefnogaeth â galluoedd presennol disgyblion, fel bod gan bob disgybl lefel briodol o her.

Gall grwpio o fewn dosbarth gynnwys defnyddio dulliau eraill fel dysgu cydweithredol neu strategaethau wedi’u targedu (gweler strategaethau darllen a deall).

Er bod grwpio o fewn dosbarth weithiau’n cael ei ddisgrifio fel grwpio ar sail gallu’, rydym yn cyfeirio yma at gyrhaeddiad’ yn hytrach na gallu’, gan fod ysgolion yn gyffredinol yn defnyddio mesurau perfformiad cyfredol, yn hytrach na mesurau gallu, i grwpio disgyblion.

Yn y DU, mae grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth yn tueddu i fod yn fwy cyffredin mewn ysgolion cynradd nag mewn ysgolion uwchradd. Mewn ysgolion cynradd gall hyn olygu grwpio disgyblion gyda’i gilydd ar fyrddau penodol, ond nid yw hyn fel arfer yn digwydd mewn ysgolion uwchradd. Nid yw’r dystiolaeth ymchwil yn archwilio effaith disgyblion yn gweithio mewn grwpiau. Yn hytrach, mae’n archwilio effaith disgyblion yn cael eu grwpio ar sail cyrhaeddiad a allai olygu eu bod yn gweithio mewn grwpiau neu ddim.

1. Mae grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth yn cael effaith gadarnhaol, ar gyfartaledd, o 2 fis o gynnydd ychwanegol. Fodd bynnag, mae cryfder y dystiolaeth yn gyfyngedig iawn ac mae amrywiad y tu ôl i’r cyfartaledd hwn.

2. Mae’n bwysig ystyried yn ofalus pa gynnwys sy’n briodol ar gyfer grwpio yn ôl cyrhaeddiad o fewn y dosbarth. Er bod yr effaith mewn mathemateg yn gadarnhaol, ni chanfu astudiaethau a fesurai ddeilliannau llythrennedd unrhyw wahaniaeth, ar gyfartaledd.

3. Dylid ystyried effaith grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth ar ddisgyblion â chyrhaeddiad blaenorol isel a monitro eu hymgysylltiad ac agweddau tuag at ddysgu yn ofalus.

4. Un fantais o grwpio o fewn dosbarth fyddai hyblygrwydd o ran trefniadau grwpio. Mae disgyblion yn symud ymlaen ar wahanol gyflymder felly mae monitro ac asesu rheolaidd yn bwysig er mwyn lleihau camddyrannu a sicrhau her i bob disgybl.

Tua deufis o gynnydd ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog grwpio o fewn dosbarth.

Gall grwpio ar sail cyrhaeddiad yn y dosbarth hefyd gael effaith ar ddeilliannau ehangach fel hyder. Mae rhai astudiaethau o’r sylfaen dystiolaeth ehangach yn dod i’r casgliad y gallai grwpio disgyblion ar sail cyrhaeddiad gael effeithiau negyddol tymor hwy ar agweddau ac ymgysylltiad disgyblion isel eu cyrhaeddiad, er enghraifft, trwy atal y gred y gellir gwella eu cyrhaeddiad trwy ymdrech.

  • Mae manteision y dull hwn yn fwy amlwg yn achos disgyblion oed cynradd (+3 mis) nag uwchradd (dim effaith gyffredinol), er bod nifer gyffredinol yr astudiaethau mewn ysgolion uwchradd yn fach.

  • Mae’r effaith yn ymddangos yn fwy mewn mathemateg (+4 mis) nag ar gyfer pynciau eraill.

Fel yn achos setio a ffrydio, mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai disgyblion difreintiedig ddioddef o ddisgwyliadau is gan athrawon sy’n cynyddu eu siawns o gael eu grwpio gyda disgyblion is eu cyrhaeddiad yn flaenorol. Os na chaiff grwpiau eu trefnu gydag hyblygrwydd, ac os chaiff effaith grwpio ar ymgysylltiad a chymhelliant disgyblion ei fonitro, gallai grwpio o fewn dosbarth gael effeithiau negyddol ar ddisgyblion difreintiedig.

Canfu un astudiaeth ddiweddar a gomisiynwyd gan yr EEF fod ysgolion sydd â chyfran uwch o ddisgyblion difreintiedig yn ymddangos yn fwy tebygol o ddefnyddio addysgu dosbarth cyfan gyda disgyblion CA2, yn hytrach na grwpio o fewn dosbarth. Fodd bynnag, nid oedd y canfyddiad hwn yn gyson ar draws y Cyfnodau Allweddol.

Trwy addasu addysgu i anghenion disgyblion a gwybodaeth flaenorol, efallai y bydd athrawon yn gallu cefnogi, ymestyn a herio dysgu disgyblion yn fwy effeithiol.


Gallai gweithredu dulliau grwpio o fewn dosbarth yn effeithiol gynnwys: 
  • Defnydd effeithiol o asesu i nodi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol disgyblion, a rhwystrau posibl i ddysgu
  • Grwpio disgyblion yn hyblyg fel bod disgyblion yn gwybod nad yw gallu yn rhywbeth sefydlog
  • Addasu addysgu i anghenion disgyblion, darparu cymorth wedi’i dargedu i ddisgyblion sy’n cael trafferthion
  • Ail-fframio cwestiynau a chynnwys gwersi i ddarparu mwy o sgaffaldiau neu ymestyn a herio disgyblion ymhellach
  • Monitro effaith grwpiau ar ymgysylltiad a chymhelliant yn ofalus.

Mae’r dystiolaeth yn dangos effeithiau uwch, ar gyfartaledd, ar gyfer mathemateg. Mae’n hynod o bwysig bod athrawon yn ystyried pa gynnwys sy’n briodol ar gyfer grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth.

Gellir defnyddio ymyriadau grwpio o fewn dosbarth mor aml ag y mae athrawon eu hangen yn eu hymarfer bob dydd. Gellir defnyddio grwpio o fewn dosbarth fel proses dros dro ar gyfer tasgau penodol, neu drefn fwy rheolaidd lle mae cynlluniau eistedd yn seiliedig ar ddeilliannau cyrhaeddiad blaenorol. Dylid rhoi’r dull olaf hwn ar waith yn ofalus, oherwydd heb hyblygrwydd i symud rhwng grwpiau, efallai y bydd rhai disgyblion yn dioddef o ddiffyg hyder gan arwain at lai o ymgysylltu, a chyrhaeddiad wedi hynny.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu grwpio o fewn dosbarth yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â grwpio o fewn dosbarth yn deillio o gynhyrchu unrhyw adnoddau ychwanegol (e.e., sgaffaldiau neu daflenni annog) sy’n cael eu darparu i grwpiau sydd â lefelau gwahanol o gyrhaeddiad blaenorol.

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am amser athrawon, dulliau asesu, ac o bosibl meddalwedd TG i fonitro anghenion a chyrhaeddiad disgyblion. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu grwpio o fewn dosbarth, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch grwpio ar sail cyrhaeddiad o fewn dosbarth yn cael ei ystyried yn isel iawn. Dim ond 22 astudiaeth a nodwyd a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd bod canran fach o’r astudiaethau wedi digwydd yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau22
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafAwst 2021