View yn Cymraeg

:Dulliau dysgu cydweithredol

Dulliau dysgu cydweithredol

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Mae dull dysgu cydweithredol (neu ddysgu ar y cyd) yn cael disgyblion i weithio gyda’i gilydd ar weithgareddau neu dasgau dysgu mewn grŵp sy’n ddigon bach i sicrhau bod pawb yn cymryd rhan. Gall disgyblion yn y grŵp weithio ar dasgau ar wahân gan gyfrannu at ddeilliant cyffredinol, neu weithio gyda’i gilydd ar dasg a rennir. Mae hyn yn wahanol i waith grŵp anstrwythuredig.

Mae rhai dulliau dysgu cydweithredol yn rhoi parau, grwpiau neu dimau o gyrhaeddiad cymysg i weithio mewn cystadleuaeth â’i gilydd er mwyn ysgogi cydweithredu mwy effeithiol. Mae amrywiaeth eang iawn o ddulliau dysgu cydweithredol sy’n cynnwys llawer o wahanol fathau o drefnu a thasgau. Gellir ystyried tiwtora cyfoedion hefyd fel math o ddysgu cydweithredol, ond mae’n cael ei adolygu fel pwnc ar wahân yn y Pecyn Cymorth.

1. Mae dulliau dysgu cydweithredol yn cael effaith gadarnhaol, ar gyfartaledd, a gallant fod yn ddull cost-effeithiol ar gyfer codi cyrhaeddiad.

2. Mae angen cymorth ac ymarfer ar ddisgyblion i gydweithio; nid yw’n digwydd yn awtomatig. Gall datblygiad proffesiynol gefnogi staff i reoli gweithgareddau dysgu cydweithredol yn effeithiol.

3. Mae angen cynllunio tasgau a gweithgareddau yn ofalus fel bod gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol ac yn effeithlon, fel arall gall rhai disgyblion ei chael hi’n anodd cymryd rhan neu geisio gweithio ar eu pennau eu hunain. Mae’n bwysig sicrhau bod pob disgybl yn siarad ac yn mynegi ei syniadau mewn tasgau cydweithredol er mwyn sicrhau ei fod yn elwa’n llawn.

4. Gellir defnyddio cystadleuaeth rhwng grwpiau i gynorthwyo disgyblion i gydweithio’n fwy effeithiol. Fodd bynnag, gall gorbwyslais ar gystadleuaeth beri i ddysgwyr ganolbwyntio ar ennill yn hytrach na llwyddo yn eu dysgu.

5. Mae’r dulliau dysgu cydweithredol mwyaf addawol yn tueddu i fod â grwpiau gyda 3 – 5 disgybl ac mae ganddynt ddeilliant neu nod a rennir.

Mae effaith dulliau cydweithredol ar ddysgu yn gyson gadarnhaol, gyda disgyblion yn gwneud cynnydd o 5 mis ychwanegol, ar gyfartaledd, yn ystod blwyddyn academaidd. Fodd bynnag, mae maint yr effaith yn amrywio, felly mae’n bwysig cael y manylion yn iawn.

Gall dysgu cydweithredol ddisgrifio amrywiaeth eang o ddulliau, ond mae dysgu cydweithredol effeithiol yn gofyn am lawer mwy na dim ond rhoi disgyblion i eistedd gyda’i gilydd a gofyn iddynt weithio mewn parau neu grŵp; dulliau strwythuredig gyda thasgau wedi’u cynllunio’n dda sy’n arwain at y cynnydd mwyaf o ran dysgu.

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gellir cefnogi cydweithredu gyda chystadleuaeth rhwng grwpiau, ond nid yw hyn bob amser yn angenrheidiol, a gall arwain at ddysgwyr yn canolbwyntio ar y gystadleuaeth yn hytrach na’r dysgu y mae’n anelu i’w gefnogi. Mae’r rhan fwyaf o’r dulliau cadarnhaol yn cynnwys hybu siarad a rhyngweithio rhwng dysgwyr.

Mae’r dystiolaeth yn dangos mai grwpiau o 3 – 5 sydd fwyaf effeithiol ar gyfer dulliau dysgu cydweithredol – mae yna effeithiau cadarnhaol llai ar gyfer gwaith pâr a gweithgareddau dysgu cydweithredol gyda mwy na 5 disgybl mewn grŵp. Mae peth tystiolaeth hefyd bod dulliau dysgu cydweithredol yn arbennig o addawol pan fyddant yn cael eu defnyddio i addysgu gwyddoniaeth. 

  • Mae effeithiau dysgu cydweithredol ychydig yn uwch mewn ysgolion uwchradd (+6 mis) nag ysgolion cynradd (+5 mis).

  • Mae effaith dysgu cydweithredol ychydig yn is mewn llythrennedd (+3 mis) na mathemateg (+5 mis) a gwyddoniaeth (+10 mis).

  • Mae’n ymddangos mai grwpiau bach o 3 – 5 disgybl sy’n gyfrifol am ddeilliant ar y cyd yw’r strwythur mwyaf llwyddiannus.

  • Mae astudiaethau sy’n darparu dysgu cydweithredol trwy dechnoleg ddigidol yn tueddu i gael effaith is (+3 mis yn gyffredinol).

Mae tystiolaeth gyfyngedig ar effaith wahaniaethol i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae rhywfaint o dystiolaeth y gallai dulliau dysgu cydweithredol fod o fudd i’r rhai hynny sydd â chyrhaeddiad blaenorol isel trwy ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion weithio gyda chyfoedion i fynegi eu meddyliau, rhannu gwybodaeth a sgiliau a mynd i’r afael â chamsyniadau trwy gefnogaeth a thrafodaeth cyfoedion.

Mae’n hanfodol bod cymorth yn cael ei ddarparu drwy weithgareddau dysgu strwythuredig sydd wedi’u cynllunio’n ofalus i sicrhau bod disgyblion is eu cyrhaeddiad yn cymryd rhan, yn cael eu herio ac yn dysgu’n llwyddiannus. Os yw dulliau dysgu cydweithredol yn golygu bod disgyblion uchel eu cyrhaeddiad yn datrys problemau heb unrhyw fewnbwn gan eu cyfoedion – mae hyn yn debygol o ehangu bylchau presennol mewn cyrhaeddiad.

Mae yna lawer o ddamcaniaethau ynghylch sut y gallai dysgu cydweithredol fod o fudd i ddeilliannau disgyblion. Drwy gydweithredu, gall disgyblion ddatblygu sgiliau esbonio, arddangos, datrys problemau, a sgiliau metawybyddol, neu gall disgyblion elwa o rannu llwyth tasgau heriol. Mae’n bwysig bod ysgolion yn sicrhau’r canlynol o fewn dysgu cydweithredol:

  • mae pob disgybl, yn enwedig disgyblion â chyrhaeddiad blaenorol isel, yn cael eu cynorthwyo i gymryd rhan yn llawn.
  • mae cyfansoddiad parau a grwpiau yn cael ei ystyried yn ofalus.
  • mae athrawon yn hyrwyddo arfer da mewn cydweithredu – er enghraifft modelu trafodaethau o ansawdd uchel fel bod gweithgareddau cydweithredol yn gynhyrchiol.
  • mae athrawon yn monitro gweithgareddau cydweithredol yn ofalus ac yn cefnogi disgyblion sy’n ei chael hi’n anodd cyfrannu neu ddim yn cyfrannu.

Mae amrywiaeth eang o ddulliau dysgu cydweithredol neu ddysgu ar y cyd sy’n cynnwys gwahanol fathau o drefnu a thasgau ar draws y cwricwlwm. Nid yw pob un o’r dulliau dysgu cydweithredol penodol a fabwysiadwyd gan ysgolion wedi cael eu gwerthuso, felly mae’n bwysig gwerthuso unrhyw fenter newydd yn y maes hwn. Mae’n debygol y bydd angen datblygiad proffesiynol i sicrhau bod dulliau mor effeithiol â phosibl a monitro effaith gwahanol ddulliau yn yr ystafell ddosbarth.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Disgwylir i gost gyfartalog dysgu cydweithredol fod yn isel iawn gyda’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant ac adnoddau athrawon. Fel dull o weithio yn yr ystafell ddosbarth, bydd angen ychydig o amser staff i gynllunio a monitro dysgu cydweithredol hefyd, o’i gymharu â dulliau eraill.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau bod dysgu cydweithredol mor effeithiol â phosibl trwy ddatblygiad proffesiynol athrawon i gefnogi’r defnydd o dasgau wedi’u cynllunio’n dda. Dylent hefyd fonitro effaith dulliau gweithredu ar ddisgyblion is eu cyrhaeddiad.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch dysgu cydweithredol yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 212 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc dri chlo clap oherwydd:

  • Mae canran fach o astudiaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
  • Mae llawer iawn o amrywiad anesboniadwy rhwng y canlyniadau a gynhwysir yn y pwnc. Mae pob adolygiad yn cynnwys rhywfaint o amrywiad o ran y canlyniadau, a dyna pam ei bod yn bwysig edrych y tu ôl i’r cyfartaledd. Mae amrywiad anesboniadwy (neu heterogenedd) yn gostwng ein sicrwydd yn y canlyniadau mewn ffyrdd nad ydym wedi gallu eu profi trwy edrych ar sut mae cyd-destun, methodoleg neu ddull yn dylanwadu ar effaith.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau212
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021