Mae strategaethau darllen a deall yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth y dysgwyr o destun ysgrifenedig. Mae disgyblion yn dysgu amrywiaeth o dechnegau sy’n eu galluogi i ddeall ystyr yr hyn maen nhw’n ei ddarllen. Gall y rhain gynnwys: dod i gasgliad ynghylch yr ystyr o’r cyd-destun; crynhoi neu nodi pwyntiau allweddol; defnyddio trefnwyr graffig neu semantig; datblygu strategaethau cwestiynu; a monitro eu dealltwriaeth eu hunain ac yna nodi a datrys anawsterau drostynt eu hunain (gweler hefyd Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio).
Yn aml mae strategaethau’n cael eu haddysgu i’r dosbarth ac yna’n cael eu hymarfer mewn parau neu grwpiau bach (gweler hefyd Dulliau dysgu cydweithredol)
1. Mae strategaethau darllen a deall yn cael effaith uchel ar gyfartaledd (+6 mis). Ochr yn ochr â ffoneg, mae’n elfen hanfodol o hyfforddiant darllen cynnar.
2. Mae’n bwysig nodi lefel anhawster y testun, darparu cyd-destun priodol i ymarfer y sgiliau, awydd i ymgysylltu â’r testun a digon o her i wella sgiliau darllen a deall.
3. Mae diagnosis effeithiol o anawsterau darllen yn bwysig wrth nodi atebion posibl, yn enwedig i ddarllenwyr hŷn sy’n ei chael hi’n anodd. Gall disgyblion gael trafferth gyda dadgodio geiriau, deall strwythur yr iaith a ddefnyddir, neu ddeall geirfa benodol, a all fod yn benodol i’r pwnc.
4. Gall ystod eang o strategaethau a dulliau fod yn llwyddiannus, ond i lawer o ddisgyblion mae angen eu haddysgu’n glir ac yn gyson.
5. Mae’n hanfodol cefnogi disgyblion i gymhwyso’r strategaethau deall yn annibynnol i dasgau, cyd-destunau a phynciau darllen eraill.
Cynnydd o chwe mis ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog strategaethau darllen a deall. Mae dulliau darllen a deall llwyddiannus yn caniatáu i weithgareddau gael eu teilwra’n ofalus i alluoedd darllen disgyblion, ac yn cynnwys gweithgareddau a thestunau sy’n darparu her effeithiol, ond nid llethol.
Gellir cyfuno llawer o’r dulliau yn ddefnyddiol â thechnegau Dysgu cydweithredol a gweithgareddau Ffoneg i ddatblygu sgiliau darllen. Mae’n debygol y bydd defnyddio technegau fel trefnwyr graffig a thynnu sylw’r disgyblion at nodweddion testun yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddarllen testunau esboniadol neu wybodaeth.
Mae rhai arwyddion y gall dulliau sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol fod yn llwyddiannus wrth wella darllen a deall (er mai cymharol ychydig o astudiaethau sydd yn y maes hwn), yn enwedig pan fyddant yn canolbwyntio ar gymhwyso ac ymarfer strategaethau penodol a’r defnydd o sgiliau hunanholi.
Mae cefnogi darllenwyr sy’n cael trafferthion yn debygol o ofyn am ymdrech gydlynol ar draws y cwricwlwm a chyfuniad o ddulliau sy’n cynnwys ffoneg, darllen a deall a dulliau iaith lafar. Ni ddylid ystyried unrhyw strategaeth benodol fel ateb i bob problem, a dylai diagnosis gofalus o’r rhesymau pam mae disgybl unigol yn cael trafferth arwain y dewis o strategaethau ymyrryd.
Cynhaliwyd mwy o astudiaethau gyda disgyblion oedran cynradd, ond ymddengys fod addysgu strategaethau darllen a deall yn effeithiol ar draws ysgolion cynradd (+6 mis) ac ysgolion uwchradd (+7 mis).
Er bod y prif ffocws ar ddarllen, mae strategaethau deall wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus mewn nifer o bynciau’r cwricwlwm lle mae’n bwysig gallu darllen a deall testun.
Mae’n ymddangos bod disgyblion is eu cyrhaeddiad yn elwa’n benodol pan gaiff strategaethau eu haddysgu’n benodol i ddeall testun.
Mae rhai arwyddion y gall dulliau sy’n ymwneud â thechnoleg ddigidol fod yn llwyddiannus wrth wella darllen a deall, yn enwedig pan fyddant yn canolbwyntio ar gymhwyso ac ymarfer strategaethau penodol a’r defnydd o sgiliau hunanholi.
Mae ymyriadau byrrach o hyd at 10 wythnos yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus. Fodd bynnag, mae rhai enghreifftiau o ymyriadau hirach llwyddiannus.
Mae astudiaethau yn Lloegr wedi dangos y gallai disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim gael manteision ychwanegol o gael eu haddysgu sut i ddefnyddio strategaethau darllen a deall. Fodd bynnag, mae sylfaen dystiolaeth y DU yn llai helaeth na’r cyfartaledd byd-eang, ac mae astudiaethau’r DU yn dangos bod llai o effaith ar bob disgybl.
Mae strategaethau darllen a deall yn cynnwys addysgu dulliau a thechnegau penodol y gall disgybl eu defnyddio i wella eu dealltwriaeth o destun ysgrifenedig. Bydd llawer o ddysgwyr yn datblygu’r dulliau hyn heb arweiniad athrawon, gan fabwysiadu’r strategaethau trwy brofi a methu wrth iddynt geisio deall yn well y testunau sy’n eu herio. Fodd bynnag, gwyddom fod plant difreintiedig ar gyfartaledd yn llai tebygol o fod yn berchen ar lyfr eu hunain a darllen gartref gydag aelodau o’r teulu, ac am y rhesymau hyn, efallai na fyddant yn caffael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer darllen a deall testunau heriol.
Mae strategaethau darllen a deall yn gweithio drwy nifer o fecanweithiau gwahanol – pob un yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o ystyr testun yn effeithiol. Mae’r elfennau cyffredin yn cynnwys:
- addysgu strategaethau yn benodol;
- athrawon yn holi disgyblion i roi camau allweddol ar waith;
- crynhoi neu nodi pwyntiau allweddol;
- siarad metawybyddol i fodelu strategaethau;
- defnyddio trefnwyr graffig neu semantig;
- defnyddio strategaethau cyfoedion a hunanholi i ymarfer y strategaethau (fel holi dwyochrog); a
- disgyblion yn monitro eu dealltwriaeth eu hunain ac yn nodi anawsterau eu hunain.
Fel arfer, cyflwynir ymyriadau strategaethau darllen a deall dros un i dri thymor blwyddyn ysgol, naill ai gan athrawon yn y dosbarth, neu gan gynorthwywyr addysgu gyda grwpiau llai.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod angen teilwra dulliau darllen a deall i alluoedd darllen presennol disgyblion. Felly mae’n bwysig bod athrawon yn derbyn datblygiad proffesiynol mewn diagnosis effeithiol yn ogystal â hyfforddiant wrth ddefnyddio technegau a deunyddiau penodol.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
Amcangyfrifir bod cost gyfartalog strategaethau darllen a deall yn isel iawn. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, llyfrau ac adnoddau dysgu, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol a delir yn ystod blwyddyn gyntaf y ddarpariaeth. Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer rhaglenni darllen a deall yn isel iawn, mae’r ystod o brisiau rhwng y rhaglenni sydd ar gael a’r opsiwn i brynu hyfforddiant a chymorth parhaus ychwanegol i staff addysgu yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel.
Bydd addysgu strategaethau darllen a deall yn effeithiol hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill. Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i ddatblygu gallu athrawon i ddefnyddio technegau penodol ar gyfer anghenion penodol disgyblion a sicrhau eu bod yn defnyddio testunau sy’n rhoi her effeithiol i ddarllenwyr.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch strategaethau darllen a deall yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 141 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports
Improving Literacy in Key Stage 1
Guidance Reports
Preparing for Literacy
Guidance Reports
Improving Literacy in Secondary Schools
Guidance Reports