View yn Cymraeg

:Ymyriadau cynorthwywyr addysgu

Ymyriadau cynorthwywyr addysgu

Effaith gymedrol am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Mae cynorthwywyr addysgu (a elwir hefyd yn gynorthwywyr cymorth ystafell ddosbarth neu gynorthwywyr athrawon) yn oedolion sy’n cefnogi athrawon yn yr ystafell ddosbarth. Gall dyletswyddau cynorthwywyr addysgu amrywio’n fawr, ond fe’u defnyddir yn gyffredinol mewn dwy ffordd; i gefnogi’r athro yn amgylchedd cyffredinol yr ystafell ddosbarth, neu i ddarparu ymyriadau wedi’u targedu, sy’n aml yn cael eu darparu y tu allan i’r dosbarth. Gall y rôl hefyd gynnwys darparu cymorth gweinyddol.

1. Gall cynorthwywyr addysgu gael effaith gadarnhaol fawr ar ddeilliannau dysgwyr, fodd bynnag, mae’r ffordd y maent yn cael eu defnyddio yn allweddol.

2. Mae’r effaith uchel ar gyfartaledd yn cuddio amrywiad mawr rhwng y gwahanol ddulliau o ddefnyddio cynorthwywyr addysgu. Mae defnydd wedi’i dargedu, lle mae cynorthwywyr addysgu wedi’u hyfforddi i ddarparu ymyriad i grwpiau bach neu unigolion yn cael effaith uwch, ond ni ddangoswyd bod defnyddio cynorthwywyr addysgu mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth bob dydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr.

3. Mynediad at addysgu o ansawdd uchel yw’r elfen bwysicaf sydd gan ysgolion i wella deilliannau i’w disgyblion. Mae’n arbennig o bwysig sicrhau, pan fydd disgyblion yn derbyn cymorth gan gynorthwyydd addysgu, fod hyn yn ychwanegu at addysgu ond nad yw’n lleihau faint o ryngweithiadau o ansawdd uchel gaiff y disgyblion hyn gyda’u hathro dosbarth yn y dosbarth a thu allan i’r dosbarth.

4. Gall buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol i gynorthwywyr addysgu ddarparu ymyriadau strwythuredig fod yn ddull cost-effeithiol o wella deilliannau dysgwyr oherwydd y gwahaniaeth mawr mewn effeithiolrwydd rhwng gwahanol ddulliau o ddefnyddio cynorthwywyr addysgu.

Tua phedwar mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog defnyddio cynorthwywyr addysgu. Fodd bynnag, mae’r effeithiau’n amrywio’n fawr rhwng yr astudiaethau hynny lle mae cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth bob dydd, nad ydynt fel arfer yn dangos budd cadarnhaol, a’r rhai lle mae cynorthwywyr addysgu yn darparu ymyriadau wedi’u targedu i ddisgyblion unigol neu grwpiau bach, sydd ar gyfartaledd yn dangos manteision cadarnhaol cymedrol. Mae’r prif ffigur o bedwar mis ychwanegol o gynnydd yn gorwedd rhwng y ffigurau hyn.

Mae ymchwil sy’n archwilio effaith cynorthwywyr addysgu a ddefnyddir mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth bob dydd yn awgrymu nad yw myfyrwyr mewn dosbarth gyda chynorthwyydd addysgu yn bresennol yn perfformio’n well na’r rhai mewn dosbarth lle nad oes ond athro yn bresennol. Mae’r canfyddiad cyfartalog hwn yn cynnwys amrywiaeth o effeithiau. Mewn rhai achosion, mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn cydweithio’n effeithiol, gan arwain at gynnydd mewn cyrhaeddiad. Mewn achosion eraill, gall disgyblion, yn enwedig y rhai â chyrhaeddiad isel neu sy’n cael eu nodi fel rhai ag anghenion addysgol arbennig, berfformio’n waeth mewn dosbarthiadau gyda chynorthwywyr addysgu.

Lle cofnodwyd effeithiau negyddol cyffredinol, mae’n debygol bod cefnogaeth gan gynorthwywyr addysgu wedi disodli yn hytrach nag ychwanegu at addysgu gan athrawon. Yn yr enghreifftiau mwyaf cadarnhaol, mae’n debygol y bydd cymorth a hyfforddiant wedi’i ddarparu ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu fel eu bod yn deall sut i gydweithio’n effeithiol, fel neilltuo amser i drafod cyn ac ar ôl gwersi.

Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar gynorthwywyr addysgu sy’n darparu ymyriadau un i un neu grŵp bach wedi’u targedu yn dangos budd cadarnhaol cryfach o rhwng pedwar a chwe mis ychwanegol ar gyfartaledd. Yn aml, mae ymyriadau yn seiliedig ar ddull clir y mae cynorthwywyr addysgu wedi’u hyfforddi i’w ddarparu.

Mae athrawon hefyd yn adrodd am y manteision o weithio gyda chynorthwywyr addysgu o ran llwyth gwaith a llai o straen.

Yn Lloegr, canfuwyd effeithiau cadarnhaol mewn astudiaethau lle mae cynorthwywyr addysgu yn darparu ymyriadau strwythuredig o ansawdd uchel sy’n darparu sesiynau byr, dros gyfnod cyfyngedig, ac yn cysylltu’r dysgu ag addysgu yn yr ystafell ddosbarth, fel:

  • Abracadabra (ABRA)
  • Catch Up Literacy
  • Catch Up Numeracy
  • Nuffield Early Language Intervention (NELI)
  • REACH
  • Switch-on Reading
  • Talk for Literacy

Mae tystiolaeth hefyd y gall gweithio gyda chynorthwywyr addysgu arwain at welliannau yn agweddau disgyblion, a hefyd at effeithiau cadarnhaol o ran morâl athrawon, llwyth gwaith, a llai o straen.

  • Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn ymyriadau wedi’u targedu a gynhaliwyd mewn ysgolion cynradd lle mae’r effaith fel arfer ychydig yn uwch (+5 mis) nag ar gyfer disgyblion oedran uwchradd (+4 mis).

  • Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth yn ymwneud â darllen ac agweddau eraill ar lythrennedd. Mae’r effaith yn is ar gyfer mathemateg mewn ysgolion cynradd (+3 mis).

  • Mae’r rhan fwyaf o ddulliau effeithiol yn cynnwys ymyriadau grŵp bach neu un i un wedi’u targedu. Mae effaith mewn grwpiau bach yn tueddu i fod ychydig yn is (+3 mis), ond mae angen gwrthbwyso hyn yn erbyn y nifer fwy o ddisgyblion sy’n elwa.

  • Sesiynau byr o tua 30 munud, sawl gwaith yr wythnos sydd fwyaf effeithiol.

  • Gall dulliau sy’n cynnwys technoleg ddigidol hefyd fod yn effeithiol gyda chymorth cynorthwyydd addysgu.

Dylai ysgolion ystyried yn ofalus sut mae cynorthwywyr addysgu yn cael eu defnyddio i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae tystiolaeth y gallai’r athro ryngweithio llai gyda’r disgyblion hyn pan ddefnyddir cynorthwyydd addysgu i gefnogi disgyblion penodol yn rheolaidd yn yr ystafell ddosbarth, sy’n golygu efallai na fydd y rhai sydd angen monitro a chymorth ychwanegol athrawon yn derbyn hynny. Felly, dylid rhoi sylw ychwanegol i sut mae athrawon yn ymateb i’r defnydd o gynorthwywyr addysgu a phwy maent yn eu cefnogi, yn enwedig ar gyfer disgyblion difreintiedig neu isel eu cyrhaeddiad yn flaenorol.

Fodd bynnag, gellir targedu ymyriadau cynorthwywyr addysgu y mae tystiolaeth dda ar eu cyfer at ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol. Gall yr ymyriadau hyn helpu disgyblion a oedd gynt yn isel eu cyrhaeddiad i oresgyn rhwystrau i ddysgu a dal i fyny’ gyda disgyblion a oedd gynt yn uwch eu cyrhaeddiad.

Dylai ysgolion fonitro ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn ofalus i sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno’n dda fel bod disgyblion yn derbyn manteision sylweddol ymyriadau strwythuredig ac nid yr effaith gyfyngedig a geir yn sgil y defnydd cyffredinol a wneir o gynorthwywyr addysgu.

Mae ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn cael effaith drwy ddarparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion sydd wedi’i dargedu at eu hanghenion. Er mwyn cael yr effaith a ddymunir gallai ysgolion ystyried:

  • Asesiad gofalus o anghenion disgyblion fel bod cymorth cynorthwywyr addysgu yn cael ei dargedu’n dda
  • Hyfforddi cynorthwywyr addysgu er mwyn sicrhau rhyngweithiadau o ansawdd uchel – er enghraifft, defnyddio rhaglenni wedi’u targedu’n dda
  • Sicrhau bod unrhyw ymyriadau wedi’u cysylltu’n dda â chynnwys ystafell ddosbarth ac nad ydynt yn lleihau rhyngweithio o ansawdd uchel ag athrawon

Mae cyfathrebu o ansawdd uchel rhwng cynorthwywyr addysgu ac athrawon ystafell ddosbarth yn debygol o gefnogi gweithredu ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn dda. Ni chynhwyswyd astudiaethau lle neilltuwyd y cynorthwyydd addysgu fel cefnogaeth anghenion addysgol arbennig ac anabledd (SEND) ar gyfer disgybl unigol fel rhan o gynllun SEND.

Fel arfer, cyflwynir ymyriadau cynorthwywyr addysgu dros gyfnodau o hanner tymor neu dymor wrth fabwysiadu ymyriad neu ddull wedi’i dargedu, neu ar draws y flwyddyn academaidd gyfan pan fyddant yn cael eu defnyddio’n fwy cyffredinol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn gymedrol. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â defnyddio cynorthwywyr addysgu yn effeithiol yn codi o gostau cyflog staff, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cylchol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer defnyddio ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn effeithiol yn gymedrol, mae gwahaniaethau mewn costau hyfforddi ac adnoddau trwy raglenni neu ymyriadau penodol a addysgir gan gynorthwywyr addysgu yn golygu y gall costau amrywio o isel iawn i uchel. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod y dulliau mwy effeithiol yn rhai strwythuredig ac yn cynnwys cefnogaeth a hyfforddiant o ansawdd uchel. Felly mae’n bwysig bod cynorthwywyr addysgu yn cael datblygiad proffesiynol ym maes addysgeg a chynnwys yr ymyriad penodol y disgwylir iddynt ei ddefnyddio.

Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod ysgolion eisoes yn talu am amser athrawon i weithio gyda chynorthwywyr addysgu a’u cefnogi, a’r cyfleusterau a’r deunyddiau sydd eu hangen i weithredu ymyriadau gan gynorthwywyr addysgu. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o ddefnyddio ymyriadau cynorthwywyr addysgu, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymyriadau cynorthwywyr addysgu yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 65 o astudiaethau.

Yn gyffredinol, collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar yr effaith gyffredinol.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau65
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMehefin 2021