Gellir diffinio sgiliau hunanreoleiddiol fel gallu plant i reoli eu hymddygiad eu hunain ac agweddau ar eu dysgu. Yn y blynyddoedd cynnar, mae ymdrechion i ddatblygu hunanreoleiddio yn aml yn ceisio gwella lefelau hunanreolaeth a lleihau byrbwyllder. Mae’r sgiliau hyn hefyd weithiau’n cael eu disgrifio fel sgiliau swyddogaeth weithredol.
Mae gweithgareddau fel arfer yn cynnwys cefnogi plant i fynegi eu cynlluniau a’u strategaethau dysgu ac adolygu’r hyn maen nhw wedi’i wneud. Mae nifer o ddulliau yn defnyddio straeon neu gymeriadau i helpu plant i gofio gwahanol strategaethau dysgu. Yn aml mae’n haws arsylwi galluoedd hunanreoleiddio cyfredol plant pan fyddant yn chwarae neu’n rhyngweithio â chyfoed. Gall strategaethau hunanreoleiddio orgyffwrdd â strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol ac ymyriadau ymddygiad.
Mae’r crynodeb tystiolaeth hwn yn canolbwyntio ar effaith hunanreoleiddio ar ddeilliannau gwybyddol. Fodd bynnag, mae hunanreoleiddio yn bwysig ar gyfer deilliannau eraill fel hunanofal ac ymddygiad.
Mae strategaethau hunanreoleiddio yn cael effaith gadarnhaol (+ tri mis), ar gyfartaledd, a gallant fod yn ddull cost-effeithiol ar gyfer gwella cyrhaeddiad.
Mae helpu plant ifanc i siarad a meddwl am eu gweithredoedd a’u hymddygiad eu hunain yn debygol o’u helpu nid yn unig gyda’u dysgu a’u rhyngweithio cymdeithasol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ond gall gael effaith gadarnhaol barhaol ar ddysgu diweddarach yn yr ysgol.
Mae dulliau llwyddiannus yn cynnwys rhaglenni strwythuredig yn ogystal â dulliau mwy cyffredinol o ddatblygu sgiliau hunanreoleiddio.
Mae staff yn debygol o elwa o hyfforddiant neu ddatblygiad proffesiynol i ddefnyddio rhaglenni a dulliau gweithredu’n llwyddiannus.
Mae datblygiad hunanreoleiddio a swyddogaeth weithredol yn gysylltiedig yn gyson â dysgu llwyddiannus, gan gynnwys sgiliau cyn darllen, mathemateg gynnar a datrys problemau. Mae strategaethau sy’n ceisio gwella dysgu trwy gynyddu hunanreoleiddio yn cael effaith gyfartalog o dri mis o gynnydd ychwanegol. Fodd bynnag, mae hyn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn yn y blynyddoedd cynnar. Nifer fach o astudiaethau sydd wedi asesu effaith addysgol (e.e. ar lythrennedd neu rifedd cynnar) dulliau gweithredu a oedd yn ceisio gwella hunanreoleiddio.
Mae nifer o astudiaethau’n awgrymu bod gwella sgiliau hunanreoleiddio plant yn y blynyddoedd cynnar yn debygol o gael effaith gadarnhaol barhaol ar ddysgu diweddarach yn yr ysgol, a hefyd effaith gadarnhaol ar ddeilliannau ehangach fel ymddygiad a dyfalbarhad.
Mae’r astudiaethau a gynhaliwyd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, a thystiolaeth bresennol o grwpiau oedran hŷn, yn awgrymu bod dulliau addawol yn debygol o gydbwyso cyfarwyddyd penodol â darparu cyfleoedd wedi’u sgaffaldu i blant ymarfer sgiliau newydd. Er enghraifft, efallai y bydd ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn siarad â phlant am sut i ddilyn dull “Cynllunio, Gwneud, Adolygu” ar gyfer gweithgaredd adeiladu syml.
Fodd bynnag, mae’r nifer fach o astudiaethau’n golygu bod angen mwy o werthuso i nodi rhaglenni neu gwricwla penodol sy’n cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau academaidd trwy wella hunanreoleiddio i blant ifanc.
Er bod yr adolygiad tystiolaeth hwn yn canolbwyntio ar strategaethau hunanreoleiddio sy’n ceisio gwella deilliannau gwybyddol, ceir sylfaen dystiolaeth ehangach ar strategaethau hunanreoleiddio sy’n mesur hunanreoleiddio fel deilliant. Mae’r astudiaethau hyn fel arfer yn cael effaith uwch oherwydd agosrwydd yr ymyriad i’r deilliant.
Fel arfer, gall crynodeb tystiolaeth y Pecyn Cymorth archwilio a yw rhai nodweddion ymyrryd neu gyd-destunau yn gysylltiedig ag effeithiau uwch neu is. Mae nifer fach yr astudiaethau yn y maes pwnc hwn yn golygu nad yw’n bosibl gwneud y dadansoddiad hwn yn ddibynadwy.
Cynhaliwyd astudiaethau mewn ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd. Ceir effeithiau cadarnhaol yn y ddau leoliad a rhywfaint o dystiolaeth bod astudiaethau mewn ysgolion meithrin yn fwy effeithiol (+ pum mis) na’r rhai mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd (+ dau fis), er bod nifer fach yr astudiaethau’n ei gwneud hi’n anodd dweud a yw’r gwahaniaeth hwn yn ystyrlon.
Mae strategaethau hunanreoleiddio yn dangos effaith gadarnhaol ar draws cwricwlwm y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd cynnar.
Mae rhai arwyddion bod plant o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o ddechrau addysg blynyddoedd cynnar gyda sgiliau hunanreoleiddio gwannach na’u cyfoedion mwy cefnog. O ganlyniad, mae ymgorffori strategaethau hunanreoleiddio i addysgu blynyddoedd cynnar yn debygol o fod yn arbennig o fuddiol i blant o gefndiroedd difreintiedig.
Mae gan strategaethau hunanreoleiddio botensial i gefnogi datblygiad a dysgu plant ifanc, ond efallai y bydd angen eu gweithredu’n ofalus. Gallai rhai cydrannau allweddol ar gyfer strategaethau llwyddiannus gynnwys:
- Asesu galluoedd cyfredol plant wrth reoli eu hymddygiad eu hunain, er enghraifft pan fyddant yn chwarae neu’n rhyngweithio â’u cyfoedion.
- Cydbwyso addysgu penodol â chyfleoedd wedi’u sgaffaldu i blant ymarfer ac archwilio sgiliau newydd.
- Monitro effaith datblygu strategaethau hunanreoleiddio plant.
Er mwyn sicrhau bod dulliau gweithredu’n effeithiol, mae’n bwysig neilltuo amser ar gyfer datblygiad proffesiynol cyn rhoi strategaethau newydd ar waith.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu strategaethau hunanreoleiddio yn isel iawn. Mae’r costau’n deillio’n bennaf o hyfforddiant datblygiad proffesiynol i staff, sydd fel arfer yn gost gychwynnol ar gyfer ymgorffori’r dull gweithredu ar draws lleoliad. Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer strategaethau hunanreoleiddio yn isel iawn, mae’r ystod o ran cost hyfforddiant datblygiad proffesiynol, a’r opsiwn i brynu deunyddiau ychwanegol a darparu hyfforddiant a chymorth parhaus, yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i isel.
Mae’r amcangyfrifon cost hyn yn tybio bod lleoliadau eisoes yn talu am gyflogau staff, deunyddiau ac offer ar gyfer addysgu, a chyfleusterau. Mae’r rhain i gyd yn gostau rhagangenrheidiol o weithredu strategaethau hunanreoleiddio, a hebddynt mae’r gost yn debygol o fod yn uwch.
Bydd gweithredu strategaethau hunanreoleiddio hefyd yn gofyn am ychydig o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill, gan fod angen i staff ddatblygu eu dealltwriaeth eu hunain o brosesau hunanreoleiddiol i fodelu’r defnydd effeithiol o’r strategaethau a’r sgiliau hyn i ddisgyblion.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch strategaethau hunanreoleiddio yn y blynyddoedd cynnar yn cael ei ystyried yn isel iawn. Dim ond 15 astudiaeth a nodwyd a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer Pecyn Cymorth y Blynyddoedd Cynnar. Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.
Er mai cymharol ychydig o astudiaethau sydd ar gael, mae’r effeithiau’n gymharol gyson ac mae llai o amrywiad anesboniadwy rhwng y canlyniadau a gynhwysir yn y pwnc na gyda meysydd pwnc eraill y Pecyn Cymorth.
Ar y cyfan, mae hunanreoleiddio yn faes addawol, ond yn un a fyddai’n elwa o werthuso mwy trylwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar i nodi sut i sicrhau budd i ddysgu plant ifanc.
Nid yw dibynadwyedd isel tystiolaeth yn golygu’r un fath â thystiolaeth o ddim effaith. Efallai bod gan lawer o ddulliau dystiolaeth isel, nid oherwydd eu bod yn aneffeithiol ond oherwydd nad yw ymchwil o ansawdd uchel wedi digwydd eto.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.