Mae strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol (SEL) yn ceisio gwella dysgu a datblygiad plant ehangach trwy wella sgiliau cymdeithasol ac emosiynol plant. Gellir eu cyferbynnu â dulliau sy’n canolbwyntio’n benodol ar ddimensiynau academaidd neu wybyddol dysgu. Gallai strategaethau SEL geisio gwella’r ffyrdd y mae plant yn rhyngweithio â’u cyfoedion, eu rhieni neu oedolion eraill ac maent yn aml yn gysylltiedig â strategaethau hunanreoleiddio ac ymyriadau ymddygiadol.
Mae dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn cael effaith gadarnhaol, ar gyfartaledd, o gynnydd ychwanegol o dri mis mewn deilliannau academaidd dros flwyddyn. Fodd bynnag, mae gan y canfyddiad hwn sicrwydd isel iawn, felly dylai lleoliadau fod yn arbennig o ofalus i fonitro effeithiolrwydd dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn eu lleoliadau.
Gall strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol gael effaith gadarnhaol ar agweddau ar lythrennedd a rhifedd cynnar.
Mae’r astudiaethau yn y Pecyn Cymorth yn canolbwyntio’n bennaf ar ddeilliannau academaidd, ond mae’n bwysig ystyried manteision eraill ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Bydd gallu rheoli emosiynau a rhyngweithio ag eraill yn effeithiol o fudd i blant hyd yn oed os nad yw’n trosi’n uniongyrchol i sgoriau darllen neu fathemateg.
Mae tystiolaeth y gall strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol fod yn effeithiol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar mewn ysgolion cynradd a meithrinfeydd.
Ar gyfartaledd, mae plant sy’n cymryd rhan mewn ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn gwneud tua thri mis ychwanegol o gynnydd mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a dosbarthiadau derbyn. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol gael effaith gadarnhaol ar ryngweithiadau cymdeithasol plant ifanc, agweddau at ddysgu, ac ar agweddau ar ddysgu cynnar ar draws y cwricwlwm. Fodd bynnag, er bod strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol bron bob amser yn gwella deilliannau emosiynol neu ddeilliannau o ran agweddau, nid yw pob ymyriad yr un mor effeithiol wrth wella deilliannau llythrennedd a rhifedd. Mae angen mwy o ymchwil i nodi’n union pa ymyriadau sy’n effeithiol wrth wella’r deilliannau academaidd hyn, a pham eu bod yn gweithio.
Fel arfer, gall crynodeb tystiolaeth y Pecyn Cymorth archwilio a yw rhai nodweddion ymyrryd neu gyd-destunau yn gysylltiedig ag effeithiau uwch neu is. Mae nifer fach yr astudiaethau yn y maes pwnc hwn yn golygu nad yw’n bosibl gwneud y dadansoddiad hwn yn ddibynadwy.
Ceir tystiolaeth o effaith gadarnhaol gan ysgolion cynradd (+ dau fis) a lleoliadau meithrin (+ tri mis). Mae nifer fach yr astudiaethau’n golygu ei bod yn anodd canfod a yw’r gwahaniaeth bach mewn effaith yn ystyrlon.
Roedd yr holl astudiaethau a nodwyd yn yr adolygiad yn archwilio dulliau cyffredinol yn hytrach na dulliau wedi’u targedu at ddysgu cymdeithasol ac emosiynol. Mae tystiolaeth o grwpiau oedran hŷn yn dangos y gall cyfuniad o ddulliau cyffredinol a rhai wedi’u targedu gael effeithiau cadarnhaol ar ddeilliannau.
Cynhaliwyd y rhan fwyaf o astudiaethau yn UDA, gyda dim ond ychydig o astudiaethau mewn gwledydd eraill.
Ar gyfartaledd, mae pob plentyn yn elwa, ond mae yna hefyd rywfaint o dystiolaeth y gall dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol fod yn fwy buddiol i blant difreintiedig na’u cyfoedion.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gan blant o gefndiroedd difreintiedig, ar gyfartaledd, sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol gwannach ar bob oedran na’u cyfoedion mwy cefnog. Mae’r sgiliau hyn yn debygol o ddylanwadu ar ystod o ddeilliannau i ddisgyblion: mae sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol is yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwaeth a chyrhaeddiad academaidd is.
Dangosir bod ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn addysg yn gwella sgiliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol ac felly maent yn debygol o gefnogi disgyblion difreintiedig i ddeall a meithrin perthnasoedd iach â chyfoedion a hunanreoleiddio eu hemosiynau. Gall hynny wedyn gynyddu cyrhaeddiad academaidd.
Mae dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn rhan bwysig o ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol, ac mae’n cynnwys gwella hunanhyder a hunanymwybyddiaeth, rheoli teimladau ac ymddygiad, a meithrin a rheoli perthnasoedd. Dylai lleoliadau ystyried yn ofalus y deilliannau y maent yn ceisio eu gwella wrth weithredu strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Gallai rhai ystyriaethau allweddol gynnwys:
- Sut i sicrhau bod y cyfleoedd datblygu proffesiynol cywir ar waith i gefnogi cyflwyno strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol, ac egluro eu gwerth i staff.
- Sut fyddwch chi’n ymgorffori strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn arferion bob dydd, yn hytrach na thrin dysgu cymdeithasol ac emosiynol fel maes ffocws penodol.
Roedd bron pob un o’r astudiaethau’n cynnwys datblygiad proffesiynol neu hyfforddiant i staff a gallai hyn fod yn agwedd arbennig o bwysig ar yr effaith gadarnhaol a ddisgrifir yn y crynodeb tystiolaeth hwn.
Mae’r Storfa Dystiolaeth Blynyddoedd Cynnar yn cynnig rhai syniadau ychwanegol ar sut y gellid gweithredu strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol mewn gwahanol gyd-destunau, ynghyd ag enghreifftiau ac arferion o ddulliau PSED.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai lleoliadau ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn y Blynyddoedd Cynnar yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag ymyriadau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn deillio o hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i staff, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cychwynnol.
Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn isel iawn, mae’r opsiwn i brynu llyfrau, adnoddau a deunyddiau ychwanegol, a chostau hyfforddi a chefnogi staff dros amser yn golygu y gall y costau amrywio o isel iawn i gymedrol. Er nad oedd yr un o’r astudiaethau a nodwyd yn yr adolygiad hwn yn archwilio dulliau wedi’u targedu, rydym yn gwybod bod y rhain yn ddrutach. Gall dulliau dwys sy’n cynnwys cwnsela proffesiynol gostio cymaint â £2800 y plentyn y flwyddyn.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch Dysgu Cymdeithasol ac Emosiynol yn cael ei ystyried yn isel iawn. Nodwyd 19 astudiaeth a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Mae nifer isel yr astudiaethau’n golygu nad yw’n bosibl archwilio yn systematig sut mae gwahanol nodweddion yr astudiaethau yn gysylltiedig â gwahanol effeithiau. Fodd bynnag, prin yw’r amrywiad anesboniadwy yn gyffredinol, a allai gefnogi ein hyder yn yr effaith gyffredinol gyfartalog.
Roedd bygythiad ychwanegol i ddibynadwyedd y dystiolaeth gan na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.
Her arall o amgylch y sylfaen dystiolaeth hon yw bod dulliau dysgu cymdeithasol ac emosiynol yn aml yn rhan o ymyriadau sy’n cyfuno sawl dull; pan gyfunir dulliau, nid yw’n bosibl sefydlu pa rai o’r dulliau dan sylw sy’n arwain at ddeilliannau gwell i blant.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.