View yn Cymraeg

:Ymyriadau dyhead

Ymyriadau dyhead

Effaith aneglur am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth annigonol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
-

Drwy ddyheadau rydym yn golygu’r pethau y mae plant a phobl ifanc yn gobeithio eu cyflawni drostynt eu hunain yn y dyfodol. Er mwyn cyflawni eu dyheadau am yrfaoedd, prifysgol ac addysg bellach, mae angen deilliannau addysgol da yn aml ar ddisgyblion. Felly, credir yn aml bod codi dyheadau yn cymell gwell cyrhaeddiad.

Mae ymyriadau dyhead yn tueddu i ddisgyn i mewn i dri chategori eang:

  1. ymyriadau sy’n canolbwyntio ar rieni a theuluoedd;
  2. ymyriadau sy’n canolbwyntio ar arferion addysgu; a
  3. ymyriadau y tu allan i’r ysgol neu weithgareddau allgyrsiol, weithiau yn cynnwys cyfoedion neu fentoriaid.

Mae’r dulliau a ddefnyddir yn yr ymyriadau hyn yn amrywiol. Nod rhai dulliau yw newid dyheadau yn uniongyrchol trwy gyflwyno plant i gyfleoedd newydd ac mae eraill yn anelu at godi dyheadau trwy ddatblygu hunan-barch, cymhelliant neu hunaneffeithiolrwydd cyffredinol. Ar gyfer ymyriadau sy’n canolbwyntio ar hunaneffeithiolrwydd a chymhelliant yn benodol mewn cyd-destun dysgu (er enghraifft, ymyriadau meddylfryd twf) gweler Metawybyddiaeth a hunanreoleiddio.

1. Mae’r sylfaen dystiolaeth bresennol ar ymyriadau dyhead yn hynod wan. Mae’r diffyg astudiaethau a nodwyd yn golygu nad yw effaith mewn misoedd yn cael ei chyfleu. Dylai ysgolion fonitro’n ofalus effaith unrhyw ymyriadau neu ddulliau ar gyrhaeddiad.

2. Mae’r dystiolaeth ehangach bresennol yn awgrymu nad yw’r berthynas rhwng dyheadau a chyrhaeddiad yn syml. Yn gyffredinol, nid yw dulliau codi dyheadau wedi arwain at fwy o ddysgu. Mae gan ddulliau sy’n gysylltiedig â chynnydd mewn cyrhaeddiad elfen academaidd sylweddol bron bob amser, sy’n awgrymu na fydd codi dyheadau ar ei ben ei hun yn effeithiol.

3. Mae gan y rhan fwyaf o bobl ifanc ddyheadau uchel drostynt eu hunain. Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr y wybodaeth a’r sgiliau i symud ymlaen tuag at eu dyheadau yn debygol o fod yn fwy effeithiol nag ymyrryd i newid y dyheadau eu hunain.

4. Mae’r agweddau, y credoau a’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â dyheadau mewn cymunedau difreintiedig yn amrywiol, felly dylid osgoi cyffredinoli.

Mae’r diffyg astudiaethau sy’n profi ymyriadau dyhead yn golygu nad oes digon o sicrwydd i gyfleu ffigur cynnydd mewn misoedd.

Mae’n bwysig cydnabod bod tystiolaeth ehangach yn dangos bod y berthynas rhwng dyheadau a chyrhaeddiad yn gymhleth, ac mae llawer o resymau pam y gall ymyriadau dyhead effeithio ar gyrhaeddiad neu beidio.

Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod gan y rhan fwyaf o bobl ifanc ddyheadaau uchel eisoes. Mae hyn yn awgrymu bod llawer o dangyflawni yn deillio nid o ddyheadau isel ond o fwlch rhwng dyheadau a’r wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion sydd eu hangen i’w cyflawni. Lle mae gan ddisgyblion ddyheadau is, nid yw’n glir a yw ymyriadau wedi’u targedu wedi llwyddo’n gyson i godi eu dyheadau. Hefyd, lle mae dyheadau’n dechrau’n isel ac yn cael eu codi’n llwyddiannus gan ymyriad, nid yw’n glir bod gwelliant mewn dysgu o reidrwydd yn dilyn.

Er bod disgyblion sy’n gymwys ar gyfer y premiwm disgybl yn debygol o fod â chyrhaeddiad academaidd is o’i gymharu â’u cyfoedion mwy breintiedig, mae’r rhagdybiaeth bod gan ddisgyblion tlotach ddyheadau is am eu haddysg a’u bywyd fel oedolion yn llai eglur.

Mae astudiaethau yn Lloegr yn awgrymu bod gan wahanol grwpiau economaidd-gymdeithasol lefelau tebyg o ddyhead ar gyfer eu deilliannau yn y dyfodol a bod gwahaniaethau mewn cyfraddau cyfranogiad mewn addysg uwch yn cael eu gyrru i raddau helaeth gan gyrhaeddiad academaidd. O ystyried yr ystod eang o agweddau, ymddygiadau a chredoau sy’n ymwneud â dyheadau mewn cymunedau â chyfraddau tlodi uwch, dylai ysgolion osgoi cyffredinoli.

Mae ymyriadau dyhead heb gydran academaidd yn annhebygol o leihau’r bwlch cyrhaeddiad difreintiedig. Mae disgwyliadau athrawon yn chwarae rhan wrth ddylanwadu ar ddeilliannau disgyblion a dylai athrawon anelu at gyfleu cred ym mhotensial academaidd pob disgybl.

Mae dulliau hybu dyhead yn amrywiol a gallant ganolbwyntio ar rieni a theuluoedd, arferion addysgu neu ymyriadau y tu allan i’r ysgol neu weithgareddau allgyrsiol sy’n cynnwys cyfoedion neu fentoriaid. Wrth weithredu ymyriadau dyhead, gallai ysgolion ystyried cynnwys:

  • Arweiniad ar y wybodaeth, y sgiliau a’r nodweddion sydd eu hangen i gyflawni nodau yn y dyfodol.
  • Gweithgareddau i gefnogi disgyblion i ddatblygu hunan-barch, cymhelliant ar gyfer dysgu neu hunaneffeithiolrwydd.
  • Cyfleoedd i ddisgyblion ddod ar draws profiadau a lleoliadau newydd.
  • Cymorth academaidd ychwanegol.

O ystyried y sylfaen dystiolaeth gyfyngedig, mae’n arbennig o bwysig monitro’r effeithiau lle defnyddir dulliau hybu dyhead fel dull o wella cyrhaeddiad.

Mae ymyriadau dyhead yn amrywio o ran hyd a gallant gynnwys dulliau o fewn y dosbarth a ddarperir gan athrawon, clybiau ar ôl ysgol, rhaglenni y tu allan i’r ysgol, neu fentora dan arweiniad staff cyflogedig neu wirfoddolwyr. Fel arfer, cyflwynir mentora ac ymyriadau rhieni dros gyfnod estynedig o amser (o leiaf hyd blwyddyn academaidd yn aml) er mwyn meithrin perthnasoedd effeithiol.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae’r costau’n amrywio’n fawr ac yn anodd eu hamcangyfrif yn fanwl gywir. Yn gyffredinol, amcangyfrifir eu bod yn amrywio rhwng isel iawn a chymedrol yn dibynnu ar y dull. Mae clybiau ar ôl ysgol fel arfer yn costio tua £5 i £10 y sesiwn, felly gallai rhaglen wythnosol sy’n para 20 wythnos gostio hyd at £200 y disgybl. Amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu rhaglenni ymgysylltu â rhieni yn isel iawn i gymedrol, gyda chostau mwy lle mae ysgolion yn talu costau staffio ychwanegol.

Amcangyfrifir bod cost ganolrifol ymyrraeth fentora yn gymedrol. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant mentoriaid, costau cyflog (ar gyfer mentoriaid nad ydynt yn wirfoddolwyr) ac adnoddau. Mae rhai rhaglenni hefyd yn cynnwys hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i fentoriaid a allai gynyddu costau.

Ochr yn ochr ag amser a chostau, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar effeithiolrwydd dulliau drwy gynnwys elfen academaidd sylweddol ac osgoi dulliau sy’n anelu at godi dyheadau ar eu pen eu hunain gan nad yw hynny o bosibl yn effeithiol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymyriadau dyhead yn cael ei ystyried yn isel iawn. Ar gyfer pynciau â thystiolaeth isel iawn, ni chaiff ffigur cynnydd mewn misoedd ei arddangos. Dim ond 3 astudiaeth a nodwyd a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant a bennwyd ymlaen llaw.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau3
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021