Mae adborth yn wybodaeth a roddir i’r dysgwr am berfformiad y dysgwr mewn perthynas â nodau neu ddeilliannau dysgu. Dylai anelu at (a gallu cynhyrchu) gwelliant yn nysgu myfyrwyr.
Mae adborth yn ailgyfeirio neu’n ailffocysu gweithredoedd y dysgwr i gyflawni nod, trwy alinio ymdrech a gweithgaredd gyda deilliant. Gall ymwneud ag allbwn neu ddeilliant y dasg, proses y dasg, rheolaeth y myfyriwr o’i ddysgu neu ei hunanreoleiddio, neu gall ymwneud â’r myfyrwyr fel unigolion (sy’n tueddu i fod y dull lleiaf effeithiol).
Gall yr adborth hwn fod ar lafar neu’n ysgrifenedig neu gellir ei roi trwy brofion neu drwy dechnoleg ddigidol. Gall ddod gan athro neu rywun sy’n ymgymryd â rôl addysgu, neu gan gyfoedion (gweler Tiwtora cyfoedion).
1. Mae llawer o dystiolaeth dda ynghylch darparu adborth ac mae’n cael effaith sylweddol ar ddeilliannau dysgu. Mae adborth effeithiol yn tueddu i ganolbwyntio ar y dasg, y pwnc a strategaethau hunanreoleiddio: mae’n darparu gwybodaeth benodol ar sut i wella.
2. Gall adborth fod yn effeithiol yn ystod dysgu, yn syth ar ôl dysgu a pheth amser ar ôl dysgu. Ni ddylai polisïau adborth or-fanylu ynghylch amlder yr adborth.
3. Gall adborth ddod o amrywiaeth o ffynonellau – mae astudiaethau wedi dangos effeithiau cadarnhaol adborth gan athrawon a chyfoedion. Mae adborth a ddarperir gan dechnoleg ddigidol hefyd yn cael effeithiau cadarnhaol (er ychydig yn is na’r cyfartaledd cyffredinol).
4. Gall dulliau gwahanol o ddarparu adborth fod yn effeithiol ac ni ddylid cyfyngu adborth yn unig i farcio ysgrifenedig. Mae astudiaethau adborth llafar yn dangos effeithiau ychydig yn uwch yn gyffredinol (+7 mis). Efallai y bydd marcio ysgrifenedig yn chwarae un rhan o strategaeth adborth effeithiol – ond mae’n hanfodol monitro effeithiau ar lwyth gwaith staff.
5. Mae’n bwysig rhoi adborth pan fydd pethau’n gywir – nid dim ond pan maen nhw’n anghywir. Gall adborth o ansawdd uchel ganolbwyntio ar dasg, pwnc a strategaethau hunanreoleiddio.
Mae astudiaethau adborth yn tueddu i ddangos effeithiau sylweddol ar ddysgu. Fodd bynnag, mae ystod eang o effeithiau ac mae rhai astudiaethau’n dangos y gall adborth gael effeithiau negyddol a gwneud pethau’n waeth.
Mae yna effeithiau cadarnhaol o ystod eang o ddulliau adborth – gan gynnwys pan fydd adborth yn cael ei ddarparu gan dechnoleg neu gyfoedion. Mae’r effeithiau ar eu gorau pan fydd yr adborth yn cael ei ddarparu gan athrawon. Mae’n arbennig o bwysig darparu adborth pan fydd y gwaith yn gywir, yn hytrach na’i ddefnyddio i nodi gwallau yn unig.
Mae llawer o astudiaethau adborth hefyd yn cynnwys arferion eraill. Er enghraifft, mae dulliau dysgu meistrolaeth yn cyfuno adborth â chefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sydd ar ei hôl hi, tra bod dulliau fel asesu ffurfiannol hefyd yn cynnwys gwaith i ddeall bylchau penodol mewn dysgu y mae angen mynd i’r afael â nhw a sut mae’r athro am i’r disgybl symud ymlaen.
Mae adborth yn cael effaith ar bob grŵp oedran. Mae ymchwil mewn ysgolion wedi canolbwyntio’n benodol ar ei effaith ar Saesneg, mathemateg ac, i raddau llai, gwyddoniaeth.
Gall ymgorffori asesiad ffurfiannol yn benodol fod yn elfen allweddol o osod y sylfeini ar gyfer adborth effeithiol. Mae’r EEF wedi treialu ‘Ymwreiddio Asesu Ffurfiannol’ mewn ysgolion yn Lloegr ac wedi canfod effaith gadarnhaol, ar gyfartaledd.
Mae’n ymddangos bod adborth yn cael ychydig mwy o effeithiau ar ddisgyblion oed ysgol gynradd (+7 mis) na disgyblion ysgolion uwchradd (+5 mis).
Mae’r effeithiau’n uchel ar draws holl bynciau’r cwricwlwm, gydag effeithiau ychydig yn uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth.
Mae disgyblion isel eu cyrhaeddiad yn tueddu i elwa mwy o adborth penodol na disgyblion uchel eu cyrhaeddiad.
Er bod rhai astudiaethau wedi dangos manteision adborth digidol yn llwyddiannus, mae’r effeithiau fel arfer ychydig yn llai (+4 mis).
Mae tystiolaeth i awgrymu y gallai adborth sy’n cynnwys dulliau metawybyddol a hunanreoleiddiol gael mwy o effaith ar ddisgyblion difreintiedig a disgyblion â chyrhaeddiad is yn flaenorol na disgyblion eraill. Mae angen adborth clir y gellir gweithredu arno ar ddisgyblion i ddefnyddio strategaethau metawybyddol wrth iddynt ddysgu, gan fod y wybodaeth hon yn llywio eu dealltwriaeth o’u cryfderau penodol a meysydd i’w gwella, a thrwy hynny nodi pa strategaethau dysgu sydd wedi bod yn effeithiol iddynt mewn gwaith a gwblhawyd yn flaenorol.
Gall adborth gael effaith gadarnhaol drwy gefnogi disgyblion i ganolbwyntio dysgu yn y dyfodol ar feysydd gwan, trwy nodi ac egluro camsyniadau, trwy eu cefnogi i gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gwelliant eu hunain neu drwy gynyddu cymhelliant disgyblion i wella.
Bydd rhoi adborth yn llwyddiannus yn gofyn am y canlynol:
- cyfathrebu â disgyblion, athrawon a rhieni, am arferion a disgwyliadau sy’n ymwneud â pholisïau adborth,
- asesu dealltwriaeth disgyblion, fel eich bod yn gwybod beth sydd angen ei wella,
- ystyried y ‘gost cyfle’ sy’n gysylltiedig â gwahanol arferion adborth,
- sicrhau y gellir gweithredu ar adborth, er enghraifft drwy gynnwys gwybodaeth benodol am yr hyn y mae disgybl wedi’i wneud yn llwyddiannus ai peidio, gydag esboniad i ategu hynny,
- ystyried yn ofalus sut y bydd adborth yn cael ei dderbyn, gan gynnwys effeithiau ar hunanhyder a chymhelliant,
- darparu cyfleoedd i ddisgyblion weithredu ar yr adborth ar ôl ei roi,
- gwerthuso pa mor effeithiol fu’r adborth.
Mae ymyriadau adborth yn amrywio o ran hyd. Mae rhai yn gweithredu fel dulliau byr, wedi’u targedu sy’n mynd i’r afael â chamsyniadau disgyblion o fewn wythnosau neu ddyddiau hyd yn oed. Defnyddir eraill fel dulliau mwy estynedig o olrhain a chefnogi cynnydd disgyblion dros fisoedd lawer.
Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.
Mae cost gyfartalog adborth ac ymyriadau adborth yn isel iawn. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar hyfforddiant.
Bydd gweithredu adborth ac ymyriadau adborth hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol a pharhaus o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill.
Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i gynyddu datblygiad proffesiynol athrawon i’w cefnogi i ddarparu adborth effeithiol ac osgoi dulliau sy’n cynyddu llwyth gwaith athrawon heb roi’r wybodaeth angenrheidiol i ddisgyblion wella perfformiad.
Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch adborth yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 155 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc un clo clap oherwydd nad yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.
Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.
Guidance Reports
Teacher Feedback to Improve Pupil Learning
Guidance Reports