View yn Cymraeg

:Tiwtora grŵp bach

Tiwtora grŵp bach

Effaith gymedrol am gost isel yn seiliedig ar dystiolaeth gymedrol
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Diffinnir tiwtora grŵp bach fel un athro, cynorthwyydd addysgu hyfforddedig neu diwtor yn gweithio gyda dau i bump o ddisgyblion gyda’i gilydd mewn grŵp. Mae’r trefniant hwn yn galluogi’r addysgu i ganolbwyntio’n llwyr ar nifer fach o ddysgwyr, fel arfer mewn ystafell ddosbarth neu ardal waith ar wahân. Darperir tiwtora dwys mewn grwpiau bach yn aml i gefnogi dysgwyr is eu cyrhaeddiad neu’r rhai sy’n syrthio ar ei hôl hi, ond gellir ei defnyddio hefyd fel strategaeth fwy cyffredinol i sicrhau cynnydd effeithiol, neu i addysgu pynciau neu sgiliau heriol.

1. Mae tiwtora grŵp bach yn cael effaith ar gyfartaledd o gynnydd ychwanegol o bedwar mis dros gyfnod o flwyddyn.

2. Mae tiwtora grŵp bach fwyaf tebygol o fod yn effeithiol os caiff ei dargedu at anghenion penodol disgyblion. Gellir defnyddio asesiad diagnostig i asesu’r ffordd orau o dargedu’r cymorth.

3. Mae tiwtora un i un a thiwtora grŵp bach yn ymyriadau effeithiol. Fodd bynnag, mae cost effeithiolrwydd addysgu mewn grwpiau bach yn dangos y gallai mwy o ddefnydd o’r dull hwn fod yn werth chweil.

4. Mae darparu hyfforddiant i’r staff sy’n darparu cymorth grŵp bach yn debygol o gynyddu effaith.

5. Gellir targedu cymorth grŵp bach ychwanegol yn effeithiol at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, a dylid ei ystyried fel rhan o strategaeth premiwm disgybl ysgolion.

Effaith gyfartalog tiwtora grŵp bach yw cynnydd o bedwar mis ychwanegol, ar gyfartaledd, dros gyfnod o flwyddyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod tiwtora grŵp bach yn effeithiol ac, fel rheol, gorau po leiaf yw’r grŵp. 


Mae rhai astudiaethau’n awgrymu bod mwy o adborth gan yr athro, mwy o ymgysylltiad mewn grwpiau llai, neu waith sy’n cyd-fynd yn agosach ag anghenion dysgwyr yn esbonio’r effaith hon. Unwaith y bydd maint y grŵp yn cynyddu dros chwech neu saith mae gostyngiad amlwg mewn effeithiolrwydd.

Er y rheol gorau po leiaf”, mae rhywfaint o amrywioldeb mewn effaith o fewn y dystiolaeth bresennol. Er enghraifft, gyda darllen, weithiau gall addysgu mewn grwpiau bach fod yn fwy effeithiol na naill ai tiwtora un i un neu diwtora pâr. Yn yr achosion hyn, mae’n bosibl y gall yr ymarfer darllen gael ei drefnu’n effeithlon fel bod yr holl ddisgyblion yn dal ati i ymgysylltu’n llawn wrth i bob un gymryd eu tro, fel mewn Darllen dan Arweiniad.

Mae’r amrywioldeb yn y canfyddiadau’n awgrymu dau beth. Yn gyntaf, gall ansawdd yr addysgu mewn grwpiau bach fod yr un mor bwysig, neu’n bwysicach nag union faint grŵp (mae tystiolaeth o fudd datblygiad proffesiynol i staff ar ganlyniadau disgyblion). Yn ail, mae’n bwysig gwerthuso effeithiolrwydd gwahanol drefniadau, gan y gall y pwnc penodol sy’n cael ei addysgu a chyfansoddiad y grwpiau ddylanwadu ar ddeilliannau.

O ystyried yr ansicrwydd a’r gost is, efallai y bydd tiwtora grŵp bach yn ddull synhwyrol o dreialu cyn ystyried tiwtora un i un.

  • Mae’r effaith yn tueddu i fod yn fwy mewn ysgolion cynradd (+4 mis) nag ysgolion uwchradd, lle mae llai o astudiaethau yn gyffredinol a lle mae’r effaith yn is (+2 fis).

  • Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’r ymchwil ar diwtora grŵp bach ar ddarllen ac mae mwy o effaith, ar gyfartaledd (+4 mis). Mae’r astudiaethau mewn mathemateg yn dangos effaith gadarnhaol sydd ychydig yn llai (+3 mis).

  • Sesiynau rheolaidd, dair gwaith yr wythnos, sy’n para hyd at awr dros tua 10 wythnos sydd fel arfer yn dangos yr effaith fwyaf.

  • Mae disgyblion isel eu cyrhaeddiad yn elwa’n benodol o diwtora grŵp bach.

Mae astudiaethau yn Lloegr wedi dangos bod disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim fel arfer yn cael manteision ychwanegol o diwtora grŵp bach.

Gall dulliau tiwtora grŵp bach gefnogi disgyblion i wneud cynnydd effeithiol trwy ddarparu cymorth academaidd dwys wedi’i dargedu i’r rhai a nodwyd fel rhai â chyrhaeddiad blaenorol isel neu mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi. Mae’r dull gweithredu yn caniatáu i’r athro neu’r tiwtor ganolbwyntio ar anghenion nifer fach o ddysgwyr a darparu addysgu sy’n cyd-fynd yn agos â dealltwriaeth pob disgybl. Mae tiwtora grŵp bach yn cynnig lefelau uwch o ryngweithio ac adborth o’i gymharu ag addysgu dosbarth cyfan a all gefnogi disgyblion i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chynyddu eu mynediad at y cwricwlwm.

Mae tiwtora grŵp bach yn cael effaith drwy ddarparu cymorth ychwanegol sydd wedi’i dargedu at anghenion disgyblion. Mae lleihau’r gymhareb disgyblion i athrawon o gymharu â’r hyn a geir yn y dosbarth arferol yn caniatáu rhyngweithio agosach rhwng addysgwyr a disgyblion. Wrth fabwysiadu tiwtora grŵp bach, dylai ysgolion ystyried sut i sicrhau bod yr elfennau gweithredol hyn yn cael effaith gadarnhaol trwy:

  • Nodi’n gywir y disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol.
  • Deall bylchau dysgu’r disgyblion sy’n derbyn tiwtora grŵp bach a defnyddio’r wybodaeth hon i ddewis cynnwys y cwricwlwm yn briodol.
  • Sicrhau bod athrawon wedi’u paratoi’n dda ar gyfer rhyngweithio o ansawdd uchel â disgyblion, fel cyflwyno adborth wedi’i gynllunio’n dda.
  • Sicrhau bod tiwtora grŵp bach wedi’i gysylltu’n dda â chynnwys y dosbarth.

Gall athrawon, cynorthwywyr addysgu hyfforddedig, mentoriaid academaidd neu diwtoriaid gyflwyno tiwtora grŵp bach. Fel arfer, darperir ymyriadau dros gyfnod estynedig, yn aml dros sawl wythnos neu dymor i grŵp bach gyda rhwng dau a phum disgybl.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

    Mae cost gyfartalog tiwtora grŵp bach yn isel. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar gostau cyflog ychwanegol ac adnoddau dysgu, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cylchol.

    Drwy Flwyddyn 1 (2020−21) y Rhaglen Diwtora Genedlaethol, gallai ysgolion brynu sesiynau tiwtora wyneb yn wyneb neu ar-lein wedi’u sybsideiddio ar gyfer grwpiau 1:3 neu 1:2 mewn blociau o 15 awr am gost gyfartalog o £70-£100 y disgybl, gyda chostau is ar gyfer cymarebau disgybl-tiwtor uwch a darpariaeth ar-lein.

    Wrth gyflwyno tiwtora grŵp bach dan arweiniad athrawon neu gynorthwywyr addysgu, mae’n debygol y bydd angen llawer iawn o amser staff o’i gymharu â dulliau dosbarth cyfan. O ystyried y costau is, efallai y bydd tiwtora grŵp bach yn ddull synhwyrol o dreialu cyn ystyried tiwtora un i un. Gweler Tiwtora un i un.

    Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried defnyddio darparwyr sydd â hanes o effeithiolrwydd. Er mwyn cynyddu effaith dulliau grŵp bach, dylai arweinwyr ysgolion ystyried datblygiad proffesiynol i athrawon, cynorthwywyr addysgu a thiwtoriaid i gefnogi arferion tiwtora o ansawdd uchel.

      Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch tiwtora grŵp bach yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 62 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol:

      • Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

      Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

      Cryfder y dystiolaeth
      Nifer yr astudiaethau62
      Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021