View yn Cymraeg

:Ysgolion haf

Ysgolion haf

Effaith gymedrol am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+3
mis

Mae ysgolion haf yn wersi neu ddosbarthiadau ychwanegol a drefnir yn ystod gwyliau’r haf. Fe’u dylunnir yn aml fel rhaglenni dal i fyny, er nad oes gan rai ffocws academaidd ac maent yn canolbwyntio ar chwaraeon neu weithgareddau anacademaidd eraill. Mae gan eraill nod penodol, fel cefnogi disgyblion wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd neu baratoi disgyblion uchel eu cyrhaeddiad ar gyfer y brifysgol.

Mae dulliau eraill o gynyddu amser dysgu wedi’u cynnwys mewn adrannau eraill o’r Pecyn Cymorth, fel gwaith cartref, ac ymestyn amser ysgol.

1. Mae ysgolion haf yn cael effaith gadarnhaol ar gyfartaledd (cynnydd ychwanegol o 3 mis) ond maent yn ddrud i’w gweithredu. Gall darparu cymorth ychwanegol yn ystod y flwyddyn ysgol fod yn ddull mwy cost effeithiol o wella deilliannau.

2. Mae angen i ddarpariaeth ysgol haf sy’n anelu at wella anghenion dysgu gael elfen academaidd. Mae ysgolion haf sy’n cynnwys elfen addysgu ddwys fel defnyddio dulliau grŵp bach neu ddulliau un i un yn cael effeithiau uwch, ar gyfartaledd.

3. Gall cynnal presenoldeb rheolaidd mewn ysgolion haf fod yn heriol, yn enwedig i ddisgyblion difreintiedig. Mae’n hanfodol ystyried sut y bydd ysgolion haf yn denu ac yn ymgysylltu â disgyblion i atal bylchau cyrhaeddiad rhag lledu.

4. Mae ysgolion haf sy’n defnyddio athrawon y mae’r disgyblion yn eu hadnabod yn cael effaith uwch, ar gyfartaledd, ond gallai hynny fod hyd yn oed yn ddrutach i’w weithredu.

5. Gall ysgolion haf hefyd ddarparu profiadau a gweithgareddau ychwanegol, fel gweithgareddau celfyddydol neu chwaraeon. Gallai’r gweithgareddau hyn fod yn werthfawr ynddynt eu hunain neu gael eu defnyddio i gynyddu ymgysylltiad ochr yn ochr â chymorth academaidd.

Ar gyfartaledd, mae tystiolaeth yn awgrymu bod disgyblion sy’n mynychu ysgol haf yn gwneud tua thri mis o gynnydd ychwanegol o’i gymharu â disgyblion tebyg nad ydynt yn mynychu ysgol haf.

Gellir cael mwy o effaith pan fydd ysgolion haf yn ddwys, gydag adnoddau da, ac yn darparu dysgu grŵp bach neu un i un gan athrawon hyfforddedig a phrofiadol. Mae’n ymddangos ei bod yn fantais cael athrawon y mae’r disgyblion yn eu hadnabod (fel arfer +4 mis yn gyffredinol). I’r gwrthwyneb, nid yw ysgolion haf heb elfen academaidd glir fel arfer yn gysylltiedig ag enillion dysgu, er y gallent fod â manteision eraill.

  • Er bod llai o astudiaethau ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd, mae’r effaith yn debyg i ddisgyblion oed cynradd ac uwchradd.

  • Mae’r effeithiau’n tueddu i fod yn uwch ar gyfer llythrennedd (cynnydd ychwanegol o dri mis) na mathemateg (cynnydd ychwanegol o ddau fis). Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer pynciau eraill, fel gwyddoniaeth, lle cafwyd effeithiau cadarnhaol.

  • Mae’r dystiolaeth yn dangos bod dulliau addysgu mwy dwys, fel dulliau grŵp bach ac un i un yn fwy effeithiol (+5 mis), ac yn debyg i effaith nodweddiadol tiwtora un i un.

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall disgyblion o gefndiroedd difreintiedig elwa o ysgolion haf, lle mae gweithgareddau’n canolbwyntio ar ddulliau academaidd, grŵp bach neu un i un ag adnoddau da. Mae llai o dystiolaeth am effeithiolrwydd ymyriadau cyffyrddiad ysgafn fel rhaglenni rhannu llyfrau haf.

Mae astudiaethau’n dangos bod presenoldeb a disgyblion yn gadael yn heriau allweddol ar gyfer darpariaeth wirfoddol, y tu allan i’r tymor ysgol, yn enwedig i ddisgyblion difreintiedig. Er mwyn goresgyn y problemau hyn, dylai ysgolion anelu at nodi unrhyw rwystrau posibl (fel costau bwyd neu drafnidiaeth, gwrthdaro â gwyliau wedi’u cynllunio neu ddigwyddiadau crefyddol) yn gynnar, a hynny trwy gyfathrebu â rhieni/​gofalwyr i wella ymgysylltiad. Wrth dargedu ysgolion haf at ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig, dylai dulliau geisio lleihau unrhyw risg o stigmateiddio.

Mae cynnwys gweithgareddau ychwanegol nad ydynt yn rhai academaidd fel chwaraeon, celfyddydau neu gyfoethogi diwylliannol yn werthfawr yn eu rhinwedd eu hunain a gallant gynnig cyfleoedd i ddisgyblion o aelwydydd incwm isel na fyddent fel arall yn gallu eu fforddio. Gall cymysgedd o weithgareddau hefyd helpu i hyrwyddo ymgysylltiad a denu disgyblion i ysgolion haf.

Mae ysgolion haf yn effeithio ar ddeilliannau academaidd drwy ddarparu amser ychwanegol dros yr haf sy’n arwain at ddysgu ychwanegol. Gall yr amser dysgu ychwanegol hwn hefyd gael ei dargedu at ddisgyblion sydd wedi cael trafferth mewn meysydd penodol o’r cwricwlwm. Felly, dylai ysgolion sy’n gweithredu’r dull hwn ystyried:

  • Sicrhau bod amser dysgu ychwanegol mewn pynciau allweddol.
  • Sicrhau bod disgyblion targed yn cael mynediad at yr amser ychwanegol drwy fynychu a chymryd rhan yn llwyddiannus yn yr ysgol haf.
  • Cynnwys cymorth ychwanegol wedi’i dargedu’n briodol o fewn ysgolion haf.
  • Cysylltu ag ysgolion cynradd sy’n bwydo ar gyfer ysgolion haf sy’n targedu’r cyfnod pontio i’r uwchradd.

Gall ysgolion haf hefyd gynnwys gweithgareddau cyfoethogi ac ymgysylltu eraill fel gweithgareddau celfyddydol a chwaraeon neu ymweliadau addysgol. Gall y rhain fod yn elfennau pwysig ar gyfer cynnal ymgysylltiad mewn ysgol haf wedi’i thargedu’n academaidd neu’n weithgareddau pwysig ynddynt eu hunain, os oes gan yr ysgol haf nodau ehangach.

Mae ysgolion haf fel arfer yn cael eu darparu dros ddwy neu dair wythnos. Mae rhai astudiaethau wedi archwilio rhaglenni ysgol haf hirach o hyd at chwe wythnos, er bod y rhain yn anarferol ac mae rhai wedi canfod problemau penodol o ran cynnal presenoldeb. Gall ysgolion ddewis darparu rhaglenni yn syth ar ôl diwedd tymor yr haf, yn ystod gwyliau’r haf, neu’n union cyn dechrau’r flwyddyn ysgol newydd.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae cost gyfartalog ysgolion haf yn gymedrol. Mae’r gost i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar gyflog staff, cyfleusterau, adnoddau a chostau gweithgareddau. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn gostau cylchol gyda rhywfaint o amrywiad yn gysylltiedig â maint, hyd a lefelau staffio ysgolion haf.

Bydd angen llawer iawn o amser staff ar ysgolion haf, o’i gymharu â dulliau eraill. Gall ysgolion haf gael eu darparu gan gymysgedd o athrawon, cynorthwywyr addysgu, staff bugeiliol a chymorth, darparwyr allanol (fel elusennau llythrennedd neu grwpiau chwaraeon) neu wirfoddolwyr.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i fanteisio i’r eithaf ar elfen academaidd darpariaeth ysgolion haf, gan sicrhau ei bod yn meddu ar adnoddau da a staff priodol ac yn cael ei thargedu’n agos at anghenion dysgu disgyblion. Dylai arweinwyr ysgolion osgoi dulliau sy’n cynyddu llwyth gwaith athrawon heb sicrhau enillion dysgu i ddisgyblion. Dylent hefyd ystyried a yw dulliau gweithredu’n amharu ar allu athrawon i gynllunio addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ysgolion haf yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 59 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth.

Yn gyffredinol, collodd y pwnc glo clap ychwanegol oherwydd nad yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad. 

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau59
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafAwst 2021