View yn Cymraeg

:Ymestyn amser ysgol

Ymestyn amser ysgol

Effaith gymedrol am gost gymedrol yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+3
mis

Mae ymestyn amser ysgol yn golygu cynyddu amser dysgu mewn ysgolion yn ystod y diwrnod ysgol neu drwy newid calendr yr ysgol. Gall hyn gynnwys ymestyn yr amser addysgu a dysgu craidd mewn ysgolion yn ogystal â defnyddio rhaglenni wedi’u targedu cyn ac ar ôl ysgol (gan gynnwys grwpiau bach ychwanegol neu diwtora un i un). Mae hefyd yn cynnwys diwygiadau i galendr yr ysgol i ymestyn cyfanswm nifer y diwrnodau yn y flwyddyn ysgol.

Mae dulliau eraill o gynyddu amser dysgu wedi’u cynnwys mewn adrannau eraill o’r Pecyn Cymorth, fel gwaith cartref, ac ysgolion haf.

1. Mae rhaglenni sy’n ymestyn amser ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar gyfartaledd ond maent yn ddrud ac efallai na fyddant yn gost-effeithiol i ysgolion eu gweithredu. Bydd angen i ysgolion hefyd ystyried llwyth gwaith a llesiant eu staff.

2. Mae cynllunio i fanteisio i’r eithaf ar unrhyw amser ychwanegol yn bwysig. Dylai ddiwallu anghenion disgyblion ac adeiladu ar eu galluoedd. Lle bo amser ychwanegol yn wirfoddol, mae’n bwysig monitro presenoldeb er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn gallu elwa.

3. Mae rhaglenni cyn ac ar ôl ysgol gyda strwythur clir, cysylltiad cryf â’r cwricwlwm, a staff cymwys sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn cael eu cysylltu’n gliriach â manteision academaidd na mathau eraill o ddarpariaeth oriau estynedig.

4. Gall amser ysgol ychwanegol fod yn fwy effeithiol os caiff ei ddefnyddio ar gyfer cymorth un-i-un, yn wahanol i addysgu mewn grwpiau bach neu fawr.

5. Gall gweithgareddau cyfoethogi heb ffocws penodol ar ddysgu gael effaith ar gyrhaeddiad, ond mae’r effeithiau’n tueddu i fod yn is a gall effaith ymyriadau gwahanol amrywio llawer iawn (gweler y cofnodion ar gyfer gweithgarwch corfforol neu cyfranogiad yn y celfyddydau).

Tua thri mis ychwanegol o gynnydd dros gyfnod o flwyddyn yw effaith gyfartalog dulliau sy’n cynnwys ymestyn amser ysgol. Dylanwadir ar yr effaith gyfartalog gan y defnydd wedi’i dargedu o raglenni cyn ac ar ôl ysgol, sy’n cael effeithiau uwch ar gyfartaledd. Mae’r effaith hefyd ychydig yn is pan fydd amser ysgol yn cael ei ymestyn yn yr ysgol uwchradd.

Yn ogystal â darparu cymorth academaidd, mae rhai rhaglenni ysgol yn anelu at ddarparu amgylcheddau a gweithgareddau ysgogol neu ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol ychwanegol. Mae’r rhaglenni hyn yn fwy tebygol o gael effaith ar gyrhaeddiad na’r rhai sydd â ffocws academaidd yn unig. Fodd bynnag, nid yw’n glir a yw hyn oherwydd y gweithgareddau ychwanegol neu bresenoldeb gwell a mwy o ymgysylltu.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod denu a chadw disgyblion mewn rhaglenni cyn ac ar ôl ysgol yn anoddach ar lefel uwchradd nag ar lefel cynradd. Er mwyn bod yn llwyddiannus, dylai unrhyw estyniad o amser ysgol gael ei gefnogi gan rieni a staff. Dylid nodi hefyd y gallai cynnydd mwy eithafol arwain at effeithiau sy’n lleihau os bydd llai o ymgysylltiad â disgyblion. 

Er bod yr effaith ar gyrhaeddiad academaidd, ar gyfartaledd, yn gadarnhaol, gallai cost ymestyn amser ysgol olygu nad yw’n ddull cost-effeithiol i’w weithredu ar lefel yr ysgol heb gyllid ychwanegol.

  • Cynhaliwyd mwy o astudiaethau mewn ysgolion cynradd. Mae’r effeithiau’n uwch, ar gyfartaledd, ar gyfer ysgolion cynradd (+3 mis) nag ysgolion uwchradd (+2 fis).

  • Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth yn ymwneud â llythrennedd a mathemateg gydag effeithiau tebyg yn y ddau bwnc.

  • Mae’n ymddangos bod dulliau mwy dwys yn ystod amser estynedig, fel tiwtora un i un, yn fwy effeithiol na naill ai addysgu grwpiau bach neu grwpiau mawr.

  • Cynhaliwyd y rhan fwyaf o astudiaethau yn UDA – gallai hyn beri risg i drosglwyddadwyedd y canfyddiadau gan y gallai effeithiau gael eu dylanwadu gan hyd cyfartalog addysg mewn unrhyw gyd-destun penodol. 

Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y gallai disgyblion difreintiedig elwa mwy o amser ysgol ychwanegol.

Er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd amser ysgol ychwanegol o fudd i ddisgyblion difreintiedig, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau ymgysylltiad a phresenoldeb ymhlith y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Mae’n bosibl, os cynigir gweithgareddau dysgu neu gyfoethogi wedi’u targedu i bawb, mai’r rhai a allai elwa fwyaf fyddai’r rhai lleiaf tebygol i gyfranogi neu ymgysylltu. Fodd bynnag, mae heriau i fabwysiadu dull sy’n targedu fwy hefyd, gan y gall disgyblion sy’n cael eu dethol deimlo eu bod yn cael eu targedu a’u stigmateiddio.

Gall gweithgareddau ychwanegol nad ydynt yn rhai academaidd hefyd ddarparu dewisiadau amgen am ddim neu gost isel yn lle chwaraeon, cerddoriaeth, a gweithgareddau cyfoethogi eraill y mae teuluoedd mwy breintiedig yn fwy tebygol o allu talu amdanynt y tu allan i’r ysgol.

Y ddamcaniaeth newid ar gyfer ymestyn amser ysgol yw bod oriau ychwanegol o amser dysgu dynodedig yn golygu bod disgyblion yn cael mwy o gysylltiad ag addysgu, mwy o amser i ymgysylltu â chynnwys ac yn gyffredinol mwy o ddysgu. Wrth weithredu dulliau sy’n ymestyn amser ysgol, mae’n bwysig cydnabod nad yw amser dysgu dynodedig ac amser dysgu gwirioneddol yr un peth. Dylai ysgolion:

  • Monitro presenoldeb yn ofalus i sicrhau nad yw estyniadau i’r diwrnod ysgol neu’r tymor yn arwain at ostyngiadau yn yr amser dysgu cyffredinol i rai disgyblion.
  • Ystyried a monitro ymgysylltiad disgyblion yn ofalus – os oes mwy o amser yn cael ei dreulio yn rheoli ymddygiad disgyblion mewn diwrnod ysgol hirach, yna efallai na fydd amser dysgu gyda ymgysylltiad gwirioneddol yn cynyddu.
  • Monitro llesiant a llwyth gwaith staff i sicrhau nad yw amser addysgu ychwanegol yn arwain at ostyngiad o ran ansawdd (e.e. drwy lai o amser ar gyfer datblygiad proffesiynol neu gynllunio gwersi).

Mae’n bwysig bod arweinwyr ysgolion yn glir ynghylch diben cyflwyno amser dysgu ychwanegol ac yn sicrhau cefnogaeth rhieni cyn gwneud newidiadau.

Mae’n debygol y bydd dulliau o ymestyn amser ysgol yn cael eu lledaenu dros flwyddyn academaidd. Efallai y bydd rhai ysgolion hefyd yn penderfynu targedu cymorth ychwanegol mewn dosbarthiadau penodol neu at ddisgyblion penodol yn ystod tymhorau neu amseroedd penodol o’r flwyddyn.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Yn gyffredinol, amcangyfrifir bod y costau’n rhai cymedrol. Cost sylfaenol addysgu disgybl yw tua £3120 y flwyddyn (£16 y dydd) yn yr ysgol gynradd a thua £4,680 y flwyddyn (£25 y dydd) yn yr uwchradd. Byddai ymestyn y flwyddyn ysgol o bythefnos felly’n gofyn am tua £160 y disgybl y flwyddyn ar gyfer ysgolion cynradd a thua £250 y disgybl y flwyddyn ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod clybiau ar ôl ysgol yn costio, ar gyfartaledd, £7 y sesiwn fesul disgybl. Byddai sesiwn wythnosol felly yn costio £273 y disgybl dros gyfnod o 39 wythnos yn yr ysgol.

Os na fydd athrawon ychwanegol yn cael eu cyflogi i gyd-fynd â’r cynnydd yn yr amser addysgu sy’n deillio o ymestyn amser ysgol, efallai y bydd angen llawer iawn o amser staff ar unrhyw estyniadau i galendrau neu amserlenni ysgolion hefyd, o’i gymharu â dulliau eraill. Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau ansawdd yr addysgu yn ystod amser ysgol ychwanegol ac osgoi dulliau a allai gynyddu llwyth gwaith athrawon heb gael effaith sylweddol ar ddysgu disgyblion.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymestyn amser ysgol yn cael ei ystyried yn gymedrol. Nodwyd 74 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc clo clo ychwanegol oherwydd nad yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau74
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021