View yn Cymraeg

:Dysgu seiliedig ar chwarae

Dysgu seiliedig ar chwarae

Effaith gymedrol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Mae’r diffiniad o chwarae’ a’i berthynas â’r cwricwlwm, rôl oedolion a’r plant eu hunain yn amrywio’n sylweddol. Bydd chwarae yn aml yn bleserus er ei fwyn ei hun. Gall gweithgareddau seiliedig ar chwarae fod yn unigol neu’n gymdeithasol, ac yn cynnwys cyfuniad o elfennau gwybyddol a chorfforol. Er bod chwarae’n rhan greiddiol o brofiad plant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ac mae ganddo fuddion posibl o ran datblygiad corfforol, meithrin perthynas a’r celfyddydau mynegiannol; mae’r crynodeb tystiolaeth hwn yn edrych ar effaith dysgu seiliedig ar chwarae ar ddeilliannau gwybyddol. gwybyddol.

Mae dysgu seiliedig ar chwarae yn digwydd ar draws ystod o amgylcheddau dysgu dan do/​awyr agored, yn y cartref ac mewn amgylcheddau dysgu addysgol. Ar un pen o’r continwwm mae chwarae rhydd, lle mae’r gweithgareddau yn cael eu cychwyn a’u cynnal gan y plentyn. Yn y gweithgareddau hyn, mae gan yr oedolyn rôl wrth gynllunio a sefydlu’r ddarpariaeth ddysgu, gan ddarparu adnoddau a deunyddiau i wella dysgu a chefnogi chwarae. Mae’r oedolyn yn rhyngweithio gyda bwriad a phwrpas clir mewn golwg ond y plentyn sy’n arwain ac yn cyfarwyddo’r gweithgaredd. Yng nghanol y continwwm mae chwarae dan arweiniad, sydd â rhywfaint o gyfranogiad oedolion. Gallai enghreifftiau gynnwys grŵp o blant yn chwarae esgus lle mae’r oedolyn yn cynllunio senario i fynd â’r chwarae a’r sgwrs i gyfeiriad newydd. Ar ben arall y continwwm mae mwy o weithgareddau a arweinir neu a gyfeirir gan staff, fel gemau gyda rheolau neu weithgareddau wedi’u strwythuro’n glir.

Gall rhai enghreifftiau o ddysgu seiliedig ar chwarae orgyffwrdd â dulliau hunanreoleiddio neu strategaethau dysgu cymdeithasol ac emosiynol. Datblygwyd ymyriadau seiliedig ar chwarae i gefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol plant. Nod y rhaglenni hyn yn benodol yw gwella sgiliau cymdeithasol a gwybyddol trwy helpu plant i ddysgu sut i chwarae.

  • Mae dulliau dysgu seiliedig ar chwarae yn cael effaith gadarnhaol gymedrol (+ pedwar mis) ar ddeilliannau dysgu, fodd bynnag, mae’r sylfaen dystiolaeth yn gyfyngedig iawn.

  • Mae dysgu seiliedig ar chwarae yn cynnwys ystod eang o ddulliau ar draws ystod o amgylcheddau, sy’n cynnwys gweithgareddau dan arweiniad staff a chwarae rhydd. Mae mwy o ymchwil wedi digwydd ar chwarae dan arweiniad staff.

  • Nodwyd effeithiau cadarnhaol tebyg mewn deilliannau dysgu cynnar mewn agweddau ar lythrennedd cynnar a datblygiad iaith a rhifedd cynnar.

  • Mae’r amrywiad mewn effeithiau a thystiolaeth gyfyngedig ynghylch dysgu seiliedig ar chwarae nad yw’n cael ei arwain gan ymarferydd, yn awgrymu bod angen ymchwil bellach i nodi yn union pa ddulliau sy’n effeithiol o ran dysgu seiliedig ar chwarae.

Nid yw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer dysgu seiliedig ar chwarae yn gryf nac yn gyson, ond mae’n dangos perthynas glir rhwng chwarae a deilliannau dysgu cynnar. Ar gyfartaledd, canfu’r astudiaethau o chwarae sy’n mesur effaith fod dulliau dysgu seiliedig ar chwarae yn gwella deilliannau dysgu o tua 4 mis ychwanegol. Fodd bynnag, mae amrywiaeth sylweddol o ran effeithiau, sy’n awgrymu bod angen ymchwil ychwanegol o ansawdd uchel yn y maes hwn.

Nodwyd canlyniadau cadarnhaol ar gyfer ystod o ddeilliannau dysgu cynnar gan gynnwys iaith, llythrennedd cynnar, rhifedd cynnar ac ystod o ddeilliannau gwybyddol eraill. Gall dulliau seiliedig ar chwarae fod â manteision sylweddol i blant y nodir eu bod ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu addysgol.

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau a nodwyd yn canolbwyntio ar chwarae dan arweiniad yn hytrach na chwarae rhydd neu ddulliau chwarae rôl. Er bod astudiaethau o chwarae rhydd yn bodoli, nid oeddent yn aml yn edrych ar ddeilliannau gwybyddol, ac roeddent yn aml yn defnyddio dyluniadau ymchwil gwannach. Cafodd y ddwy astudiaeth a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth ganlyniadau sy’n gwrthdaro, gydag un effaith gadarnhaol ac un negyddol.

  • Er y gellir dod o hyd i effeithiau cadarnhaol ar gyfer ystod o ddulliau dysgu sy’n seiliedig ar chwarae, mae’r rhan fwyaf o ymchwil wedi canolbwyntio ar chwarae dan arweiniad (17 o’r 22 astudiaeth a gynhwysir).

  • Nodwyd effeithiau cadarnhaol ar draws ystod o ddeilliannau dysgu cynnar gan gynnwys iaith, llythrennedd cynnar, rhifedd cynnar ac ystod o ddeilliannau gwybyddol eraill.

  • Mae mwy o astudiaethau wedi digwydd mewn lleoliadau meithrin nag ysgolion cynradd ac mae’n ymddangos bod tystiolaeth ragarweiniol yn dangos llai o effaith mewn dosbarthiadau oedran derbyn mewn ysgolion cynradd (+ dau fis) nag mewn ysgolion meithrin (+ pedwar mis). Fodd bynnag, mae’r canfyddiad hwn yn seiliedig ar nifer fach o astudiaethau.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn nifer o wledydd ledled y byd, gyda’r mwyafrif yn UDA.

Er nad oedd digon o astudiaethau i archwilio’r berthynas rhwng dysgu seiliedig ar chwarae ac anfantais, mae yna enghreifftiau o astudiaethau sydd wedi llwyddo i wella deilliannau addysgol mewn lleoliadau gyda chyfran uchel o blant sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae’r amrywiad mewn deilliannau ar draws dysgu seiliedig ar chwarae yn golygu bod gweithredu’n arbennig o bwysig. Mae’r agweddau allweddol i’w hystyried yn cynnwys:

  • Meithrin amgylcheddau sy’n annog ac yn cefnogi plant i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth ieithyddol, llythrennedd a mathemategol trwy chwarae.
  • Ystyried y cydbwysedd rhwng chwarae a gychwynnir gan blant a gweithgareddau mwy strwythuredig i ddiwallu anghenion dysgu eich plant.
  • Trefnu offer yn yr amgylchedd dysgu i gefnogi dysgu, chwarae ac archwilio gweithredol.
  • Paratoi staff i gefnogi dysgu drwy weithgareddau chwarae.

Mae’r dystiolaeth wan yn golygu y gallai fod yn arbennig o bwysig gwerthuso effaith unrhyw ddulliau chwarae newydd rydych chi’n eu cyflwyno.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu dulliau dysgu seiliedig ar chwarae yn isel iawn. Mae’r rhan fwyaf o leoliadau’r blynyddoedd cynnar wedi’u cynllunio i ymgorffori cyfleusterau chwarae dan do ac awyr agored, felly mae costau ychwanegol yn gysylltiedig â dysgu seiliedig ar chwarae yn gyfyngedig.

Gall y costau fod yn uwch pan nad yw’r cyfleusterau hyn yn bresennol neu pan fydd angen adnoddau a deunyddiau ychwanegol penodol, fel y rhai sydd eu hangen ar gyfer chwarae rôl neu chwarae i gefnogi llythrennedd cynnar. Mae’n debygol y bydd hyfforddiant i staff ddatblygu eu dealltwriaeth o sut i ddatblygu dysgu plant o weithgareddau chwarae yn fuddiol. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant i gefnogi penderfyniadau ynghylch sut i ymyrryd, a phryd i arsylwi yn ystod chwarae a gychwynnir gan blant.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch dysgu seiliedig ar chwarae yn cael ei ystyried yn isel iawn. Nodwyd 22 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Mae nifer isel yr astudiaethau’n golygu nad yw’n bosibl archwilio yn systematig sut mae gwahanol nodweddion yr astudiaethau yn gysylltiedig â gwahanol effeithiau.

Bygythiad ychwanegol i ddibynadwyedd y dystiolaeth yw na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol – fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y maes.

Mewn rhai astudiaethau, dim ond un rhan o raglen ehangach yw chwarae. Pan fydd llawer o rannau i raglen, mae’n ei gwneud hi’n anodd sefydlu effaith chwarae ar ei ben ei hun. Er y gallai fod yn heriol gwerthuso ymyriadau o’r fath sydd â nifer o gydrannau, mae hwn yn faes pwysig ar gyfer ymchwil bellach. Gellir gwneud mwy i ddeall effeithiau gwahanol ddulliau chwarae i gefnogi dysgu a datblygiad plant ifanc.

Nid yw dibynadwyedd isel tystiolaeth yn golygu’r un fath â thystiolaeth o ddim effaith. Efallai bod gan lawer o ddulliau dystiolaeth isel, nid oherwydd eu bod yn aneffeithiol ond oherwydd nad yw ymchwil o ansawdd uchel wedi digwydd eto.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau22
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafChwefror 2023