View yn Cymraeg

:Cyfarwyddyd unigoledig

Cyfarwyddyd unigoledig

Effaith gymedrol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+4
mis

Mae cyfarwyddyd unigoledig yn cynnwys darparu gwahanol dasgau ar gyfer pob dysgwr a chymorth ar lefel unigol. Mae’n seiliedig ar y syniad bod gan bob dysgwr anghenion gwahanol, ac felly y bydd dull sydd wedi’i deilwra’n bersonol — yn enwedig o ran y gweithgareddau y mae disgyblion yn eu cyflawni a’r cyflymder y maent yn symud drwy’r cwricwlwm — yn fwy effeithiol.

Ymchwiliwyd i wahanol fodelau o gyfarwyddyd unigoledig dros y blynyddoedd mewn addysg, yn enwedig mewn pynciau fel mathemateg lle gall disgyblion gael setiau unigol o weithgareddau y maent yn eu cwblhau, yn aml yn annibynnol i raddau helaeth. Yn fwy diweddar, mae technolegau digidol wedi cael eu defnyddio i hwyluso gweithgareddau ac adborth unigol.

1. Gall cyfarwyddyd unigoledig fod yn ddull effeithiol o gynyddu cyrhaeddiad disgyblion. Fodd bynnag, gall fod yn ddull heriol i’w weithredu o ystyried y gofynion cynyddol ar yr athro i drefnu a monitro gweithgareddau unigol.

2. Mae astudiaethau o gyfarwyddyd unigoledig gyda disgyblion hŷn, oedran uwchradd yn tueddu i ddangos effeithiau uwch. Efallai y bydd yr effaith yn cynyddu pan fydd disgyblion yn fwy medrus wrth reoli eu dysgu eu hunain.

3. Mae tystiolaeth y gellir defnyddio technoleg ddigidol yn effeithiol i ddarparu cyfarwyddyd unigoledig. Mae llawer o’r astudiaethau hyn yn defnyddio technoleg ddigidol ochr yn ochr â thiwtora grwpiau bach, gydag athrawon yn darparu cyfarwyddyd wedi’i dargedu i’r disgyblion nad ydynt yn ymgysylltu â’r dechnoleg.

4. Gallai dysgu mewn grwpiau bach fod yn ddull addawol arall o ddiwallu anghenion gwahanol dysgwyr heb leihau cyfanswm yr amser addysgu y mae disgyblion yn ei dderbyn.

Ar gyfartaledd, mae dulliau cyfarwyddyd unigoledig yn cael effaith o 4 mis o gynnydd ychwanegol.

Y tu ôl i’r cyfartaledd hwn, mae llawer iawn o amrywiaeth. Gellir esbonio rhywfaint o hyn gan yr heriau o weithredu’r dull yn effeithiol, heb leihau amser dysgu ymgysylltiedig. Ar gyfer dulliau a weithredir yn yr ystafell ddosbarth, mae’n ymddangos y gallai rôl yr athro ddod yn fwy rheolaethol, gyda’r angen cynyddol i drefnu a monitro gweithgareddau dysgu yn golygu bod llai o amser ar gyfer rhyngweithio pedagogaidd o ansawdd uchel. Oherwydd hyn, gellir defnyddio cyfarwyddyd unigoledig yn well fel ychwanegiad at addysgu dosbarth arferol, yn hytrach na rhywbeth sy’n ei ddisodli.

Mae rhai astudiaethau diweddar sydd ag effeithiau cadarnhaol ar gyfartaledd wedi defnyddio technoleg ddigidol gydag asesu diagnostig ac adborth i unigoleiddio’r cyfarwyddyd. Er enghraifft, gall technoleg roi adborth ar unwaith ar y tasgau unigoledig (am fwy o fanylion am effaith yr adborth gweler yma).

Mae nifer fach o astudiaethau wedi archwilio adborth cyfoedion fel rhan o gyfarwyddyd unigoledig. Mae’r canlyniadau yn yr astudiaethau hyn yn gadarnhaol, ar gyfartaledd.

  • Mae astudiaethau mewn ysgolion uwchradd yn dangos effeithiau uwch (+4 mis) nag mewn ysgolion cynradd (+3 mis). Gall hyn ddangos bod lefel o annibyniaeth a strategaethau hunanreoleiddio sefydledig yn fuddiol i gyfarwyddyd unigoledig fod yn effeithiol.

  • Mae effeithiau yn tueddu i fod yn uwch mewn gwyddoniaeth (+4 mis) na mathemateg neu ddarllen (+3 mis).

  • Mae nifer o astudiaethau’n dangos y gall cynorthwywyr addysgu gefnogi dulliau unigoledig yn effeithiol.

  • Mae dulliau sy’n defnyddio technoleg ddigidol i unigoleiddio cyfarwyddyd yn dangos eu bod mor effeithiol â’r rhai heb dechnoleg.

  • Cynhaliwyd astudiaethau mewn 12 o wledydd ledled y byd gydag effeithiau cymharol debyg.

Gall disgyblion difreintiedig fod yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan gyfraddau absenoldeb ysgol uwch a chyrhaeddiad is, ar gyfartaledd, o’u cymharu â’u cyfoedion mwy breintiedig. Mae hyn yn golygu y gallai disgyblion difreintiedig fod yn fwy tebygol o symud ymlaen trwy’r ysgol gyda bylchau yn eu dealltwriaeth, a bydd hynny’n effeithio ar ba mor gyflym a hawdd y gallant gaffael a chysylltu dysgu newydd.

Ar gyfer disgyblion y nodwyd eu bod â chyrhaeddiad blaenorol isel neu mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi, gall cyfarwyddyd unigoledig ganiatáu i’r athro ddarparu gweithgareddau sy’n cyfateb yn agos â chyrhaeddiad disgybl. Ar yr amod bod ganddynt y sgiliau i reoli eu dysgu’n annibynnol, gall hyn gefnogi disgyblion i atgyfnerthu eu sgiliau dysgu ac ymarfer neu ddatblygu meistrolaeth cyn symud ymlaen i gam nesaf y cwricwlwm. Gall mwy o asesu ac adborth wedi’u targedu hefyd gefnogi disgyblion i fynd i’r afael â chamsyniadau neu oresgyn rhwystrau penodol i ddysgu.

Nod cyfarwyddyd unigoledig yw gwella canlyniadau trwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu i ddysgwyr. Er mwyn sicrhau bod y dull gweithredu yn effeithiol, dylai ysgolion ystyried sut y byddant yn darparu:

  • Asesiadau cywir o fylchau ac anghenion dysgu disgyblion.
  • Gweithgareddau sy’n cyfateb yn agos â lefel gwybodaeth, dealltwriaeth neu sgiliau disgybl.
  • Adborth unigoledig naill ai gan athrawon neu gyfoedion.

Mewn rhai astudiaethau, mae’r elfennau hyn wedi’u darparu drwy dechnoleg ddigidol – er enghraifft, trwy systemau tiwtora deallus sy’n darparu adborth ac asesiad ymatebol.

Gellir darparu ymyriadau cyfarwyddyd unigoledig trwy amrywiaeth o fodelau, gan gynnwys dysgu annibynnol, gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a gefnogir gan athro neu gynorthwyydd addysgu a’r defnydd o dechnolegau digidol sydd wedi’u datblygu i gefnogi gweithgareddau unigol gydag asesiad ac adborth.

Dylai arweinwyr ysgolion ystyried y ffordd orau o fonitro dulliau gweithredu i sicrhau bod cyfarwyddyd unigoledig yn cael ei weithredu’n effeithiol. Mae sicrhau bod gweithgareddau cyfarwyddyd unigoledig yn cael eu defnyddio i ategu (ac nid disodli) rhyngweithio o ansawdd uchel gan athrawon yn bwysig. Gall arweinwyr ysgolion hefyd ystyried dulliau grŵp bach i ddarparu ymarfer effeithiol, gyda chynorthwyydd addysgu yn monitro a chefnogi dysgwyr.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

Mae cost gyfartalog cyfarwyddyd unigoledig yn isel iawn. Mae’r costau i ysgolion yn seiliedig i raddau helaeth ar ddatblygiad proffesiynol athrawon, hyfforddiant a’r gost sy’n gysylltiedig ag adnoddau digidol a meddalwedd ar gyfer dulliau unigoledig.

Bydd mabwysiadu cyfarwyddyd unigoledig hefyd yn gofyn am ychydig bach o amser staff ychwanegol o’i gymharu â dulliau eraill gan fod ymyriadau’n cael eu darparu i raddau helaeth yn ystod amser gwersi.

Mae diogelwch y dystiolaeth ynghylch cyfarwyddyd unigoledig yn gyfyngedig. Nodwyd 198 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Yn gyffredinol, collodd y pwnc dri chlo clap ychwanegol oherwydd:

  • Canran fach yn unig o astudiaethau sydd wedi’u cynnal yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
  • Ni chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol ychwaith. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar yr effaith gyffredinol.
  • Mae llawer iawn o amrywiad anesboniadwy rhwng y canlyniadau a gynhwysir yn y pwnc. Mae pob adolygiad yn cynnwys rhywfaint o amrywiad o ran y canlyniadau, a dyna pam ei bod yn bwysig edrych y tu ôl i’r cyfartaledd. Mae amrywiad anesboniadwy (neu heterogenedd) yn gostwng ein sicrwydd yn y canlyniadau mewn ffyrdd nad ydym wedi gallu eu profi trwy edrych ar sut mae cyd-destun, methodoleg neu ddull yn dylanwadu ar effaith.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau198
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021