View yn Cymraeg

:Ymyriadau iaith lafar

Ymyriadau iaith lafar

Effaith sylweddol iawn am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth helaeth
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+6
mis

Mae ymyriadau iaith lafar (a elwir hefyd yn ymyriadau llafaredd neu siarad a gwrando) yn cyfeirio at ddulliau sy’n pwysleisio pwysigrwydd iaith lafar a rhyngweithio llafar yn yr ystafell ddosbarth. Maent yn cynnwys gweithgareddau deialogaidd.

Mae ymyriadau iaith lafar yn seiliedig ar y syniad bod sgiliau deall a darllen yn elwa o drafodaeth benodol ar gynnwys neu brosesau dysgu, neu’r ddau. Nod ymyriadau iaith lafar yw cefnogi defnydd dysgwyr o eirfa, mynegiant syniadau a mynegiant llafar.

Gallai dulliau iaith lafar gynnwys:

  • darllen ar goedd a thrafod llyfrau wedi’i dargedu gyda phlant ifanc;
  • ehangu geirfa lafar disgyblion yn benodol;
  • defnyddio cwestiynu strwythuredig i ddatblygu dealltwriaeth o ddarllen; a
  • defnyddio deialog a rhyngweithio pwrpasol, sy’n canolbwyntio ar y cwricwlwm.

Mae gan ymyriadau iaith lafar rywfaint o debygrwydd i ddulliau sy’n seiliedig ar Metawybyddiaeth (sy’n rhoi pwyslais ar siarad am ddysgu mewn ystafelloedd dosbarth), ac i ddulliau Dysgu cydweithredol sy’n hybu rhyngweithio disgyblion mewn grwpiau.

1. Ar gyfartaledd, mae dulliau iaith lafar yn cael effaith uchel ar ddeilliannau disgyblion – 6 mis o gynnydd ychwanegol.

2. Mae’n bwysig bod gweithgareddau iaith lafar yn cyfateb â cham datblygu presennol dysgwyr, fel eu bod yn ehangu eu dysgu ac yn cysylltu â’r cwricwlwm.

3. Gall hyfforddiant gefnogi oedolion i sicrhau eu bod yn modelu ac yn datblygu sgiliau iaith lafar a datblygiad geirfa disgyblion.

4. Efallai y bydd rhai disgyblion yn cael trafferth yn benodol ag iaith lafar. Dylai ysgolion ystyried sut y byddant yn adnabod disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol ynghylch iaith lafar a mynegiant. Gall fod yn ddefnyddiol canolbwyntio ar weithgareddau siarad a gwrando ar wahân lle bo angen i ddiwallu anghenion penodol.

Effaith gyfartalog ymyriadau iaith lafar yw tua chwe mis o gynnydd ychwanegol dros gyfnod o flwyddyn. Mae rhai astudiaethau hefyd yn aml yn adrodd am well awyrgylch yn yr ystafell ddosbarth a llai o broblemau ymddygiad yn dilyn gwaith ar iaith lafar.

Mae dulliau sy’n canolbwyntio ar siarad, gwrando a chyfuniad o’r ddau i gyd yn dangos effeithiau cadarnhaol ar gyrhaeddiad.

Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau’n canolbwyntio ar ddeilliannau darllen. Mae’r nifer bach o astudiaethau sy’n astudio mathemateg a gwyddoniaeth yn dangos effeithiau cadarnhaol bach. Gellir defnyddio dulliau iaith yn y pynciau hyn i ymarfer geirfa pwnc benodol.

Mae’r astudiaethau yn y Pecyn Cymorth yn dangos y gallai ymyriadau iaith gyda sesiynau aml dros gyfnod parhaus gael mwy o effaith, yn gyffredinol. Mae dulliau sy’n cael eu cyflwyno un-i-un hefyd yn cael effeithiau mwy.

  • Mae’r effaith yn y blynyddoedd cynnar (+7 mis) ac mewn cynradd (+6 mis) yn tueddu i fod yn uwch nag mewn ysgolion uwchradd (+5 mis).

  • Mae mwyafrif llethol yr astudiaethau wedi edrych ar yr effaith ar ddarllen. Lle mae astudiaethau wedi ymchwilio i bynciau eraill fel mathemateg a gwyddoniaeth, mae’r effeithiau’n sylweddol is (+1 mis), er bod nifer yr astudiaethau’n fach iawn.

  • Mae ymyriadau iaith lafar a gefnogir neu a arweinir gan gynorthwywyr addysgu hyfforddedig yn cael effaith gymharol debyg (+6 mis) i’r rhai a gefnogir neu a arweinir gan athrawon.

  • Mae’n ymddangos mai ymyriadau iaith lafar gyda sesiynau rheolaidd (3 gwaith yr wythnos neu fwy) dros gyfnod parhaus yw’r rhai mwyaf llwyddiannus.

Mae tystiolaeth i awgrymu bod disgyblion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o fod y tu ôl i’w cyfoedion mwy breintiedig wrth ddatblygu sgiliau iaith a lleferydd cynnar. Gallai hynny effeithio ar eu profiad yn yr ysgol ac ar eu dysgu yn ddiweddarach yn eu bywydau ysgol.

O ystyried y gellir defnyddio ymyriadau iaith lafar i ddarparu cymorth ychwanegol i ddisgyblion sydd y tu ôl i’w cyfoedion o ran datblygu iaith lafar, gall defnyddio dulliau wedi’u targedu gefnogi rhai disgyblion difreintiedig i ddal i fyny â chyfoedion, yn enwedig pan ddarperir hyn ar sail un i un.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod ymyriadau iaith lafar sy’n anelu’n benodol at ddatblygu geirfa lafar yn gweithio orau pan fyddant yn gysylltiedig â chynnwys cyfredol sy’n cael ei astudio yn yr ysgol, a phan fyddant yn cynnwys defnydd gweithredol ac ystyrlon o unrhyw eirfa newydd. Mae rhai enghreifftiau o ddulliau y dangoswyd eu bod yn effeithiol yn cynnwys:

  • annog disgyblion i ddarllen ar goedd ac yna cael sgyrsiau am gynnwys llyfrau gydag athrawon a chyfoedion
  • modelu dod i gasgliadau drwy ddefnyddio holi strwythuredig
  • gwaith grŵp neu waith pâr sy’n caniatáu i ddisgyblion rannu prosesau meddwl
  • gweithgareddau ymhlyg ac eglur sy’n ymestyn disgyblion
Gydag unrhyw un o’r gweithgareddau hyn, mae’n hanfodol sicrhau bod gweithgareddau iaith lafar yn gysylltiedig â’r cwricwlwm ehangach (e.e., defnyddio gweithgareddau iaith lafar i fodelu iaith dechnegol mewn gwyddoniaeth).

Gellir darparu ymyriadau iaith lafar yn ddwys dros gyfnod o ychydig wythnosau, ond gellir eu datblygu hefyd dros flwyddyn academaidd. Mae’n ymddangos mai sesiynau rheolaidd (3 gwaith yr wythnos neu fwy) dros gyfnod parhaus (hanner tymor neu dymor cyfan) yw’r rhai mwyaf llwyddiannus.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu ymyriadau iaith lafar yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig ag ymyriadau iaith lafar yn deillio i raddau helaeth o lyfrau, adnoddau a hyfforddiant, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn gostau cychwynnol.

Er bod yr amcangyfrif cost canolrifol ar gyfer ymyriadau iaith lafar yn isel iawn, mae’r opsiwn i ddarparu hyfforddiant i staff yn golygu y gall costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch ymyriadau iaith lafar yn cael ei ystyried yn uchel. Nodwyd 154 o astudiaethau. Collodd y pwnc un clo clap oherwydd na chafodd canran fawr o’r astudiaethau eu gwerthuso’n annibynnol. Mae gwerthusiadau a gynhelir gan sefydliadau sy’n gysylltiedig â’r dull gweithredu – er enghraifft, darparwyr masnachol, fel arfer yn cael effeithiau mwy, a gallai hynny ddylanwadu ar effaith gyffredinol y llinyn.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau154
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafGorffennaf 2021