View yn Cymraeg

:Dysgu meistrolaeth

Dysgu meistrolaeth

Effaith sylweddol am gost isel iawn yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn
Cost gweithredu
Cryfder y dystiolaeth
Effaith (misoedd)
+5
mis

Datblygwyd dysgu meistrolaeth yn wreiddiol yn y 1960au. Yn ôl diffiniad cynnar dysgu meistrolaeth, cedwir deilliannau dysgu yn gyson ond mae’r amser sydd ei angen i ddisgyblion ddod yn hyfedr neu’n gymwys yn yr amcanion hyn yn amrywiol.

Rhennir y pwnc yn flociau neu unedau gydag amcanion a bennir ymlaen llaw a deilliannau penodedig. Rhaid i ddysgwyr ddangos meistrolaeth ar brofion uned, 80% fel arfer, cyn symud ymlaen i ddeunydd newydd. Mae unrhyw ddisgyblion nad ydynt yn ennill meistrolaeth yn cael cymorth ychwanegol drwy ystod o strategaethau addysgu fel addysgu mwy dwys, tiwtora, dysgu â chymorth cyfoedion, trafodaethau grŵp bach, neu waith cartref ychwanegol. Mae dysgwyr yn parhau â’r cylch o astudio a phrofi nes bod y meini prawf meistrolaeth yn cael eu bodloni.

Nid oes gan ddulliau meistrolaeth mwy diweddar yr holl nodweddion hyn o ddysgu meistrolaeth bob amser. Mae rhai dulliau heb drothwy fel arfer yn golygu bod y dosbarth yn symud ymlaen i ddeunydd newydd pan fydd yr athro’n penderfynu bod y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi meistroli’r uned. Mae amser y cwricwlwm yn amrywio yn ôl cynnydd y dosbarth. Mewn dulliau eraill, mae’n ofynnol i ddisgyblion ddangos meistrolaeth ar brawf i symud ymlaen i ddeunydd newydd, ond nid oes trothwy penodol o 80% o leiaf.

Dylid gwahaniaethu rhwng Dysgu Meistrolaeth a dull cysylltiedig a elwir weithiau’n addysgu ar gyfer meistrolaeth”. Defnyddir y term hwn yn aml i ddisgrifio’r dull o addysgu mathemateg a geir mewn mannau sy’n perfformio’n uchel yn Nwyrain Asia, fel Shanghai a Singapore. Fel dysgu meistrolaeth”, nod addysgu ar gyfer meistrolaeth” yw cefnogi pob disgybl i sicrhau dealltwriaeth ddofn a chymhwysedd yn y pwnc perthnasol. Fodd bynnag, nodweddir addysgu ar gyfer meistroliaeth” gan addysgu dosbarth cyfan a arweinir gan athrawon; cynnwys gwersi cyffredin ar gyfer pob disgybl; a’r defnydd o drinolion a chynrychioliadau. Er bod rhai agweddau ar addysgu ar gyfer meistrolaeth” yn cael eu llywio gan ymchwil, cymharol ychydig o ymyriadau o’r math hwn sydd wedi’u gwerthuso ar gyfer effaith. Dylai’r rhan fwyaf o’r astudiaethau yn y llinyn hwn gael eu gwahaniaethu o’r dull cysylltiedig hwn.

1. Mae dysgu meistrolaeth yn ddull cost-effeithiol, ar gyfartaledd, ond mae’n heriol ei weithredu’n effeithiol. Dylai ysgolion gynllunio ar gyfer newidiadau ac asesu a yw’r dull yn llwyddiannus yn eu cyd-destun.

2. Dylai fod angen lefel uchel o lwyddiant cyn i ddisgyblion symud ymlaen i gynnwys newydd – mae’n hanfodol monitro a chyfleu cynnydd disgyblion a darparu cefnogaeth ychwanegol i ddisgyblion sy’n cymryd mwy o amser i gyrraedd y lefel ofynnol o wybodaeth.

3. Mae dulliau dysgu meistrolaeth yn aml yn gysylltiedig â chyfarwyddyd uniongyrchol, ond roedd llawer o’r astudiaethau effaith uchel a nodwyd yn cynnwys elfennau o ddysgu cydweithredol.

4. Mae amrywiaeth fawr y tu ôl i’r effaith gyfartalog – mae dulliau dysgu meistrolaeth yn cael effeithiau cadarnhaol yn gyson, ond mae’r effeithiau’n uwch i ddisgyblion ysgolion cynradd ac mewn mathemateg.

Effaith dulliau dysgu meistrolaeth yw cynnydd o bum mis ychwanegol, ar gyfartaledd, dros gyfnod o flwyddyn.

Mae llawer o amrywiaeth y tu ôl i’r cyfartaledd hwn. Mae’n ymddangos ei bod yn bwysig bod bar uchel wedi’i osod ar gyfer cyflawni meistrolaeth’ (fel arfer 80% i 90% ar y prawf perthnasol). Mewn cyferbyniad, mae’n ymddangos bod y dull gweithredu yn llawer llai effeithiol pan fydd disgyblion yn gweithio ar eu cyflymder eu hunain (gweler hefyd Cyfarwyddyd unigoledig).

Mae’n ymddangos bod dysgu meistrolaeth hefyd yn arbennig o effeithiol pan fydd disgyblion yn cael cyfleoedd i weithio mewn grwpiau neu dimau a chymryd cyfrifoldeb am gefnogi cynnydd ei gilydd (gweler hefyd Dysgu cydweithredolTiwtora cyfoedion).

  • Mae astudiaethau sy’n edrych ar ddisgyblion ysgolion cynradd wedi tueddu i fod yn fwy effeithiol (+8 mis) nag ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd (+3 mis).

  • Mae dysgu meistrolaeth wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar draws y cwricwlwm ond yn enwedig ar gyfer darllen, mathemateg a gwyddoniaeth. Mae effeithiau yn uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth (+6 mis) na darllen (+3 mis)

  • Mae lefel uchel o feistrolaeth o tua 80% yn gysylltiedig â dulliau mwy llwyddiannus.

  • Gall dulliau dysgu meistrolaeth sy’n cynnwys dysgu cydweithredol fod yn effeithiol.

Nod dulliau dysgu meistrolaeth yw sicrhau bod pob disgybl wedi meistroli cysyniadau allweddol cyn symud ymlaen i’r pwnc nesaf – yn wahanol i’r dulliau addysgu traddodiadol lle gellir gadael disgyblion ar ôl, gyda bylchau camddealltwriaeth yn lledu. Gallai dulliau dysgu meistrolaeth fynd i’r afael â’r heriau hyn trwy roi amser a chymorth ychwanegol i ddisgyblion a allai fod wedi colli dysgu, neu sy’n cymryd mwy o amser i feistroli gwybodaeth a sgiliau newydd.

Er mwyn i ddulliau meistrolaeth fod yn effeithiol i ddisgyblion sydd â bylchau mewn dealltwriaeth, mae’n hanfodol bod cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu. Mae dulliau sy’n adeiladu ar wybodaeth sylfaenol yn syml heb dargedu cymorth i ddisgyblion sydd ar ei hôl hi yn annhebygol o leihau bylchau anfantais.

Mae dysgu meistrolaeth yn gweithio drwy ddylunio unedau gwaith fel bod gan bob tasg ddeilliant dysgu clir, y mae’n rhaid i ddisgyblion ei feistroli cyn symud ymlaen i’r dasg nesaf. Mae elfennau craidd y dull meistrolaeth y dylai ysgolion fod yn ofalus i’w gweithredu yn cynnwys:

  • Asesiad diagnostig effeithiol i nodi meysydd cryfder a gwendid
  • Dilyniannu pynciau’n ofalus fel eu bod yn raddol yn adeiladu ar wybodaeth sylfaenol
  • Hyblygrwydd i athrawon o ran pa mor hir y mae angen iddynt ei dreulio ar unrhyw bwnc penodol
  • Monitro dysgu disgyblion a darparu adborth rheolaidd fel y gall disgyblion feistroli pynciau cyn symud i’r nesaf
  • Cymorth ychwanegol i ddisgyblion sy’n ei chael hi’n anodd meistroli meysydd pwnc

Fel arfer, cyflwynir ymyriadau dysgu meistrolaeth dros flwyddyn academaidd, gan fod dewis cymryd mwy o amser ar bwnc neu gynllun gwaith yn gofyn am hyblygrwydd wrth gynllunio ac addysgu cynnwys y cwricwlwm.

Efallai y bydd rhai ysgolion yn penderfynu bod rhai pynciau yn fwy addas ar gyfer dull meistrolaeth nag eraill, ac felly gallai’r amser cyflawni fod mor fyr â hanner tymor.

Wrth gyflwyno dulliau newydd, dylai ysgolion ystyried y camau gweithredu. Am fwy o wybodaeth gweler Putting Evidence to Work – A School’s Guide to Implementation.

At ei gilydd, amcangyfrifir bod costau canolrifol gweithredu dulliau dysgu meistrolaeth yn isel iawn. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â dulliau dysgu meistrolaeth yn codi’n bennaf o hyfforddiant datblygiad proffesiynol i staff addysgu, sydd fel arfer yn gost gychwynnol ar gyfer cyflwyno’r dull newydd.

Er bod yr amcangyfrif cost cyfartalog ar gyfer dysgu meistrolaeth yn isel iawn, mae’r ystod o ran costau hyfforddiant datblygiad proffesiynol, a’r opsiwn i dalu am hyfforddiant parhaus a staff ychwanegol i ddarparu mwy o hyblygrwydd ar yr amserlen, yn golygu y gall costau amrywio o isel iawn i gymedrol.

Bydd gweithredu dysgu meistrolaeth hefyd yn gofyn am gyfnod cymedrol o amser staff, o’i gymharu â dulliau eraill. Dylai arweinwyr ysgolion fod yn ymwybodol o’r amser staff ychwanegol sydd ei angen a meddwl yn ofalus am weithgareddau eraill y gallai fod angen iddynt dorri nôl arnynt i ddarparu’r cymorth ychwanegol hwn.

Ochr yn ochr ag amser a chost, dylai arweinwyr ysgolion ystyried sut i sicrhau’r gefnogaeth fwyaf posibl i ddysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd ac osgoi gweld rhai disgyblion yn diflasu neu’n rhwystredig wrth iddynt aros i eraill feistroli cynnwys.

Mae dibynadwyedd y dystiolaeth ynghylch dysgu meistrolaeth yn cael ei ystyried yn isel. Nodwyd 80 o astudiaethau a oedd yn bodloni’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y Pecyn Cymorth. Ar y cyfan, collodd y pwnc ddau glo clap ychwanegol oherwydd:

  • Mae canran fach o astudiaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar. Gallai hyn olygu nad yw’r ymchwil yn gynrychioliadol o’r arfer presennol.
  • Nid yw canran fawr o’r astudiaethau yn hap-dreialon rheoledig. Er bod cynlluniau astudio eraill yn dal i roi gwybodaeth bwysig am effeithiolrwydd dulliau, mae risg bod canlyniadau’n cael eu dylanwadu gan ffactorau anhysbys nad ydynt yn rhan o’r ymyriad.

Fel gydag unrhyw adolygiad o dystiolaeth, mae’r Pecyn Cymorth yn crynhoi effaith gyfartalog dulliau wrth ymchwilio iddynt mewn astudiaethau academaidd. Mae’n bwysig ystyried eich cyd-destun a chymhwyso eich barn broffesiynol wrth weithredu dull yn eich lleoliad.

Cryfder y dystiolaeth
Nifer yr astudiaethau80
Adolygiad wedi’i ddiweddaru ddiwethafMedi 2021